170 likes | 408 Views
Cadw cofnodion tywydd. Shw’mai Gyfeillion!. Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych! Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut yn union mae casglu a chofnodi’r wybodaeth. Cynllunio eich Ymchwiliad.
E N D
Shw’mai Gyfeillion! Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg ddiwethaf! Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych! Yn y dasg nesaf, byddwn ni’n trafod sut yn union mae casglu a chofnodi’r wybodaeth.
Cynllunio eich Ymchwiliad. Cyn i chi ddechrau unrhyw ymchwiliad mae’n bwysig ystyried cyn cychwyn. Cofiwch, rydym yn ceisio darganfod: ‘Sut y mae newidiadau i dymheredd y gwanwyn yn effeithio ar amser blodeuo bylbiau cennin pedr a crocws’. Beth fyddwch chi yn ei wneud? Darllenwch ymlaen am ychydig o gymorth.
Cwestiynau da i’w gofyn pan yn cynllunio ymchwiliad… • Beth yr ydym yn ei ddisgwyl i ddigwydd? • Pa wybodaeth y dylem ei gasglu? • Sut fyddwn ni yn ei gasglu? • Pa offer fyddwn ni yn ei ddefnyddio? • Sut fyddwn ni yn ei wneud yn brawf teg? • A fydd unrhyw risg neu beryglon?
Rheolau Cofnodi • Mae sut rydyn ni’n casglu gwybodaeth yn bwysig iawn i wneud yn siwr bod eich prawf yn deg, dilynwch fy rheolau cofnodi… • Rhwng Tachwedd ac Ebrill - cadwch gofnod o’r tywydd. • Rhwng Ionawr ac Ebrill cadwch gofnodion blodeuo.
Offer angenrheidiol. • 1 mesurydd glaw • 1 thermomedr • 1 pren mesur • 1 siart tywydd
Cadw cofnod o’r tywydd • Rhwng Tachwedd ac Ebrill, cadwch gofnodion dyddiol o’r tymheredd (°C) a’r glawiad (mm). Edrychwch ar siart tywydd eich ysgol am fanylion. • Cofiwch gadw’ch cofnodion tua’r un amser bob prynhawn – ar amser sy’n gyfleus i chi. • Ar ddiwedd pob wythnos, ewch i’r wefan www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau i anfon eich cofnodion at Athro’r Ardd. • Bydd angen i chi wybod enw defnyddiwr eich dosbarth a’ch cyfrinair.
Amser ymarfer • Rhowch tipyn bach o ddwr yn eich mesurydd glaw. Gofynnwch i bawb yn y dosbarth nodi eu mesuriad yn eu tro. • Ydych chi i gyd wedi nodi’r un ateb? Os na, pam? • Gwnewch yn siwr bod pawb yn darllen yn iawn. • Gwnewch ymarfer debyg gyda’r thermomedr. Os gallwch chi, ymarferwch greu cofnodion y tywydd: Anfonwch eich straeon a’ch lluniau i’n blog bylbiau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter! www.twitter.com/Professor_Plant
Astudiwch a chymharwch(www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau) Ar ôl i chi anfon eich data bydd y wefan yn creu siart dywydd gan roi'ch ysgol ar fap bylbiau'r gwanwyn. Astudiwch siart dywydd eich ysgol a'i chymharu â siartiau tywydd ysgolion eraill.
Cadwch gofnodion wythnosol i gael cyfle i ennill taith gweithgaredd natur!
Yn cynnwys: Bws am ddim a diwrnod o weithgareddau natur dan arweiniad ar gyfer un dosbarth. Bydd enillydd o dde Cymru yn ymweld â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru neu bydd enillydd o ogledd Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru. Mae Ymddiriedolaeth Edina yn trefnu teithiau lleol i ysgolion yn Lloegr a’r Alban. Ewch i www.edinatrust.org.uk.
I gael cyfle i ennill:Cofiwch anfon eich cofnodion tywydd wythnosol i’r wefan erbyn 27 Mawrth. Byddwn yn cyhoeddi’r enillydd ar 27 Ebrill a caiff y trip ei gynnal ar wythnos 18 Mai. Bydd pob disgybl sy'n anfon ei gofnodion yn derbyn Tystysgrif Gwyddonydd Gwych ac ychydig o eginblanhigion. Pwysig: Os na allwch chi anfon eich data cysylltwch ag Athro'r Ardd: scan@amgueddfacymru.ac.uk
Nawr, gobeithio eich bod chi’n deall: • Pa wybodaeth ddylech chi ei chasglu. • Pa offer ddylech chi ei defnyddio. • Sut i gasglu’r wybodaeth. • Llongyfarchiadau ar gwblhau’r dasg! • Rydych chi’n Wyddonwyr Gwych go iawn! • Hwyl!