130 likes | 1.22k Views
CYDRANNAU FFITRWYDD. Erbyn diwedd yr uned fe fyddwch yn gwybod:. Beth yw enwau’r cydrannau ffitrwydd? I ba gr ŵp maent yn perthyn? Beth yw diffiniad pob cydran?. Categoreiddio. Mae’r cydrannau hyn yn disgyn i ddau faes: C yffredinol neu Cysylltiedig ag Iechyd
E N D
CYDRANNAU FFITRWYDD Erbyn diwedd yr uned fe fyddwch yn gwybod: • Beth yw enwau’r cydrannau ffitrwydd? • I ba grŵp maent yn perthyn? • Beth yw diffiniad pob cydran?
Categoreiddio Mae’r cydrannau hyn yn disgyn i ddau faes: • Cyffredinol neu Cysylltiedig ag Iechyd • Penodol neu Cysylltiedig â Sgiliau Fe edrychwn yn awr ar y ddau faes yn fwy manwl.
Diffiniadau - Cyffredinol / Cysylltiedig ag Iechyd Cryfder Y grym y mae’r cyhyrau’n ei weithredu wrth gyfangu. Hyblygrwydd Amrediad y symud mewn cymal. Cyfansoddiad y corff Y canrannau o fraster, cyhyr ac asgwrn yn y corff. Stamina • Gallu’r corff i ddal ati am gyfnodau hir • heb flino. Mae’n gyfuniad o ddygnwch • cardiofasgwlaidd a chyhyrol.
Cryfder Y grym y mae’r cyhyrau’n ei weithredu wrth gyfangu. Statig Dynamig Ffrwydrol (pŵer) Cryfder sydd ei angen i wthio neu dynnu gwrthrych trwm iawn neu i ddal pwysau trwm uwch eich pen. Cryfder sydd ei angen i gadw llwyth i symud dros gyfnod hir. (e.e. rhwyfo) Cryfder sydd ei angen ar gyfer un weithred ffrwydrol (e.e. naid uchel) • Bydd dal llwyth trwm yn llonydd yn gwella’ch cryfder statig. • Bydd symud y llwyth yn gwella’ch cryfder dynamig. • Bydd symud y llwyth mor gyflym ag sy’n bosibl yn gwella’ch pŵer.
Hyblygrwydd Amrediad y symud mewn cymal. I wella hyblygrwydd dylech ymestyn y cyhyrau o amgylch y cymal a dal yr ymestyniad am o leiaf 8 – 10 eiliad. Mae hyn yn cael ei alw yn YMESTYN STATIG. Gall fod yn weithredol neu’n oddefol. • Mae gymnastwraig yn dangos hyblygrwydd wrth berffomio yr hollt (splits). • Mae bachwr angen hyblygrwydd yn ei ysgwyddau wrth berfformio yn y sgrym. • Mae athletwr angen hyblygrwydd yn yr asgwrn cefn wrth berfformio’r naid uchel.
Cyfansoddiad y corff Y canrannau o fraster, cyhyr ac asgwrn yn y corff. Gallech fod â’r pwysau iawn ond eto i gyd yn anffit am fod gennych lawer o fratser a chyhyrau bach gwan. Mae cyfansoddiad y corff yn rhoi gwell syniad o ffitrwydd ac mae’n nodi pa ganran o bwysau eich corff sy’n fraster.
Stamina • Gallu’r corff i ddal ati am gyfnodau hir • heb flino. Mae’n gyfuniad o ddygnwch • cardiofasgwlaidd a chyhyrol. Cardiofasgwlaidd Gallu system cylchrediad y gwaed i ddosbarthu’r ocsigen sydd ei angen ar y cyhyrau. Mae hyn yn cael ei alw hefyd yn Ffitrwydd aerobig. Cyhyrol Gallu’r cyhyrau i gyfangu dro ar ôl tro heb flino. • Mae angen lefel uchel o ffitrwydd • aerobig i redeg marathon. Pam? • Mae angen lefel uchel o ffitrwydd • aerobig i barhau trwy gydol gêm • bêl droed / hoci. • Mae angen lefel uchel o • ddygnwch cyhyrol i feicwyr yn • y ras ‘Tour de France’. • - Mae angen lefel uchel o • ddygnwch cyhyrol i barhau i • rwyfo mewn ras gystadleuol.
DIFFINIADAU - PENODOL / CYSYLLTIEDIG A SGILIAU Ystwythder Newid ystum a chyfeiriad y corff yn gyflym. Cydbwysedd Cynnal ystum arbennig heb siglo na chwympo. Cyd-drefniant Symud rhannau o’r corff yn esmwyth ac yn gywir mewn ymateb i’r negesau gan y synhwyrau. Pŵer Cyfuniad o gryfder a chyflymder. Amser Adweithio • Cyflymder adweithio yw’r term am yr • amser a gymerir i ymateb i symbyliad. Cyflymder Y gallu i symud eich corff neu ran o’ch corff yn gyflym.
PENODOL / CYSYLLTIEDIG A SGILIAU - Enghreifftiau Ystwythder Ochor gamu mewn gêm rygbi. Symudiad yr ‘Indian dribble’ - hoci. Cydbwysedd STATIG = Pensafiad - gymnasteg. DEINAMEG = Sglefrio – sglefrio iâ. Cyd-drefniant Serfiad mewn tennis. Dal pêl – gôl geidwad. Pŵer Taflu’r ddisgen/ Naid hir Amser Adweithio • Cychwyn ras 100m. • ‘Slip catch’ o fewn gêm griced. Cyflymder • Mae angen cyflymder mewn ras can medr.
Cyflymder Y gallu i symud eich corff neu ran o’ch corff yn gyflym. Nid ystyr y term ‘cyflymder’ bob tro ydi’r gallu i symud o A i B gynted â phosib. Gall olygu y gallu i symud rhannau gwahanol o’r corff yn gyflym. Gweler yr enghreifftiau isod. • Mae angen cyflymder mewn ras can medr. • Mae angen cyflymder i gyrraedd y bêl yn gyntaf mewn gemau tîm. • Mae angen cyflymder yn y fraich wrth daflu picell.
GALLWN YN AWR ATEB Y CWESTIYNAU YMA? Beth yw enwau’r cydrannau yma? Ym mha grŵp maent yn perthyn? Beth yw diffiniad pob cydran?