140 likes | 318 Views
Mordwyo. Nodau dysgu Gallu disgrifio’r gwahaniaeth rhwng mesur sgalar a fector . Gallu cyfrifo cyflymder , cyflymu a’r pellter a gyflawnwyd . Gallu cyfrifo symiau fector o edrych ar ddiagramau fector o fectorau cyfochrog ( Haen sylfaenol ) neu ar onglau sgwâr ( haen uwch ).
E N D
NodaudysguGalludisgrifio’rgwahaniaethrhwngmesursgalar a fector.Gallucyfrifocyflymder, cyflymua’rpellter a gyflawnwyd.Gallucyfrifosymiaufector o edrycharddiagramaufector o fectoraucyfochrog (Haensylfaenol) neuaronglausgwâr (haenuwch).
Bad Achub St Ives yn cael ei galw i achubiad mewn moroedd garw. Galwyd bad achub St Ives i achub criw llong bysgota a oedd wedi torri mewn moroedd garw tua 40 milltir oddi ar yr arfordir. Mae pum gwirfoddolwr o griw bad achub yn rhan o’r achubiad, mewn gwyntoedd sy’n chwythu ar gyflymder hyd at rym 6 a môr garw iawn. Gallai’r achubiad gymryd 10 awr neu ragor. Derbyniwyd yr alwad tua 6.30 y bore ar ôl clywed adroddiadau fod llong bysgota Brixham 24 metr, ac arni bump o bobl, wedi torri. Yn ôl swyddog y wasg bad achub St Ives, Derek Hall, byddai’n cymryd mwy na 2 awr i gyrraedd y cwch, sydd tua 40 milltir i’r gogledd / gogledd orllewin o St Ives, a thua 8 awr i’w thynnu’n ôl i Newlyn i’w thrwsio.
Y Mersey’n cyrraedd safle’r achubiad. Y Mersey’n cynnal cyflymder cyson ar y dŵr agored. Mae tractor lansio’n tynnu’r Mersey i safle’r lansio. Gollwng y Mersey i’r dŵr. Y Mersey’n cyflymu.
Cyn bo hir, bydd bad achub dosbarth Mersey gorsaf St Ives yn cael ei chyfnewid am fad achub newydd Dosbarth Shannon. Isod gwelir rhestr o fanteision y Shannon dros y Mersey. Trafodwch y manteision hyn a cheisiwch eu rhoi yn nhrefn pwysigrwydd. Llai o berygl niwed i’r bad a gwirfoddolwyr y criw ar y lan yn ystod lansio ac adfer y bad achub. Adferiad cynt ar ôl glanio. Angen llai o wirfoddolwyr Gellir paratoi’r bad achub yn gynt i’w ail-lansio ar ôl iddi fod allan. Mae’r Shannon yn gynt. Defnyddio gyriant jetiau dŵr, nid llafnau gwthio.
Mesuriadau Sgalar Daw’r alwad i orsaf y bad achub… Mae’r llong bysgota 80km o’r lan. Beth yw’r broblem gyda’r wybodaeth ‘sgalar’ hyn? Sut y gellir gwella arno?
Mesuriadau fector Daw galwad newydd i orsaf y bad achub… Mae llong bysgota 80km o’r lan ar gyfeiriad o 000 gradd Gogledd Magnetig i’r orsaf bad achub. Dyma nifer ‘fector’ – mae ganddo faint a chyfeiriad, megis cyflymder. (Buanedd yw’r maint sgalar)
Mae’r graff cyflymder – amser (graff c) yn awgrymu bod y bad achub yn teithio i’r un cyfeiriad o’r eiliad y mae’n gadael y lansiwr hyd nes y bydd yn cyrraedd y llong bysgota. Petaech chi’n llywio’r bad achub dosbarth Shannon, beth fyddai’n effeithio ar eich cyfeiriad wrth fynd allan i’r digwyddiad?
Cyflymder o ganlyniad Os yw’r bad achub Shannon yn symud allan o’r harbwr tua’r gogledd ar gyflymder o 30km/h ond fod llif y llanw’n symud tua’r de ar gyflymder o 5km/h, beth yw cyflymder y bad achub o ganlyniad? Pe bai llif y llanw’n rhedeg i’r cyfeiriad arall ar yr un cyflymder, beth fyddai’r cyflymder o ganlyniad?
Daw galwad brys oddi wrth fad sydd wedi torri yn union i’r gogledd o’r orsaf. Bellach mae’r llanw’n symud o’r dwyrain i’r gorllewin ar gyflymder o 18km/h. Os yw’r llywiwr yn anelu’n syth i gyfeiriad yr alwad frys, ni fydd y llong bysgota yno mwyach. Rydym yn mynd i gyfrifo’r cyflymder o ganlyniad a chyfeiriad llwybr y llywiwr os yw’n dymuno torri ar draws llwybr y bad achub.
Cyflymder y llanw = 18km/h Cyflymder y bad achub 50km/h
Cyfrifo cyflymder o ganlyniad Gwnewch lun o’r cyflymderau ar ffurf triongl sgwaronglog a labelwch yr ochrau. Defnyddiwch theorem Pythagoras i gyfrifo hyd yr hypotenws (y cyflymder o ganlyniad) a2 = b2 + c2 felly mae a2 = (50x50) + (18x18) a2 = 2500 + 324 = 2824 a = √2824 = 53 km/h c = 18km/h b = 50km/h a?? = Cyflymder o ganlyniad
Cyfrifo ongl y fector o ganlyniad 18km/h Rhaid i’r llywiwr gyfrifo’r cyfeiriad (Ѳ) y bydd angen i’r bad achub ei gymryd yn y pen draw. 50km/h 53km/h Ѳ Defnyddiwch drigonometreg (SOH, CAH, TOA). Sin = opp/hyp so..... sinѲ = 18/53 so sinѲ = 0.34 Ѳ = sin-1 0.34 = 020 gradd (tua’r dwyrain, o’r gogledd) Felly er y bydd yn llywio tua’r gogledd, bydd effaith y llanw’n golygu y bydd cyfeiriad y bad dros y môr yn 020 gradd i’r dwyrain.
Cynnal a chadw’r llynges yn dda Edrychwch ar yr atebion sydd gennych ar gyfer problem yr injan a dorrodd ar daflen waith 2. Trafodwch pam ei bod hi mor hanfodol i waith yr RNLI eu bod yn cynnal a chadw’u holl fadau i safon uchel.