360 likes | 1.36k Views
CYMALAU. Beth yw cymalau?. Rhannau o frawddeg yw CYMALAU Fel arfer, mae un ferf i bob cymal Beth yw trefn brawddeg syml yn y Gymraeg? BERF + GODDRYCH + GWRTHRYCH Gwelodd Sian blismon. BERF yw’r weithred Gwelodd GODDRYCH yw’r un sy’n gwneud y weithred Sian
E N D
Beth yw cymalau? Rhannau o frawddeg yw CYMALAU Fel arfer, mae un ferf i bob cymal Beth yw trefn brawddeg syml yn y Gymraeg? BERF + GODDRYCH + GWRTHRYCH Gwelodd Sian blismon
BERF yw’r weithred Gwelodd GODDRYCH yw’r un sy’n gwneud y weithred Sian GWRTHRYCH sy’n ateb y cwestiwn ‘beth?’ i’r ferf blismon Sylwer: GWRTHRYCH BERF BERSONOL YN TREIGLO’N FEDDAL
Beth yw enwau’r cymalau? Mae CYMALAU yn cael eu henwi yn ôl y gwaith maen nhw’n ei wneud • CYMAL PERTHYNOL/ANSODDIERIOL ei waith – disgrifio’r enw yn y prif gymal • CYMAL ENWOL Mae’n gwneud yr un gwaithâ gwrthrych y ferf, mae’n gweithredu fel gwrthrych i’r ferf yn y prif gymal
CYMAL ADFERFOL Mae’n gwneud yr un gwaith ag adferf. Fel arfer, mae’n ychwanegu ein gwybodaeth am y ferf. Gall hefyd gael ei ddefnyddio i ddangos amod
CYMAL PERTHYNOL Yn aml, dechreuir CYMAL PERTHYNOL gyda rhagenw perthynol: Cadarnhaol – a, y, yr, ‘r Negyddol – na, nac Roedd y bachgen awelais ar y teledu neithiwr, yn canu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst. Mae’r ferch na lwyddodd i basio ei phrawf gyrru am y pumed tro, wedi rhoi’r ffidil yn y to.
Sut i greu brawddeg? Y gyfrinach yw creu prif gymal syml, ac yna rhoi mwy o wybodaeth am y goddrych yn y prif gymal, gan ddefnyddio rhagenw perthynol i gychwyn y cymal. Dyma’r ferch awaharddwyd o’r ysgol yr wythnos diwethaf. Roedd y bachgen na lwyddodd i gael lle yng Ngholeg Rhydychen yn hynod o siomedig.
Beth am greu? • a welodd • na chlywom • a ysgrifennwyd • na lwyddodd • a fwytodd
CYMAL ENWOL • Yn aml, dechreuir CYMAL ENWOL gyda ffurf ar y ferf ‘bod’ • Mae’n gweithredu fel gwrthrych y ferf yn y prif gymal h.y. mae’n ateb ‘beth?’ i’r ferf
Sut i greu brawddeg? Y gyfrinach yw creu prif gymal syml, ac yna ateb ‘beth?’ i’r ferf yn y prif gymal gan ddefnyddio ffurf ar ‘bod’. Clywodd Sion ei fod wedi pasio’r arholiad BETH? Prif Gymal Cymal Enwol
CYMAL ENWOL - amser presennol Er mwyn creu Cymal Enwol yn yr amser presennol, mae angen defnyddio ‘BOD’ e.e. Rydw i’n meddwl bod y gwaith yn anodd Nid oes angen MAE neu ROEDD gyda ‘bod’
Ffurfiau ‘BOD’ Ar adegau mae angen rhagenw dibynnol blaen o flaen ‘bod’. Rhaid defnyddio’r ffurf gywir: fy mod i ein bod ni dy fod di eich bod chi ei fod o eu bod nhw ei bod hi Sylwer ar y treigladau
Negyddu CYMAL ENWOL Wrth negyddu cymal enwol, mae’n rhaid i’r negydd ddod o flaen y ferf bod fi ddim X nad ydw i bod ti ddim X nad wyt ti bod o ddim X nad ydy o bod hi ddim X nad ydy hi bod ni ddim X nad ydym ni bod chi ddim X nad ydych chi bod nhw ddim X nad ydyn nhw
Beth am greu? Lluniwch frawddegau yn cynnwys CYMAL ENWOL gan ddefnyddio’r berfau canlynol: dywedodd clywais meddyliodd penderfynodd awgrymais
Amserau eraill y ferf Gyda’r DYFODOL neu’r AMODOL rydyn ni’n defnyddio y + berf na + berf Clywodd Siony byddyn cael lle yn y coleg ym mis Medi Credaf na fydd hyn yn gweithio
mai Defnyddir ‘mai’ mewn cymalau enwol yn hytrach na ‘bod’ pan mae angen rhoi pwyslais ar yr enw neu air cyntaf yr is-gymal e.e. Credaf mai hwn yw’r ateb cywir. Mae o’n bendant mai dyma’r ffordd ymlaen.
