110 likes | 273 Views
Lansio. Nodau dysgu Gallu disgrifio sut y gellir trosglwyddo grymoedd drwy hylif Gallu esbonio sut y gellir defnyddio systemau hydrolig i luosi grym Deall sut mae pwysedd , grym ac arwynebedd yn perthyn. Mae’r SupaCat yn pwyso 32 o dunelli metrig, cymaint â 6 eliffant!
E N D
NodaudysguGalludisgrifiosut y gellirtrosglwyddogrymoedddrwyhylifGalluesboniosut y gellirdefnyddiosystemauhydroligiluosigrymDeallsutmaepwysedd, grym ac arwynebeddynperthyn
Mae’r SupaCat yn pwyso 32 o dunelli metrig, cymaint â 6 eliffant! Sut y gall peiriant mor drwm yrru dros dywod meddal mor hawdd?
Archwiliwch sut mae grym, arwynebedd a phwysau’n gysylltiedig. Defnyddiwch 5 wyneb maint gwahanol y bloc pren i newid yr arwynebedd sy’n gwthio’r tywod. Defnyddiwch yr un mas (2kg) bob tro a mesurwch ddyfnder yr ôl a wneir yn y tywod. Cyfrifwch y pwysau a gynhyrchwyd gan bob arwynebedd. Pwysau (N/cm2) = Grym(N) Arwynebedd (cm2)
Mae’r SupaCat yn defnyddio hydroleg yn ogystal – egwyddor sy’n defnyddio’r berthynas rhwng pwysau ac arwynebedd i luosi grym.
Lluosydd grym Arwynebedd = 1m2 Grym i mewn = 10N Arwynebedd = 0.5m2 Beth yw’r pwysau a gynhyrchir? Beth sy’n digwydd i’r holl ronynnau? Beth sy’n digwydd i’r pwysau? Beth yw’r grym a gynhyrchir?
Archwiliwch sut y gallai systemau hydrolig gael eu defnyddio fel lluosydd grym drwy gynnal yr arbrawf sydd ar daflen waith 2.
Ym mha le y defnyddir egwyddor y lluosydd grym ar y SupaCat yn eich barn chi?
Mae bad achub y Shannon yn defnyddio system wthio drwy jet, gan ddangos sut y gellir defnyddio hydroleg i wthio gwrthrychau. Mae injan y Shannon yn cynhyrchu 32kN o rym drwy wthio 750 litr o ddŵr yr eiliad allan drwy ddwy jet.
Mae modd i injan badau achub dosbarth Shannon gynhyrchu 1300hp. Mae hyn yn ei yrru i leoliadau achub ar gyflymder o 25 not (28mya) Mae pob bad achub Shannon yn costio £1.5 miliwn i’r RNLI. Mae pob lansiwr SupaCat yn costio £1 miliwn i’r RNLI.
Sut y gallech chi berswadio’r cyhoedd o fudd holl systemau hydroleg y SupaCat a system yrru bad achub Shannon? Pam fod hyn yn welliant o’i gymharu â thechnoleg hŷn?