180 likes | 354 Views
Beth nesaf? Bywyd ar ôl blwyddyn 13. Beth yw’ch opsiynau ar ôl gadael yr ysgol/coleg?. Pa swydd sydd gen i?. I ddechrau ’ r wers. Dw i’n mwynhau’r awyrgylch gwaith hyblyg Mae datrys problemau yn rhan o’m swydd Dw i angen bod yn drefnus
E N D
Beth nesaf? Bywyd ar ôl blwyddyn 13 Beth yw’ch opsiynau ar ôl gadael yr ysgol/coleg?
Pa swydd sydd gen i? I ddechrau’r wers • Dw i’n mwynhau’r awyrgylch gwaith hyblyg • Mae datrys problemau yn rhan o’m swydd • Dw i angen bod yn drefnus • Pasiais fy arholiadau lefel A a ches i hyfforddiant yn y gwaith • Dw i’n ennill cyflog da • Rhan o’r swydd yw rheoli’r tils ar gyfer ein bwytai a gwestai • Dw i’n gweithio yn y busnes pêl-droed • Dw i’n cysylltu pobl â gwybodaeth • Dw i’n defnyddio graffeg ac animeiddio i greu effaith weledol • Dw i angen deall y gynulleidfa darged • Mae gradd gen i • Mae angen i mi ddiweddaru fy sgiliau trwy’r amser • Dw i’n ennill cyflog da • Mae fy nghwmni yn cyflogi 40 o bobl
Atebion i’r gweithgaredd Elaine – Rheolwr TG i Glwb Pêl-droed Chelsea a Chelsea Village (nifer o gwmnïau sy’n ymdrin â gwestai, marsiandïaeth deithio, cynadleddau a gwleddau a maes hyfforddi) Lisa – Dylunydd Gwefan a Rheolwr Prosiect i dîm datblygu gwe o 5 dyn Oes gradd gennych i gael y swydd rydych am ei chael? Defnyddiwch y wers hon i ddechrau meddwl am eich dyfodol chi
Beth yw “Gyrfa”? Gwaith / Swydd Gweithgareddau Teulu, Cymunedol a Gwirfoddol Addysg Hyfforddiant Eich llwybr trwy fywyd
Swydd neu Yrfa? Rhai diffiniadau ar gyfer y byd gwaith: • Galwedigaeth: grŵp o swyddi sydd â nodweddion tebyg sydd angen sgiliau tebyg, e.e. triniwr gwallt, athro, rheolwr prosiect. • Swydd: swydd benodol gyda dyletswyddau penodol mewn lle penodol, e.e. athro mathemateg yn Ysgol Uwchradd yr Hendre. Gall swyddi fod yn rhai amser llawn, rhan-amser, parhaol, dros dro, gyda thâl neu’n wirfoddol, ac mae gan rai pobl fwy nag un swydd ar yr un pryd. • Gyrfa: llwybr gydol oes trwy ddysgu a gwaith. Mae’n bosibl rheoli gwaith / addysg / gwaith cymunedol a gwirfoddol mewn sawl ffordd i wella’ch rhagolygon gyrfa.
Mae help ar gael! Athrawon, rhieni, cynghorwyr gyrfa, ffrindiau a theulu Gwybodaeth am waith a swyddi Ffurflenni cais a CVs Gwybodaeth am gyrsiau Gwneud penderfyniadau Paratoi am gyfweliad
Beth yw’r opsiynau? CHI Blwyddyn Fwlch Prifysgol Hyfforddiant Cyflogaeth
Trafodwch ac ysgrifennu nodiadauPam rydych chi o blaid ac yn erbyn yr opsiynau hyn?
O blaid Dechrau ennill cyflog amser llawn Ymarferol Cyfleoedd i ddysgu yn y swydd Dim dyledion prifysgol Gallwch astudio’n rhan-amser Gallwch fynd i’r brifysgol yn ddiweddarach I’w hystyried Mwy a mwy o yrfaoedd yn gofyn am raddau e.e. Cyfrifeg Gwaith cymdeithasol Y Gyfraith Newyddiaduraeth Rhagolygon tymor hir Cystadleuaeth Cyflogaeth
Cyflogaeth Yn draddodiadol, ble mae’r swyddi ar ôl Lefelau A? Bancio Manwerthu Awdurdodau Lleol Lluoedd Arfog Arlwyo Swyddi dylunio technegol Iechyd – nyrsio cynorthwyol (auxiliary), ambiwlans Teithio – asiantaeth deithio, criw caban awyren Gwasanaethau cyhoeddus – yr heddlu, swyddogion tân Rhybudd GWASGFA GREDYD 2009 Mae llawer llai o swyddi ar gael ar hyn o bryd, ond cadwch lygad ar dueddiadau yn y dyfodol – bydd prinder sgiliau mewn rhai o’r meysydd hyn, a bydd angen pobl i gymryd lle pobl sy’n ymddeol.
