160 likes | 470 Views
Oliver Cromwell. Arwr ynteu Gelyn y bobl?. Mawrth 1657. Iddo ef mae’r diolch ein bod wedi trechu ein gelynion. Rydyn ni’n edrych ymlaen am heddwch dan ei arweiniad. Oliver , y chi rydyn ni eisiau fel ein Brenin newydd!.
E N D
Mawrth 1657 Iddo ef mae’r diolch ein bod wedi trechu ein gelynion. Rydyn ni’n edrych ymlaen am heddwch dan ei arweiniad. Oliver , y chi rydyn ni eisiau fel ein Brenin newydd! Mae Oliver Cromwell yn ddyn da. Mae wedi’n harwain drwy’r Rhyfel Cartref, un o’r cyfnodau mwyaf peryglus yn ein hanes. Ar sail y gosodiadau hyn, beth roedd pobl yn ei feddwl o Cromwell yn 1657?
Roedd Oliver Cromwell wedi marw ers dwy flynedd. Cafodd ei alw’n fradwr gan y Senedd, a chafodd ei gorff marw ei hongian. Ionawr 1661 O’r diwedd mae Oliver Cromwell yn cael yr hyn mae’n ei haeddu. Ar sail y gosodiadau hyn beth roedd pobl yn ei feddwl o Cromwell yn 1661? Pam y gallai pobl fod wedi newid eu meddyliau amdano?
Oliver Cromwell Ffeil o Ffeithiau • Cafodd y portread hwn ei beintio tua 1650; Cromwell ar y pryd oedd y dyn cryfaf yn y wlad. “Peintiwch y darlun ohonof yn union fel rydw i a pheidiwch â’m harddu o gwbl. Dangoswch bob llinell, ploryn, dafaden a phopeth arall a welwch arnaf. Neu ni roddai ffyrling i chi amdano.”
Oliver Cromwell Ffeil o Ffeithiau Roedd yn mwynhau gweithgareddau awyr agored fel hela a marchogaeth. Roedd yn ddyn emosiynol iawn. Roedd ganddo dymer wyllt. Gallai fod yn gas iawn wrth bobl. Ni fyddai’n gwisgo’n daclus. Pan oedd yn siarad gerbron y Senedd yn 1640, roedd ei ddillad yn fudr. Roedd yn credu mewn gonestrwydd a siarad plaen.
Oliver Cromwell Ffeil o Ffeithiau Weithiau byddai Cromwell yn cymryd dyddiau i wneud penderfyniad. Dro arall byddai’n penderfynu ar amrantiad. Pan aeth Cromwell i’r Senedd am y tro cyntaf gwnaeth lawer o gamgymeriadau syml. Gallai meddyg modern ddweud bod Cromwell yn dioddef o iselder ysbryd. Gwnaeth Cromwell lawer o elynion. Roedd rhai’n dweud ei fod yn greulon a hunanol. Mynnai Cromwell ei fod yn gweithredu bob amser er budd y wlad. Roedd Cromwell yn 43 mlwydd oed pan oedd yn ymladd yn y Rhyfel Cartref. Dywedodd ei fod ‘wedi mwynhau’r profiad’.
Oliver Cromwell Ffeil o Ffeithiau - Tasg • Ysgrifennwch ffeil o eiriau sy’n disgrifio Oliver Cromwell. Defnyddiwch eich geiriau eich hun neu eiriau a ddefnyddiwyd eisoes i’w ddisgrifio.
Oliver Cromwell a Chrefydd Pam roedd crefydd mor bwysig i Cromwell?
Oliver Cromwell a Chrefydd • Yn y 1600au roedd y rhan fwyaf o bobl Prydain yn grefyddol. • Bydden nhw’n yn mynd i’r eglwys bob Sul.
Oliver Cromwell a Chrefydd Roedd dwy brif grefydd bryd hynny • Y grefydd Gatholig (Catholigiaeth) • Y grefydd Brotestannaidd (Protestaniaeth)
Oliver Cromwell a Chrefydd Yr Eglwys Gatholig • Y Pab yn Rhufain yw pennaeth yr eglwys • Dylai’r Beibl a’r gwasanaethau fod yn Lladin • Dylai’r eglwysi fod wedi’u haddurno’n wych • Dylai’r offeiriaid wisgo dillad lliwgar • Ni ddylai offeiriaid briodi • Y Nadolig a’r Pasg i’w dathlu
Oliver Cromwell a Chrefydd Protestaniaid cymhedrol • Y Brenin yw pennaeth yr eglwys • Y Beibl ar gael yn Saesneg a Chymraeg • Caniatâd i gael addurn ar rai dillad • Yr offeiriaid i gael gwisgo dillad lliwgar • Gallai offeiriaid briodi • Y Nadolig a’r Pasg i’w dathlu.
Oliver Cromwell a Chrefydd Y Piwritaniaid • Duw yw pennaeth yr eglwys, nid y brenin • Dylai’r Beibl a’r gwasanaethau fod yn Saesneg neu yn Gymraeg • Dylai’r eglwysi fod yn ddi-addurn • Ni ddylai’r offeiriaid wisgo dillad lliwgar • Gallai offeiriaid briodi • Ni ddylid dathlu’r Nadolig na’r Pasg
Oliver Cromwell a Chrefydd Tasg 1. Pam roedd y Catholigion yn casáu Eglwys Loegr? 2. Pam roedd y Piwritaniaid yn casáu Eglwys Loegr gymaint? 3. A yw Eglwys Loegr yn swnio’n fwy Piwritanaidd na Chatholig? 4. I ba ‘grŵp’ roedd Oliver Cromwell yn perthyn?
Cromwell Arwr ynteu Gelyn y bobl?