480 likes | 648 Views
Ysgol Fabanod Pentre-poeth, Treforys, Abertawe. Edrychwch Allan Fan 'Na. Fy Milltir Sgwar. Prosiect Celf Blwyddyn 1 a Ysbrydolwyd Gan Ein Hamgylchfyd. Ysgol Fabanod Pentre-poeth, Treforys, Abertawe. Tachwedd 2007. An Art in the Environment Project by Year 1 Pentrepoeth Infant School
E N D
Ysgol Fabanod Pentre-poeth, Treforys, Abertawe Edrychwch Allan Fan 'Na Fy Milltir Sgwar Prosiect Celf Blwyddyn 1 a Ysbrydolwyd Gan Ein Hamgylchfyd Ysgol Fabanod Pentre-poeth, Treforys, Abertawe Tachwedd 2007 An Art in the Environment Project by Year 1 Pentrepoeth Infant School November 2007 - March 2008
Amcanion y Prosiect • Defnyddio amgylchedd yr awyr agored fel ysgogiad ar gyfer celf. • Hyrwyddo arsylwi’n ofalus ar y pethau y byddwn ni’n eu gweld o’n cwmpas. • Datblygu ystod o sgiliau a thechnegau lluniadu er mwyn cofnodi ein harsylwadau. • Defnyddio adnoddau traddodiaol a thechnolegol i wella ein gwaith cofnodi a’n gwaith celf.
Gweithgaredd 1: Archwilio Adnoddau • Dechreuon ni’r prosiect drwy archwilio ‘potensial gwneud marciau’ yr adnoddau hynny roedden ni wedi eu derbyn yn ein pecyn celf. • Plygon ni bapur yn wyth adran ac fe wnaethon ni farciau a phatrymau ar bob adran gan ddefnyddio pensiliau o wahanol raddau, pennau ffelt trwchus a thenau, siarcol a chreon cwyr. • Roedd y plant wedi’u cyfareddu gan y gwahaniaeth mewn meddalwch rhwng y pensiliau 2B a 6B.
Gweithgaredd 2: Siâp • Tynnon ni luniau arsylwadol o’n hysgol mewn pasteli gan ganolbwyntio ar siapiau 2D. • Dangosodd y plant frwdfrydedd mawr yn ogystal ag egni yn eu lluniau. • Er eu bod nhw’n ei chael hi’n anodd cynhyrchu siapiau rheolaidd yn eu lluniau, cyn bo hir roedden nhw’n dechrau adnabod sgwariau, trionglau a phetryalau/hirsgwariau ym mhob rhan o’r adeilad ac ar yr iard chwarae.
Gweithgaredd 3: Lliw • Buon ni’n siarad am ein hysgol a sut olwg sydd ar y lle. • Roedd y plant yn meddwl bod yr ysgol yn salw ac o’r braidd roedden nhw’n gallu meddwl am unrhyw enghreifftiau o liw yn unman ar yr iard.
Lliw … parhâd • Arweiniodd ein trafodaethau at gyfres o ‘Helfâu Lliw’. • Cyn cychwyn pob helfa, heriais y plant i dynnu cynifer o ffotograffau ag y gallen nhw o wrthrychau o liw arbennig gan ddefnyddio’u camerâu digidol. • Cawsom syndod wrth ddarganfod cynifer o enghreifftiau o bob lliw ac fe aethom ati i greu casgliad mawr o ffotograffau. • Lamineiddiwyd y ffotograffau ac fe fuon nhw’n adnodd defnyddiol ar gyfer gweithgareddau didoli a thrafod dilynol.
Gweithgaredd 4: Patrwm • Cafodd pob plentyn gerdyn â ffrâm ffenest ac iddi agorfa o 10cm. • Gosod y ffrâm ar arwyneb patrymog ac yna edrych yn ofalus iawn ar y ‘llun’ bychan roedden nhw wedi’i greu oedd y dasg a roddwyd iddyn nhw. • Aeth y plant ati i gofnodi eu patrymau mewn llyfr bach consertina gan ddefnyddio pensiliau, pennau ffeltr a siarcol. • Ar y dechrau, roedden nhw’n tybio nad oedd unrhyw batrymau ar yr iard, ond unwaith y daethon nhw i arfer ag edrych yn ofalus ar ran fechan o wrthrych, roedden nhw’n gallu gweld bod patrymau ym mhob man o’n cwmpas.
