110 likes | 296 Views
Cynrychiloaeth Rhyw. Ail-ddal. Beth yw ystyr y gair semioteg? Beth yw ystyr ymateb/darlleniad ffafriol neu’r gwrthwyneb? Beth yw arwyddwr ac arwyddoc áu? Esboniwch beth yw ôl-ffeministiaeth? Sut mae merched yn cael eu cynrychioli yn y fideo ‘Justify my Love’?
E N D
Ail-ddal • Beth yw ystyr y gair semioteg? • Beth yw ystyr ymateb/darlleniad ffafriol neu’r gwrthwyneb? • Beth yw arwyddwr ac arwyddocáu? • Esboniwch beth yw ôl-ffeministiaeth? • Sut mae merched yn cael eu cynrychioli yn y fideo ‘Justify my Love’? • Sut mae merched yn cael eu cynrychioli yn ‘Material Girl’?
Theori Erving Goffman1972 • Yn ôl Goffman mae’r portread o ddynion a merched yn dilyn y confensiynau canlynol: (Goffman 1972): • Rhagoriaeth (superiority), Awdurdod & Iaith y Corff: Mae dynion yn cael eu arddangos mewn sefyllfaoedd lle maent yn fyfyriol ac yn ddeallus. Mae merched yn cael eu portreadu yn gorfforol mewn ystumiau rhywiol gyda mynegiant wynebol gwag a deniadol. • Datgymaliad (Dismemberment): Ar ferched mae rhannau o’r corff ar wahan megis coesau, y frest ayb yn cael eu defnyddio yn ogystal a’r corff cyfan noeth.
Terminoleg: Ystrydebau Rhyw yn y Diwydiant Gerddoriaeth: • Dynion yn ymddwyn mewn ffyrdd mwy hunanbwysig ag ymosodol (aggressive) • Dynion yn cael eu cynrychioli fel creaduriaid annibynnol, anturus, di-emosiwn a llwyddiannus • Swyddi ystrydebol i ferched a dynion e.e. dynion fel dynion tân/yn y fyddin a merched fel gweinyddesau a ‘Cheerleaders’ • Merched yn fwy rhywiol a goddefol • Merched fel gwrthrychau rhyw • Ystrydebu rôl y ferch a chreu agweddau negyddol tuag ati • Merched yn fwy tebygol o fod yn gwisgo dillad rhywiol, prin, pryfoclyd • Merched fel tlysau neu addurniadau sy’n dawnsio, ystumio yn ddel a chanu ond nid ydynt fel arfer yn chwarae offeryn • NID yw’r darganfyddiadau yma yn gaeth i’r genre Hip Hop! Delwedd: Katy Perry Ymchwil o ‘Joining the Dots’ Mai 2009 OBJECT
Terminoleg… Gwrthgyferbyniad Deuaidd (binary opposites) Daw’r term o syniad Claude Levi-Strauss (Theori Strwythuriaeth 1972) sef bod pobl yn ystyried y byd mewn ‘gwrthgyferbyniadau deuaidd’ sef: dynion a merched, da a drwg, cyfoeth a tlodi, bywyd a marwolaeth a gall pob diwylliant gael ei esbonio a’i astudio yn defnyddio’r gwrthgyferbyniadau yma.
Claude Levi-Strauss (Theori Strwythuriaeth 1970au) “Modd o ddadansoddi ffenomina megis anthropoleg, ieithyddiaeth, seicoleg neu lenyddiaeth, gyda’i brif nodweddion yn canolbwyntio ar gyferbynnu sylfaenol y ffenomina drwy system o wrthgyferbyniadau deuaidd.” “A method of analyzing phenomena, as in anthropology, linguistics, psychology, or literature, chiefly characterized by contrasting the elemental structures of the phenomena in a system of binary opposition.”
Y Butain a’r Wyryf • Dwy Wrthgyferbyniad Deuaidd wedi eu creu gan y cyfryngau • Delweddau hanesyddol gydnabyddiedig o ferched: Bregus (Fragile), angen eu amddiffyn ochr yn ochr â merched gwyllt, sleboglyd (slutty) • Gelwir hyn y ‘Ddeuoliaeth Putain a Gwyryf’ (Virgin Whore Dichotomy) • Y WYRYF • Goddefol (Iaith y corff/Ymddygiad) • Dillad Gwylaidd • Merchetaidd/Benywaidd • Nodau Traddodiadol mewn bywyd – Mam/Gwraig Tŷ • Ideoleg Creiddiol: Anghytuno a ‘gwrthrycholiad merched’, credu dylai merched ymddwyn a gwisgo yn unol a hynny • Britney Spears • ‘Baby’ Spice • Natasha Bedingfield
Y Butain a’r Wyryf • Fergie (Black Eyed Peas) • Christina Aguilera • Angelina Jolie Y Butain • Dilliad Rhywiol/Prin • Hyderus, ymddygiad a Iaith Corff pendant • Annibynnol & Gwrthryfelgar (Rebellious) • Cysylltiadau ag Ymddygiad Rhywiol Annerbyniol • Yn herio rôl y ‘ferch fach dda’ delfrydol • PROBLEMAU: Mae menywod rhywiol yn cael eu taflu i gategori’r putain heb ganiatâd gan eu bod nhw i’w weld yn darostwng eu hunain i fod yn wrthrychau chwant i ddynion
Astudiaeth Achos Britney Spears: Ops…I did it again
Astudiaeth Achos Shakira: She wolf