110 likes | 243 Views
Locws / Locysau. Diffiniad Locws:. Locws yw llinell sy’n dangos yr holl bwyntiau sy’n bodloni’r rheol a rhoddir. Mewn geiriau eraill mae locws yn dangos sut mae gwrthrych yn symud gyda threigl amser. Locysau. Mae yna bedwar math o locws y byddwch angen eu lluniadu:
E N D
Diffiniad Locws: Locws yw llinell sy’n dangos yr holl bwyntiau sy’n bodloni’r rheol a rhoddir. Mewn geiriau eraill mae locws yn dangos sut mae gwrthrych yn symud gyda threigl amser.
Locysau • Mae yna bedwar math o locws y byddwch angen eu lluniadu: • Locws pwyntiau sydd ar bellter penodol o BWYNT penodol. • Locws pwyntiau sydd ar bellter penodol o LINELL benodol. • Locws pwyntiau sydd yr un pellter o ddwy LINELL benodol. • Locws pwyntiau sydd yr un pellter o ddau BWYNT penodol.
Locws Locws pwyntiau sydd ar bellter penodol o BWYNT penodol A Er mwyn llunio locws y pwyntiau sydd yr un pellter oddi wrth A rydym yn defnyddio cwmpas. Mae hyn yn ffurfio cylch – hynny yw mae pob pwynt ar y cylch yr un pellter oddi wrth ganol y cylch (y radiws)
Locws pwyntiau sydd ar bellter penodol o LINELL benodol R Rydym yn mesur y pellter penodol ac yn llunio dwy linell paralel. Ond a yw hyn yn gyflawn? Na! Er mwyn cwblhau llunio’r locws hwn mae angen i ni ddefnyddio cwmpas Rydym yn mesur y pellter rhwng y llinell penodol ac un o’r llinellau paralel (R) Nawr rydym yn ffurfio dwy hanner cylch gyda radiws y pellter yma.
Locws Locws pwyntiau sydd yr un pellter o ddwy LINELL benodol Er mwyn llunio’r locws hwn rydym yn defnyddio cwmpas unwaith eto. Rydym yn defnyddio’r cwmpas i wneud dau arc ar y ddwy linell Nawr, heb newid maint y cwmpas, rydym yn ffurfio dau arc Nawr rydym yn ymuno’r pwynt lle mae’r ddau arc yn crosei a lle mae’r ddwy linell yn croesi.
Locws pwyntiau sydd yr un pellter o ddau BWYNT penodol Locws A B Er mwyn ffurfio’r locws hwn rydym yn defnyddio cwmpas unwaith eto. Rydym yn defnyddio’r cwmpas i wneud arc o bwynt A. Heb newid maint y cwmpas rydym yn gwneud arc arall o B. Nawr rydym yn ymuno’r pwyntiau lle mae’r arcau’n croesi Gelwir y locws arbennig hwn yn hanerydd perpendicwlar
Rheolau Ychwanegol ` Mae yna ychydig o bethau ychwanegol y mae angen ichi fod yn ymwybodol ohonynt. Enghraifft – Lluniwch locws y pwyntiau sydd a) yn llai na 3cm o bwynt A, b) yn union 3cm o A, c) yn fwy na 3cm o A, ch) o leiaf 3cm o A. a) b) ch) c) A A A A Cofiwch – os yw’r llinell yn cael ei gynnwys mae’n gyflawn, ac os nad yw’n cael ei gynnwys mae’n dorredig.
Locysau Mewn Mwy o Fanylder... Nawr ein bod ni’n gwybod beth yw locws ac yn gallu llunio’r pedwar math gwahanol o locws gallwn symud ymlaen i edrych ar gwestiynau yn debyg i’r rhai sydd yn ymddangos yn yr arholiad. Ar gyfer cwestiynau arholiad mae angen i ni gyfuno mwy nag un locws ar un diagram.
Enghraifft Mae gan Mrs Phillips ddau goeden yn ei gardd, labelir A a B. Mae hi eisiau plannu hadau yn ei gardd sydd yn llai na 3m i ffwrdd o goeden A, a hefyd yn llai na 3m i ffwrdd o goeden B. Lliwiwch ar y diagram isod ble mae’n bosib iddi blannu’r hadau. Mae popeth o fewn y cylch coch yn llai na 3m i ffwrdd o A Mae popeth o fewn y cylch gwyrdd yn llai na 3m i ffwrdd o B • • A B Felly ble gall Mrs Phillips blannu’r hadau? Mae Mrs Phillips yn gallu plannu’r hadau o fewn y rhan melyn
Enghraifft Mae’r diagram isod yn dangos gardd Mrs Jones, sydd o flaen ei thy. Mae ganddi goeden, labelir C ar y diagram. Mae hi am blannu planhigion, ond mae’n rhaid i’r planhigion fod yn llai na 3m o’r goeden, ac yn fwy na 2m o’i thy. Lliwiwch ar y diagram isod ble mae’n bosib iddi blannu’r planhigion. Mae popeth o fewn y cylch gwyrdd yn llai na 3m i ffwrdd o’r goeden. Mae popeth o fewn y darn coch yn fwy na 2m i ffwrdd o’r ty. Ty Mrs Jones • C Felly ble gall Mrs Jones blannu’r planhigion? Mae Mrs Phillips yn gallu plannu’r hadau o fewn y rhan melyn