250 likes | 488 Views
Y Rhyngrwyd. Rhwydwaith o rwydweithiau wedi eu cysylltu gan byrth (gateways). Rhwydwaith Ardal Eang Pethau y gallwch wneud ar y Rhyngrwyd: Protocol Trosglwyddo Ffeiliau /FTP File transfer protocol Siopa ar-lein Bancio ar-lein Grwpiau newyddion a hysbysfyrddau
E N D
Y Rhyngrwyd • Rhwydwaith o rwydweithiau wedi eu cysylltu gan byrth (gateways). • Rhwydwaith Ardal Eang Pethau y gallwch wneud ar y Rhyngrwyd: • Protocol Trosglwyddo Ffeiliau /FTP File transfer protocol • Siopa ar-lein • Bancio ar-lein • Grwpiau newyddion a hysbysfyrddau • Lawr-lwytho meddalwedd neu ddata, e.e.cerddoriaeth, fideos • Siop siarad ar-lein • E-bost • Fideo- a thele-gynadledda a.y.y.b.
Sut i gael at dudalen ar y we • Teipio’r URL Teipiwch yr union gyfeiriad i’r wefan yn y bar cyfeiriadau. • Gwe-gropwyr / peiriant chwilio Teitiwch allweddair a dewisiwch o restr a gyflwynir • Chwiliadau Boolean Teipiwch yr allweddeiriau gydag AND ac OR a.y.y.b. i roi rhestr fwy cywir. • Defnyddio cysylltau hypergyswllt o wefannau eraill
Sut i lywio gwefan • Llyfrnodau i rannau o’r we – Cysylltau wedi eu diffinio eisoes i’ch tywys i’r rhan neu’r dudalen angenrheidiol • Mannau poeth/Hotspots– cliciwch ar ddelweddau graffig • Chwiliadau Allweddeiriau –Teipiwch air er mwyn dod o hyd iddo yn y mynegai • Dewislenni tynnu i lawr/ i fynny -Cliciwch a dewisiwch oddi ar restr ragddiffinedig
E-fasnach Mae busnesau yn creu gwefannau ar y Rhyngrwyd oherwydd: • Maent yn gallu hysbysebu. Mae hyn yn galluogi pobl i weld beth maent yn ei wneud a’u gwerthu. • Gall pobl e-bostio ymholiadau, archebion, ceisiadau • Gallant gyrraedd cynulleidfa ryngwladol • Mae mwy a mwy o fusnesau yn gwerthu nwyddau neu wasanaethau dros y We. • Gall cwmnïau hysbysebu nwyddau a gwasanaethau yn unig • Mae cwmnïau yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau e.e. Tesco, cerddoriaeth, gwneud crys-T arbennig a.y.y.b. • Gwasanaethau tanysgrifio sydd yn gwerthu gwybodaeth e.e. Metcheck, neu yn rhoi mynediad i bapurau ymchwil e.e. Endnote • Gwefannau rhyngweithiol sy’n annog adborth ar nwyddau • Gwefannau sy’n galluogi defnyddwyr i gynnig arian am nwyddau e.e. Ebay
Yr hyn sy’n rhaid ei gael cyn cynnig siopa ar-lein rhyngweithiol • Cynnal gwefan i’r cwmni a chadw prisiau a.y.y.b. yn gyfoes • Cadw catalog o stoc i’w werthu • Dulliau talu diogel • Cronfa ddata o archebion cwsmeriaid • Mae rhai gwefannau yn eich galluogi i gadw llygad ar statws eich archeb.
Manteision i Gwmnïau • Lleihau costau cyffredinol. Cynilion mawr ar siopau a lle storio, warws a swyddfa • Talgylch ehangach i gwsmeriaid (does dim cyfyngiadau yn y byd!) • Gellir cysylltu gyda chwsmeriaid drwy e-bost a’u hysbysu am nwyddau newydd a.y.y.b. Does dim rhaid gwario arian ar gostau cyffredinol arferol busnes fel rhenti siopau a chyflogi gweithwyr. • Gellir cynnig dewis ehangach o nwyddau i gwsmeriaid oherwydd gellir eu harchebu oddi ar y cyflenwyr yn hytrach na’u cadw ar y silffoedd drwy’r amser. Nid yw arian yn cael ei glymu i fyny mewn stoc neu ei wastraffu ar nwyddau amhoblogaidd. • Gellir casglu data am gwsmeriaid a’u tueddiadau siopa yn uniongyrchol; gellir defnyddio’r data hyn i gynnig gwasanaeth llawer mwy personol yn unol ag anghenion cwsmer unigol.
