180 likes | 351 Views
brodwaith. Brodweithio Drwy Gymorth Cyfrifiadur. Mae peiriant brodio drwy gymorth cyfrifiadur yn trosi brasluniau sydd wedi cael eu tynnu â llaw neu â chyfrifiadur yn ddyluniadau wedi’u pwytho’n gyflym iawn.
E N D
Brodweithio Drwy Gymorth Cyfrifiadur. Mae peiriant brodio drwy gymorth cyfrifiadur yn trosi brasluniau sydd wedi cael eu tynnu â llaw neu â chyfrifiadur yn ddyluniadau wedi’u pwytho’n gyflym iawn.. Gall dyluniadau fod yn frodwaith sengl syml neu gallant gael eu datblygu’n ddelweddau mwy cymhleth. Gallwch ddefnyddio brodio drwy gymorth cyfrifiadur i osod haenau dros dechnegau eraill megis Bondaweb neu batic. Gellir defnyddio sganiwr llaw neu raglen cyfrifiadurol o’r enw PEdesign i gopio i mewn ddyluniadau.
Dylunio brodwaith ar gyfer clustog 50mm 50mm Gan y byddwn yn defnyddio sganiwr llaw i greu ein logo bydd angen i chi gofio nifer o bethau : 1. Y maint mwyaf i’r logo – pam? 2. Dim ond mewn du y gallwch luniadu’ch dyluniadau – pam? 3. Bydd yn rhaid i chi ystyried y manylder yn eich dyluniadau – dydy’r sganiwr ddim yn gallu ymdopi â mân linellau neu ysgrifennu. Pa un o’r dyluniadau hyn fydd yn sganio orau?
Dylunio brodwaith ar gyfer clustog. Os ydych yn dylunio’n defnyddio cyfrifiadur bydd angen i chi ystyried yr agweddau canlynol: • Gadewch ddigon o le gwag o amgylch y dyluniad pan rydych yn ei luniadu/ argraffu. • gwnewch yn siwr nad yw eich dyluniad yn rhy agos at ymyl y dudalen. Bydd y sganiwr yn nodi ymyl y dudalen ac yn ei gofnodi fel llinell, bydd hyn yn difetha’ch dyluniad. • er mwyn osgoi gwastraffu adnoddau gwiriwch faint eich dyluniad cyn ei argraffu. • argraffwch y dyluniad mewn dau faint gwahanol ar un dudalen – un ychydig yn fwy na’r llall a’r ddau ar wahan ar ganol y dudalen.
Tri sgwar y tu mewn i’w gilydd – dyluniad syml on effeithiol. Dyma’r dyluniad gorau – mae’r cylch yn newid i sgwar. Dydy’r dyluniadau chwyrlïad ddim mor ddiddorol â’r rhai eraill. Mae’r siap amlinellol yn dda iawn ond mae angen i ganol y dyluniad fod yn fwy eglur. Lluniadwch ystod o syniadau posibl ar gyfer brodiweithio drwy gyfrwng cyfrifiadur., Mae’r llinellau trymach yn edrych yn well Pa ddyluniad ydych chi’n hoffi orau a pham?
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodweithio Sgrin gyffwrdd Peiriant brodio. Braich frodio Byddwchangen peiriant brodio a ffram frodio blastig.Dewiswch eich dyluniad ar y sgrin gyffwrdd.
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gwahanwch dop a gwaelod y ffram. Rhowch edau yn y lliwiau rydych wedi’u dewis ar gyfer y brodwaith yn y peiriant a’r bobin..
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gosodwch ffabrig cefnidir yn y ffram. Mae hyn yn helpu i gadw’r ffabrig yn gadarn ac yn atal y dyluniad rhag ymestyn.
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gosodwch eich ffabrig yn y ffram, gwiriwch nad yw wedi plyguo gwbl, yn enwedig oddi tanodd. Byddyn rhaid i’r ffabrig fod yn dynn yn y ffram er mwyn i’r peiriant brodio weithio’n iawn.
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gosodwch ytop yn y ffram iddal y gwahanol haenau gyda’i gilydd. Gwnewch yn siwr fod y ffabrig yn dynn.
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Llithrwch y ffram i mewni fraich y peiriant brodio. Gwiriwch fod y ffram i mewn yn iawn acnad yw’r ffabrig wedi plygu yn rhywle oddi tanodd. Gwiriwch fod y brodwaith wedi ei osod yn y lle cywir a’ifody maint cywir. (ar y sgrin gyffwrdd) Sgrin gyffwrdd Braich frodio.
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Pwyswch y botwm brodio gwyrdd a gadewchi’r peiriantwneud y gwaith i gyd. Bydd wedyn yn dechrau gwnio’ch dyluniad. Os ydych yn cael problemau fel nodwydd neu edau’n torri pwyswch y botwm gwyrdd i stopio’r peiriant. Bydd y peiriant yn eich hysbysu o unrhyw broblemau. . . Botwm cychwyn.
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Gwiriwch fod popeth yn iawn ( osoes angen gallwch redeg y peiriant eto gan y bydd yn cydweddu gyda’r gweddill cyn i chi symudy ffram neu’r ffabrig). Unwaith rydych wedi gorffen tynnwch y ffram o’r peiriant yn ofalus.
Sut i ddefnyddio’r peiriant brodio Torrwch yr edafedd ar eich brodwaith i’w dacluso ac rydych wedi gorffen! Da iawn.
Esiamplau o ddyluniadau brodwaith Haenau o ffabrig sydd wedi cael eu torri ar ôl brodio. Syniadau dylunio Dyluniadau brodwaith amlinellol. Dyluniad blodau Dyluniadau brodwaith sydd wedi cael eu llenwi
Esiamplau o ddyluniadau brodwaith Ffynonellau ysbrydoliaeth Syniadau dylunio Bwyd yn ysbrydoliaeth Dyluniadau brodwaith amlinellol o ddyluniadau pobi