Hyfforddiant / Prentisiaethau O blaid • Arwain at gymwysterau a gydnabyddir - e.e. NVQs • Dull ymarferol i ddysgu • Mae’n bosibl mynd i Addysg Uwch mewn rhai achosion • Rhyddhad bloc neu ryddhad dydd i fynd i’r coleg • Mantais dros pobl ifanc 16 oed sy’n gadael yr ysgol, mwy aeddfed ac yn gallu canolbwyntio’n well • I’w hystyried • Rhaid bod yn ymrwymedig – angen 3 – 4 blynedd • Cyflog o £160-180 yr wythnos i ddechrau • Cystadleuol iawn • Rhaid bod yn fodlon dilyn y cyfleoedd e.e. symud o gwmpas Rhybudd GWASGFA GREDYD 2009 – llawer o brentisiaethau ar gael
O blaid Rhaid cynllunio ac ymchwilio’n dda Gwiriwch gyda’r brifysgol a ydyn nhw’n ei gymeradwyo Cyfle i weithio a chynilo arian ar gyfer mynd i’r brifysgol Profiad teithio gwych I’w hystyried Anrhrefnus – blwch ar CV a chais prifysgol Gall fod yn ddrud – angen cynllunio Dyw rhai cyrsiau ddim yn hoffi myfyrwyr sy’n cymryd blwyddyn fwlch. GWIRIWCH YN OFALUS. Blwyddyn Fwlch cyn mynd i’r brifysgol Rhybudd GWASGFA GREDYD 2009 Mae hi’n arbennig o anodd dod o hyd i waith ar gyfer Blwyddyn Fwlch ar hyn o bryd.
Addysg Uwch –Prifysgol • 40% o fyfyrwyr yn mynd i’r brifysgol • Gallu agor mwy o ddrysau – dwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith os nad oes gradd gennych • Mae graddedigion yn ennill £150,000 mwy ar hyd eu bywyd na phobl sydd heb radd • Mae angen gradd ar gyfer mwy a mwy o swyddi • Gwaith cymdeithasol, Nyrsio, Cyfrifeg • Rhybudd GWASGFA GREDYD 2009 - • Mae mwy o fyfyrwyr yn gwneud cais am leoedd, felly bydd mwy o gystadlu ar gyfer y lleoedd hynny.
Addysg Uwch – Prifysgol Cymwysterau trwy Addysg Uwch Doethuriaeth (PhD) Gradd Meistr (MSc, MA, MBA) Gradd Israddedig (BA, BSc, LLB) Gradd Sylfaen
Pam rydym ni’n meddwl am hyn nawr? • Blwyddyn 12- Tymor yr Haf – dechrau meddwl am eich dyfodol a dechrau gwneud ymchwil • Blwyddyn 13- Medi – mae rhai cynlluniau blwyddyn fwlch yn cymryd blwyddyn i’w trefnu • Hydref 15fed – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i Rydychen / Caergrawnt / Meddygaeth / Milfeddygaeth / Deintyddiaeth • Hanner tymor mis Hydref – Mae angen amser ar athrawon i ysgrifennu’ch geirda • Ionawr 15fed – Dyddiad cau ar gyfer pob cais • Ionawr – prentisiaethau / cynlluniau hyfforddi / swyddi sy’n cael eu hysbysebu ar gyfer dechrau yn yr haf
Dyddiadau cau • Cewch ychwanegu eich dyddiadau eich hun yma
Diffinio’r penderfyniad Sefydlu’r opsiynau Casglu gwybodaeth am yr opsiynau Ystyried y pethau positif a negyddol Dewis yr opsiwn orau Gwneud eich penderfyniad Beth rydych eisiau ei wneud ar ôl blwyddyn 13? Beth yw’ch dewisiadau? Gwneud ymchwil ar UCAS.com, gwefannau prifysgolion, prosbectysau, cyfleoedd swyddi, prentisiaethau a chyllid. Edrych ar y ddwy ochr o’ch opsiynau Beth rydych wir eisiau ei wneud – efallai byddwch yn newid eich meddwl tra byddwch yn gwneud eich ymchwil Dechrau ar eich cais Gwneud penderfyniadau – eto!
Gwerthuso’ch penderfyniadYdych chi wedi dysgu unrhyw beth i newid eich meddwl?