Manteision i Gwsmeriaid: • does dim teithio – gellir siopa o gartref, gan arbed aros ac amser • Mantais i bobl ag anableddau sy’n cael trafferth mynd i’r siopau • Siopa 365/24, heb fod yn gaeth i oriau siopa – gellir siopa bob awr o’r dydd. • mae hi lawer haws a chyflymach i gymharu prisiau siopau gwahanol • gellir chwilio am nwyddau anodd eu cael ar draws y byd – efallai na fydd eich siop leol yn eu cadw!
Anfanteision • Twyll cardiau credyd – defnyddiwch ddulliau talu diogel neu defnyddiwch eiriau cytûn. • Mae rhai gwefannau wedi eu dylunio yn unswydd er mwyn cymryd arian cwsmeriaid heb ddanfon y nwyddau. • Mae gwefannau ffug neu wefannau copïo yn ail-greu tudalen hafan banc – peidiwch rhoi manylion personol megis rhifau cyfrif dros y Rhyngrwyd. • Llai o siopau ar y stryd fawr ac fellyangen llai o weithwyr siop. • Diffyg rhyngweithiad cymdeithasol; mae pobl yn mynd yn fwy ynysig oddi wrth y gymdeithas. • Mwy o drafnidiaeth dosbarthu masnachol.
Sut i leihau y nifer o wallau mewn trafodion ar-lein Cywirdeb data • Cwsmer:Dulliau gwirio • Darllen data mewn ffurflenni yn ofalus cyn cyflwyno • Allweddu cofnod dwbwl • Cwmni: Dulliau dilysu • Gwiriadau amrediad; gwiriadau presenoldeb; digidau gwirio; gwiriadau fformat; mygydau mewnbwn a.y.y.b.
Cronfeydd data dosranedig • Mae cronfeydd data dosranedig yn gronfeydd data gwahanol wedi eu storio mewn lleoedd gwahanol, ond wedi eu cysylltu fel eu bod yn ymddangos fel un gronfa ddata fawr.
Cyfrifiaduro dosranedig drwy ddefnyddio’r Rhyngrwyd • Rhannu prosesu ar draws y Rhyngrwyd. • Mewn system ddosranedig mae’r prosesu yn cael ei wneud gan nifer o gyfrifiaduron gwahanol ar y rhwydwaith. Gall cyfrifiaduron ar y rhwydwaith yma rannu adnoddau a phrosesu. Mae cronfeydd data dosranedig yn gronfeydd data gwahanol wedi eu storio mewn lleoedd gwahanol, ond wedi eu cysylltu fel eu bod yn ymddangos fel un gronfa ddata fawr.
Ymchwil SETI i signalau radio. • Mae SETI, neu Search for Extraterrestrial Intelligence, yn brosiect ymchwil yn chwilio am fywyd y tu hwnt i’r ddaear. Mae ymchwilwyr SETI yn defnyddio nifer o ddulliau. Mae un dull poblogaidd, sefradio SETI, yn gwrando am signalau radio artiffisial yn dod o sêr eraill. MaeSETI@home yn brosiect radio SETI sy’n caniatáu i unrhyw un â chyfrifiadur a chysylltiad i’r Rhyngrwyd gymryd rhan.
Cronfeydd data dosranedig • Gall cadwyn o westai storio manylion gwesteiwyr sy’n archebu ar eu rhwydwaith leol. Ond oherwydd bod pob gwesty wedi ei gysylltu i rwydwaith, gellir defnyddio cronfa ddata ddosranedig. Gall staff mewn un gwesty weld archebion mewn gwesty arall a gall rheolwyr fonitro archebu ar draws y gadwyn gyfan. Mae yr un peth yn wir am gadwyn siopau yn chwilio am stoc.