negyddol Defnyddir ‘nad’ wrth ffurfio cymal negyddol nid ‘mai ddim’ Credaf nad hwn yw’r ateb cywir Mae o’n bendant nad dyma’r ffordd ymlaen.
Beth am greu? Lluniwch frawddegau yn dangos ystyr a defnydd y canlynol: na fydd mai nad fy mod i y byddaf Cofiwch roi prif gymal syml ar gychwyn y frawddeg
CYMAL ADFERFOL Mae CYMAL ADFERFOL yn gwneud yr un gwaith ag adferf. • Fel arfer, mae’n ychwanegu at ein gwybodaeth am y ferf. • Gall gael ei ddefnyddio i ddangos amod hefyd
Roedd y bachgen yn gweithio yn dda Roedd y bachgen yn gweithio fel pe bai ar frys Sylwer mai dweud mwy am y ferf a wneir yma ADFERF CYMAL ADFERFOL
Gwahaniaethu rhwng ‘a’ ac ‘y’ Mae’r rhagenw perthynol ‘a’ yn cymryd lle enw ac ymuno dwy frawddeg e.e. Dyma Sion. Achubodd Sion yr eneth. Yn hytrach nag ail-adrodd Sion, gallwn ddefnyddio’r rhagenw perthynol i ymuno’r ddwy frawddeg e.e. Dyma Sion a achubodd yr eneth
Gwelwn fod yr ‘a’ yn gwneud yn lle yr enw Sion, mae’n cyfeirio’n ôl at Sion. Mae Sion felly’n RHAGFLAENYDD i’r rhagenw perthynol ‘a’: Dyma Sionaachubodd yr eneth o’r afon Hwn yw’r dyna saethodd y ci defaid Caia losgodd ei wallt yn fflam y gannwyll
SYLWER Mae’n beth doeth cadw’r rhagenw perthynol yn agos at ei ragflaenydd e.e. Dyma’r fercha welais neithiwr Cafodd y planta dorrodd y ffenestr ffrae gan yr athro
Y YR a ‘R Defnyddir y rhagenw perthynol Y, YR neu ‘R pan ddylynir y rhagenw perthynol gan ragenw personol neu arddodiad personol Rhagenw personol = fy, dy, ei, ein, eich, eu Arddodiad personol = arddodiad rhedadwy e.e. arno fo, amdanyn nhw, iddi hi, wrthon ni, ganddyn nhw, ata i a.y.y.b.
Enghreifftiau Dyma’r dyn y gwelais ei gar yn yr afon Hwn yw’r car yr eisteddodd yr eliffant arno Hon yw’r ferch y gwelais ei brawd yn y dref
Cywiro brawddegau Dyma’r man a welais ei ysbryd neithiwr. a welais > y gwelais Angen y rhagenw perthynol ‘y’ gan fod rhagenw personol yn dilyn y rhagenw perthynol
Dyma’r dyn yr enillodd y fedal arian. yr enillodd > a enillodd Angen y rhagenw perthynol ‘a’ gan nad oes rhagenw personol nac arddodiad rhedadwy yn dilyn y rhagenw perthynol
Derbyniais y feirniadaeth bod fi ddim yn gweithio’n ddigon caled. bod fi ddim > nad ydw i Rhaid i’r negydd ddod o flaen y ferf wrth negyddu cymal
Fe adwaenon nhw ei gilydd yn yr orsaf er eu bod nhw ddim wedi cwrdd cyn hynny. eu bod nhw ddim > nad oedden nhw Rhaid i’r negydd ddod o flaen y ferf wrth negyddu cymal
Dw i’n sicr mae o’n fy adnabod mae o’n > ei fod o’n Angen defnyddio ‘bod’ wrth greu cymal enwol a rhoi rhagenw dibynnol o’i flaen