E N D
roedd hin noson dywyll oer gwlyb a gwyntog ar glaw yn rhedeg fel afon i lawr ffenestrir lolfa ach y fi meddai sioned dwi wedi cael llond bol ar y tywydd yma aros di nes dawr haf meddai john ei brawd cawn ni ddigon o hwyl a sbri wedyn beth am gêm o wyddbwyll chess yn saesneg brysiwch blant gwaeddodd mam or gegin does dim amser i chwarae gêm rwan dydych chi ddim wedi gosod y bwrdd i de eto oes rhaid i fi wneud popeth fy hun edrychodd sioned ai brawd yn ddiflas ond trodd y ddau ac anelu am y gegin.
Roedd hi’n noson dywyll, oer, gwlyb a gwyntog a’r glaw yn rhedeg fel afon i lawr ffenestri’r lolfa.“Ach y fi”, meddai Sioned.“Dwi wedi cael llond bol ar y tywydd yma.” “Aros di nes daw’r haf”, meddai John, ei brawd.“Cawn ni ddigon o hwyl a sbri wedyn!“Beth am gêm o wyddbwyll (chess yn Saesneg)?” “Brysiwch blant”, gwaeddodd mam o’r gegin. “Does dim amser i chwarae gêm rwan. Dydych chi ddim wedi gosod y bwrdd i de eto!Oes rhaid i fi wneud popeth fy hun ?” Edrychodd Sioned a’i brawd yn ddiflas, ond trodd y ddau ac anelu am y gegin.