Y GWASANAETH IECHYD a chronfeydd data dosranedig • Gall cleifion sy’n cael eu trin am gyffur newydd gofnodi data meddygol (e.e. pwysau gwaed, sgil effeithiau) gartref; bydd y data yma yn cael ei storio ar gronfa ddata fawr, ganolog, ac yn cael ei ddefnyddio at ymchwil meddygol pellach. • Gellir dosrannu cronfeydd data radioleg i arbenigwyr meddygol ar draws y byd. • Erbyn hyn gall gleifion ofyn am gael eu danfon i ysbyty o’u dewis. Gall ysbyty storio manylion am welyau cleifion ar ei rhwydwaith leol, ond, gan fod pob ysbyty wedi ei rhwydweithio, gellir defnyddio cronfa ddata ddosranedig. O ganlyniad, gall staff mewn un ysbyty weld argaeledd gwelyau mewn ysbytai eraill a gall rheolwyr fonitro archebu gwelyau ar draws bob ysbyty.
Y Porth Gofal Gelwir unrhyw bwynt mynediad wedi ei dele-gyslltu i rwydwaith a chronfa ddata meddygol yn Borth Gofal. Yr Orsaf Ddocio Yr Orsaf Ddocio yw’r safle lle mae’r arbenigydd meddygol yn cynnig gwasanaethau ymgynghori, addysg a mewnbwn cydweithrediadol ar draws y rhwydwaith meddygol. Y Bont Mae’r Bont yn ganolbwynt cyfathrebu meddygol sy’n ddeallus ac yn optimeiddio llif y wybodaeth rhwng Pyrth Gofal a Gorsafoedd Docio. HCI Mae’r rhyngwyneb yn gydran allweddol. Er enghraifft, wrth ddylunio rhyngwyneb y Porth Gofal, dylid ystyried peth gwybodaeth am anghenion arbennig a lefel gwybodaeth y bobl sydd fwyaf tebygol o’i ddefnyddio.
Manteision Cronfeydd Data Dosranedig • Yn caniatáu defnydd prosesydd lleol i rannu prosesu pan nad yw’n cael ei ddefnyddio fel arall. • Gellir storio gwybodaeth a ddefnyddir yn lleol yn lleol, gan gadw traffig ar y rhwydwaith i leiafswm. • Gellir adfer unrhyw wybodaeth a gollwyd yn y safle ganolog yn y safle leol. • Yn caniatáu rhannu data a chanlyniadau prosesu data. • Gellir ychwanegu safleoedd newydd ar y gronfa ddata heb orfod ail-ysgrifennu’r gronfa ddata gyfan.
Anfanteision cronfeydd data dosranedig • Mae’r meddalwedd yn fwy cymhleth na system cronni data ganolog • Mae mwy o beryg o hacio oherwydd bod data yn cael ei drosglwyddo. • Am nad yw’r data wedi ei gadw yn ganolog, os nad yw un safle leol wedi copïo wrth-gefn yn ddigon da mae yna beryg ygallai’r wybodaeth honno fynd ar goll i bawb. • Os yw data yn cael ei storio a’i ddiweddaru mewn mwy nag un man mae yna beryg o anghysondebau yn y data.
Fideo-gynadledda (Tele-gynadledd) • Wrth gysylltu camera fideo bach i’r meicrogyfrifiadur, gellir danfon eich llun ar draws y rhwydwaith i ddefnyddiwr arall (ac i’r gwrthwyneb). Mae camerâu digidol yn danfon delweddau ac mae signalau sain yn cael eu clywed gan feicroffôn a’u danfon hefyd. Gall cwmnïau drefnu cyfarfodydd a chyfathrebu wyneb-yn-wyneb gyda phobl mewn ystafell, adeilad neu wlad wahanol. Manteision • Mae fideo-gynadledda yn galluogi cyfarfodydd cyson rhwng gweithwyr neu gwmnïau mewn safleoedd gwahanol. • Mae gweithwyr, yn enwedig rhai oddi cartref, yn gallu dod ynghyd mewn cyfarfodydd cyson heb wastraffu amser ac arian wrth deithio.
