70 likes | 522 Views
Bwlio. Cliciwh ar y wên i fynd ymlaen. Nodiadau Gwers. Beth fyddwn ni’n ddysgu heddiw?. Heddiw byddwn yn dysgu beth ydy bwlio beth allwn ni wneud i rwystro bwlio. Beth ydy bwlio?.
E N D
Bwlio Cliciwh ar y wên i fynd ymlaen Nodiadau Gwers
Beth fyddwn ni’n ddysgu heddiw? • Heddiw byddwn yn dysgu • beth ydy bwlio • beth allwn ni wneud i rwystro bwlio
Beth ydy bwlio? Bwlio ydy pan mae person, neu grŵp o bobl yn FWRIADOL gas wrth eraill, galw enwau arnyn nhw, mynd â phethau oddi arnynt, neu’n eu brifo’n gorfforol. Mae geiriau a galw enwau yn brifo.
Beth allwch chi wneud os ydych yn cael eich bwlio? Ysgrifennwch rai syniadau yma. Bydd y sleid nesaf yn rhoi rhai syniadau i chi.
Byddwch yn bendant. Dywedwch “NA” wrth y bwli a cherddwch i ffwrdd. Dywedwch wrth oedolyn ar unwaith Beth allwch chi wneud os ydych yn cael eich bwlio? Peidiwch ymladd yn ôl. Meddyliwch am ateb i’w roi i’r bwli. Ceisiwch beidio dangos eich bod yn gofidio.
Beth sydd raid i fi wneud? Mae’n rhaid i chi gynhyrchu poster gwrth fwlio i’w arddangos o amgylch yr ysgol. Gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio llythrennu bras ac effeithiau sy’n dal sylw. Gartre
Gartre CYFLWYNIAD ØCyflwynwch ddwy sleid gyntaf yPowerPoint a darllenwch yr amcanion a’r ffocws ar gyfer y wers. TRAFODAETH ØDangoswch animeiddiad y sleid nesaf yn cynnwys y cwestiwn “Beth ydy bwlio?” ØCyn i’r ateb ymddangos gofynnwch i’r disbyblion beth ydyn ni’n feddwl efo bwlio . Gofynnwch i’r dosbarth i ddod i ysgrifennu ar y bwrdd unrhyw eiriau neu frawddegau maen nhw wedi meddwl amdanynt. ØDangoswch animeiddiad cyntaf y sleid nesaf, “Os ydych yn cael eich bwlio”. Rhannwch Daflen Waith Un a gofynnwch i bob grŵp saethu syniadau am yr hyn fydden nhw’n wneud pe byddent yn cael eu bwlio. ØParhewch gyda’r animeiddiad ar y sleid gyda’r pethau y gellwch wneud a thrafodwch bob un. TASG ØDangoswch y sleid nesaf a rhowch daflen wag o bapur i bob disgybl ØGofynnwch iddynt greu poster gwrth fwlio i’w arddangos o amgylch yr ysgol Cyfeillgarwch – Blwyddyn Pedwar