120 likes | 546 Views
Pontydd. Pontydd. Ceir pedwar math gwahanol o bont. 1. Pont Drawst. 2. Pont Cantilifer. 3. Pont Bwa. 4. Pont Grog. Pontydd Trawst.
E N D
Pontydd Ceir pedwar math gwahanol o bont 1. Pont Drawst 2. Pont Cantilifer 3. Pont Bwa 4. Pont Grog
Pontydd Trawst O’r pedwar math o bont hwn yw’r un hynaf a’r mwyaf syml. Yn wreiddiol defnyddiwyd darn o graig hir neu goeden gan bobl i groesi afonydd bychan. Mae’n bosibl mai pontydd a wnaed o slabiau cerrig yn ne-orllewin Lloegr yw’r rhai hynaf yn y byd. Ni wyddom pryd yn union y cawsant eu codi ond maent yn dal i sefyll. Wrth i bwysau gael ei roi ar y trawst mae’r rhan uchaf yn byrhau o ganlyniad i rym cywasgu . Mae’r tensiwn yma yn achosi i’r rhan isaf ymestyn. Mae’r trawst yn plygu ac fe all dorri os yw’r pwysau’n ormod.
Mae llawer o’r bontydd trawst a welwch uwchlaw ffyrdd wedi eu gwneud o ddur neu goncrid er mwyn sicrhau eu bod yn ddigon cryf i ddal y pwysau. Mae maint y trawst, ac yn enwedig ei uchder, yn rheoli rhychwant (span) y bont. Trwy gynyddu trwch neu uchder y trawst gellir rhoi mwy o bwysau arno. Fe ddefnyddir fframwaith neu drysiad i greu pontydd uchel ac mae’r adeiledd yma yn gwasgaru’r tensiwn a’r cywasgedd. Enghreifftiau o batrwm trysiadau
Pontydd Trawst Gall pontydd trawst fod yn bontydd un rhychwant ( un trawst ) neu’n bontydd aml-rychwant.
Pontydd Cantilifer Mae pontydd cantilifer yn cael eu gwneud allan o drawstiau sy’n cael eu cynnal yn un pen yn unig. Math o bont drawst yw’r bont cantilifer. Yn aml, defnyddir dau gantilifer gyda thrawst byr rhyngddynt.
Pont rheilffordd dros yr Afon Forth, Yr Alban. Enghraifft o bont cantilifer Trawst byr
Y Rhufeiniaid a ddyfeisiodd y math yma o bont. Gwelsant y gallai cerrig siap lletem o’r enw voussoirs gario llwythi trwm os cai bwa ei adeiladu ohonynt. Pontydd Bwa Maen clo Er mwyn creu pont bwa mae angen adeiladu ffram o bren i gynnal y cerrig tra’n adeiladu’r bont.Wedi gosod y maen clo gellir tynnu’r ffram i ffwrdd ac fe ddylai’r bwa sefyll ar ei ben ei hun.
Pontydd Cerrig Pontydd Bwa Defnyddiau sy’n gallu gwrthsefyll cywasgu, fel cerrig a briciau a ddefnyddiwyd i adeiladu pontydd bwa yn wreiddiol. Ond mae llawer o’r pontydd modern yn cael eu gwneud allan o goncrid neu ddur. Mae angen cynhaliaeth gref bob ochr i’r bwa i’w rwystro rhag lledu allan. Dur Concrid
Pontydd Crog Gall pont grog estyn ar draws pellter maith heb fod angen llawer o ddefnydd i’w hadeiladu. Efallai eich bod wedi gweld pont grog syml ar y teledu mewn ffilm neu ddrama antur wedi ei leoli mewn jyngl. Defnydd- planhigion dringo a bambw
Pontydd Crog Cymru Mae dwy o’r pontydd crog enwocaf yn y byd i’w cael yng Nghymru. Pont Menai Mae pontydd crog sy’n cario ffyrdd yn dibynnu ar geblau dur cryf sy’n cael eu tynnu. Gall gwynt beryglu pontydd crog a rhaid eu dylunio yn ofalus i ddygymod ag ef. Pont Hafren