Anfanteision • Cost paratoi ystafell fideo-gynadledda a phrynu caledwedd a’u gynnal a chadw. • Mae cyfathrebu cynnil rhwng pobl, e.e. iaith y corff, yn mynd ar goll oherwydd nad yw’r camera neu’r meicroffon yn gallu ei synhwyro, neu mae hyn yn mynd ar goll wrth gywasgu’r data wrth ei ddanfon. • Gall broblemau technegol, cywasgu a signal ddigwydd. Mae lluniau braidd yn grynedig ar hyn o bryd, ond mae datblygiadau technegol megis cysylltau band eang cyflym, yn gwella safon y lluniau. Yn y gwasanaeth iechyd • Gall problemau croen/dermatoleg gael eu gweld o bellter gan arbenigwr. • Gellir edrych ar glwyfau i’r wyneb o bellter a threfnu triniaeth cyn bod rhaid i’r cleifion deithio. • Cyfarfodydd o bellter i feddygon a gweinyddwyr y gwasanaeth iechyd.
Ystyrieaethau Moesol, Cymdeithasol a Moesegol sy’n gysylltiedig â’r Rhyngrwyd
Sensoriaeth • Does neb yn berchen ar y Rhyngrwyd. Mae’n rhyngwladol. Mae deunydd fyddai’n anghyfreithlon pe bai wedi ei gyhoeddi ar ffurf copi caled yn hawdd i’w ganfod ar y Rhyngrwyd e.e. propaganda hiliol, cyfarwyddiadau gwneud bomiau, pornograffi. Mae rhai yn dweud y dylai’r Rhyngrwyd gael ei sensro, ond pwy fyddai’n sensro, a sut y gellir gweithredurheolaeth ganolog?
Cywirdeb gwybodaeth Does dim gwarant bod y wybodaeth ar y Rhyngrwyd yn gywir neu yn wir. Mae rhai gwefannau wedi rhoi cyngor meddygol anghywir heb fod yn atebol amdano. Gall cylchgronnau ysgrifennu storïau anwir. Gall unigolion ledu sibrydion maleisus am bobl mewn e-bostiau.
Preifatrwydd • Mae’n gymharol hawdd i gipio traffig ar y rhyngrwyd. • Oes gennym yr hawl i breifatrwydd ein e-bostiau a ffeiliau data? • Oes gennym hawl i amgryptio ein data? • Yn sgîl y cynnydd mewn trosedd ar y Rhyngrwyd, yn ogystal â’r cynydd mewn terfysgaeth ac ofnau am ddiogelwch, a ddylai’r gwasanaethau diogelwch gael yr hawl i fonitro holl draffig y Rhyngrwyd?
Effeithiau ar gymunedau Mae rhai yn honni bod y Rhyngrwyd wedi cynyddu: • y nifer o ryngweithiadau cymdeithasol e.e. teuluoedd yn cadw mewn cyswllt wrth deithio, drwy ddefnyddio caffis Rhyngrwyd. • ymwybyddiaeth o ddiwylliannau amrywiol y byd. • Mae eraill yn dadlau bod y Rhyngrwyd wedi arwain at lai o ryngweithio cymdeithasol ymhlith defnyddwyr cyson o’r we e.e. gallwch weithio, siopa a bancio o’r cartref heb orfod dod ar draws unrhyw un. Gallai hyn achosi i fusnesau bach lleol fynd i’r wal ac, o ganlyniad, arwain at fwy o unigedd cymdeithasol.
Perchnogaeth a rheolaeth • Pwy sy’n berchen ar y Rhyngrwyd? • Pwy sy’n rheoli’r Rhynrwyd? • Yn sgîl y cynnydd mewn gwerth masnachol y we, a fydd rhai o gewri byd y cyfryngau yn ceisio cymryd perchnogaeth o’r we, a thryw hynny, geisio rheoli’r cynnwys? • Mae cyfraithiau rhai gwledydd yn dechrau ateb rhai o’r materion cyfreithiol, megis hawliau eiddo deallusol ar y Rhyngrwyd, ond dydy’r cyfreithiau hyn dim ond yn ddilys yn y wlad lle lluniwyd y ddeddf. Efallai y bydd deddfau rhyngwladol yn datrys problem camddefnyddio’r Rhyngrwyd, ond ar hyn o bryn mae hyn gryn bellter i ffwrdd.