Gweithgaredd 5: Gwead • Gwead oedd ffocws ein helfa nesaf. • Erbyn hyn, roedd y plant yn gyfforddus gyda’r syniad o edrych yn ofalus ar wrthrychau ac fe lwyddon nhw i ddod o hyd i amrywiaeth o arwynebau gweadog. • Aethon ni ati i greu rhwbiadau gan ddefnyddio creon cwyr du a gwahanol fathau o bapur. • Yn olaf, fe geision ni gopïo’r patrymau a’r gweadau drwy dynnu lluniau ar bapur.
Gweithgaredd 6: Archwilio ein Cymdogaeth • Aethom am dro o gwmpas ein cymdogaeth, gan edrych ar sut roedd yr ardal yn cael ei defnyddio a pha mor ddeniadol roedden ni’n meddwl oedd y fro. • Penderfynodd y plant pa nodweddion - oedd i’w gweld ar hyd ein llwybr teithio - y bydden nhw’n tynnu eu llun â’u camerâu. • Ar ôl dychwelyd i’r ysgol, gosodwyd y ffotograffau ar ‘fap’ syml i ddangos ein llwybr teithio a phrif nodweddion pob rhan. • Buodd y plant yn tynnu lluniau’r adeiladau ar y map, gan weithio mewn parau.
Map arall yn dangos i ba gyfeiriad y cerddon ni a’r car oedd wedi’i ddryllio yn y lôn!
Gweithgaredd 7: Llunio Map • Ailadroddon ni ein gweithgaredd llunio map fel gweithgaredd awyr agored. • Tynnais i lun siâp sylfaenol y llwybr teithio ar yr iard mewn sialc, a gosododd y plant ffotograffau wedi’u lamineiddio yn y mannau priodol. • Buon nhw’n trafod pa rannau o’r gymdogaeth y bydden nhw’n hoffi eu newid neu eu gwella ac yna aethon nhw ati i dynnu llun y newidiadau hynny ar y map gan ddefnyddio sialc lliw.
Syniadau ar gyfer Newid • Nôl yn yr ystafell ddosbarth, gan weithio mewn parau, bu’r plant yn cofnodi ar bapur eu syniadau ar gyfer newid gan ddefnyddio pennau ffelt. • Tynnodd rhai plant luniau unigol gafodd eu llungopïo wedyn a’u paentio gyda ‘Brusho’ er mwyn rhoi iddyn nhw gynllun lliw bywiog.
Defnyddion ni ein Smartboard i dynnu llun ein gwelliannau dros ben rhai o’n lluniau digidol …….
Gweithgaredd 8: Troi Lluniau yn Baentiadau! • Fe ddychwelon ni at luniau arsylwadol o’r ardal o gwmpas ein hysgol ar gyfer ein gweithgaredd olaf. • Tynnwyd y lluniau gan ddefnyddio pen ffelt trwchus a thenau sy’n hydawdd mewn dŵr. • Rhoddwyd golchiad o ddŵr glân ar rannau o’r lluniau ac o ganlyniad cawsant eu troi’n ‘baentiadau’ rhagorol.
Casgliad • Yn sgil y prosiect hwn, mae’r plant wedi: • Cael mwynhad mawr wrth archwilio amgylchoedd cyfarwydd, a hynny mewn ffordd newydd. • Cael eu cyflwyno i sgiliau lluniadu, technegau ac adnoddau newydd. • Datblygu eu sgiliau arsylwi er mwyn ‘edrych y tu hwnt i’r amlwg’. • Dod yn llawer mwy ymwybodol o’u hamgylchedd eu hunain, ac maent yn gallu mynegi eu barn a ffurfio syniadau ar gyfer creu gwelliant. • Dechrau sylweddoli potensial TGCh er mwyn gwella eu gwaith celf. Rachel Jones, Ysgol Fabanod Pentrepoeth, Treforys, Abertawe.