90 likes | 329 Views
Astudio’r Cyfryngau. Dadansoddi Ffilm. Ail-ddal. Yn ogystal a phobl beth arall sy’n cael eu cynrychioli yn y cyfryngau? Pa wrthgyferbyniadau deuaidd sydd i’w gweld yn ‘Slumdog Millionaire’? Enwch un digwyddiad pwysig a gafodd ei gynrychioli yn y papurau newydd yn ddiweddar?
E N D
Astudio’r Cyfryngau Dadansoddi Ffilm
Ail-ddal • Yn ogystal a phobl beth arall sy’n cael eu cynrychioli yn y cyfryngau? • Pa wrthgyferbyniadau deuaidd sydd i’w gweld yn ‘Slumdog Millionaire’? • Enwch un digwyddiad pwysig a gafodd ei gynrychioli yn y papurau newydd yn ddiweddar? • Enwch un mater (issue) sy’n cael eu cynrychioli mewn cylchgronau? • Ble sy’n cael ei gynrychioli yn ‘This is England’?
Nod y wers • Dadansoddi rhaghysbyseb ‘Slumdog Millionaire’ gan ganolbwyntio ar y codau technegol a chlywedol: • Sain Cynefin • Effeithiau Sain Anghynefin e.e. Effeithiau Sain, Troslais a Cherddoriaeth • Saethiadau/Onglau a Gwaith Camera • Golygu • Erbyn diwedd y wers bydd disgyblion llwyddiannus yn deall codau a chonfensiynau rhaghysbysebion
Terminoleg Eiconograffiaeth: “Yr arwyddion penodol hynny y byddwn yn eu cysylltu â genre penodol, megis nodweddion corfforol yr actorion a gwisg yr actorion, y sefyllfaoedd a’r lleoliadau, a’r ‘offer ar gyfer y gwaith’ e.e. ceir, drylliau
Saethiadau Camera • Saethiad Sefydlu – Saethiad pell/hirbell fel arfer ar ddechrau golygfa/naratif i ddangos lleoliad • Arafu Lluniau (Slow Motion) • Tremio/Panio – Y camera’n symud rownd yn llorweddol i sylwi ar olygfa gellir tremio 360° • Tynhau/Llacio Lens (zoom in/zoom out) • Saethiad Cledru (Tracking Shot) – Symud ochr yn ochr a’r weithred/cymeriad • Saethiad Ôl-Cledru (Reverse Tracking Shot) – Llacio lens ac yna cledru yn ôl mewn un symudaid llyfn, hyn yn agor yr holl olygfa allan • Saethiad POV (point of view) – Saethiad o safbwynt y cymeriad • Golygu – Hyd y saethiadau a sut mae’r saethiadau wedi eu trefnu mewn i ddilyniant penodol • Saethiad ongl isel/uchel (worm’s eye view/bird’s eye view)