90 likes | 236 Views
Recriwtio. Pam mae swyddi gwag yn digwydd?. y busnes yn ehangu ymddeoliad gweithwyr presennol angen am sgiliau newydd dyrchafu gweithwyr presennol gweithwyr yn gadael am swydd newydd yn rhywle arall
E N D
Pam mae swyddi gwag yn digwydd? • y busnes yn ehangu • ymddeoliad gweithwyr presennol • angen am sgiliau newydd • dyrchafu gweithwyr presennol • gweithwyr yn gadael am swydd newydd yn rhywle arall • gweithwyr yn absennol am resymau dros dro fel absenoldeb mamolaethneu absenoldeb salwch
Sut mae busnesau'n sicrhaudod o hyd i'r gweithiwr iawn ar gyfer y swydd wag? Dylai busnesau ddilyn proses gam wrth gam i sicrhau eu bod yn dod o hyd i'r gweithiwr mwyaf addas. Y cam cyntaf yw deall yn llawn y tasgau a'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth y swydd.
Disgrifiad Swydd Mae'r Disgrifiad Swydd yn disgrifio • teitl y swydd • y dyletswyddau neu'r tasgau sydd ynghlwm wrth y swydd • cyfrifoldebau'r swydd • pwy sy'nrheoli’r gweithiwr • pwy mae'r gweithiwr yn ei reoli • y gweithle • amodau cyflogaeth (gwyliau, cyflog ac ati)
Manyleb Person Mae'r Fanyleb Person yn disgrifio • y sgiliau sy'n ofynnol i wneud y gwaith • yr adnabyddiaeth o'r diwydiant sydd ei hangen • gofynion addysgol • y profiadsy'n ofynnol • priodoleddau corfforol (e.e. ar gyfer diffoddwr tân) • agweddau ar gymeriad sy'n gweddu orau i'r swydd
Hysbyseb Swydd Bydd yr hysbyseb swydd yn seiliedig ar y disgrifiad swydd a'r fanyleb person.Bydd yr hysbyseb yn rhoi :- Teitl y swydd, y cyflog, lleoliad y swydd Cyfrifoldebau Oriau gwaith Manylion y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen. Bydd yr hysbyseb hefyd yn rhoi manylion am sut i wneud cais am y swydd, fel llythyr cais, rhif ffôn cyswllt, cyfeiriad, ac a oes angen CV.
Ble mae hysbysebu'r swydd Gellir hysbysebu'r swydd yn fewnol – i'r gweithwyrpresennol sy'nceisiodyrchafiadneueisiaunewid swydd. Neu'n allanol, y tu allan i'r cwmni, i ddenu gweithwyr newydd gyda sgiliau a syniadau newydd. Mae dulliauhysbysebuswyddigwagyncynnwys: Hysbysiad ‘ymgeisiwch yma’ Papurau newydd lleol Canolfan Byd Gwaith Radio Lleol Y rhyngrwyd – gwefan y cwmni ei hun, neu wefannau recriwtio Ffeiriaurecriwtioprifysgoliraddedigion Papurau newydd cenedlaethol
Rhestr fer o blith y ceisiadau Mae’n debygol mai’r adran bersonél fydd â'r cyfrifoldeb o ddidoli'r ceisiadau yn gyntaf a llunio rhestr fer. Byddai rhestr fer nodweddiadol yn debygol o gynnwys y 5 neu 6 ymgeisydd gorau – y rhai sy'n cydweddu orau â'r fanyleb person. Y rhai sydd ar y rhestr fer gaiff eu gwahodd i gyfweliad.
Cyfweliad • Bydd cyfweliad effeithiol yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd • ddangos eu sgiliau a'u deallusrwydd • eu haddasrwydd ar gyfer y gwaith. • Hefyd mae'r cyfweliad yn caniatáu i'r ymgeisyddddysgullaweriawnmwy am • y swydd a'r tasgau sydd ynghlwmwrthi • y cwmni a'r bobl mae ef neu hi yn debygol o fod yn gweithio gydanhw. • Bydd y cyfweliad hefyd yn galluogi'r cyfwelwyr i asesupersonoliaeth • yr ymgeisydd, ac asesuaidyma’r math o bersonmaennhweisiaueigaelyngweithioi’rbusnes.