140 likes | 630 Views
Planhigion. Rhannau o blanhigion. GWREIDDIAU – Sugno d ŵ r a mwynau o’r pridd. Y mae’n angori’r planhigion yn y ddaear. COESYN – Mae’n gweithio fel gwelltyn. Mae’n symud d ŵ r o amgylch y planhigyn. Mae’n codi’r dail a’r blodau oddi ar y ddaear.
E N D
Rhannau o blanhigion GWREIDDIAU – Sugno dŵr a mwynau o’r pridd. Y mae’n angori’r planhigion yn y ddaear. COESYN – Mae’n gweithio fel gwelltyn. Mae’n symud dŵr o amgylch y planhigyn. Mae’n codi’r dail a’r blodau oddi ar y ddaear. DAIL – Mae’r rhain yn gwneud bwyd i’r planhigyn. Maent yn cymryd y dŵr â’r mwynau, a’u defnyddio gyda golau’r haul a charbon deuocsid i wneud bwyd. BLODAU – Mae rhain yn cynhyrchu hadau a fydd yn creu planhigion newydd.
GALLWCH CHI GOFIO’R 7 PROSES BYWYD? M R S M A T Y
PLANHIGION – 7 Proses Bywyd Mudiant Mae’r coesyn a dail yn troi i wynebu golau. Mae angen golau ar ddail i wneud bwyd.
PLANHIGION – 7 Proses Bywyd Resbiradaeth Mae planhigion yn cymryd mewn carbon deuocsid (nwy). Maent yn ei ddefnyddio i wneud bwyd.
PLANHIGION – 7 Proses Bywyd Sensitifedd Mae’r coesyn yn troi i wynebu’r golau. Mae’r gwraidd yn tyfu tuag at ddŵr.
PLANHIGION – 7 Proses Bywyd Maethiad Mae planhigion angen bwyd. Mae’r gwraidd yn cymryd i mewn mwynau o’r pridd. Mae’r dail wedyn yn troi’r mwynau a dŵr mewn i fwyd, gan ddefnyddio egni o’r haul. Yr enw ar hyn yw ffotosynthesis.
PLANHIGION – 7 Proses Bywyd Atgenhedlu Mae blodau planhigyn yn cynnwys organau atgenhedlu. Mae’r organ gwrywaidd (y briger) yn cynhyrchu paill, sydd yn trosglwyddo i’r organ benywaidd (stigma) – PEILLIAD. Galluoga hyn i’r planhigyn gynhyrchu wyau - FFRWYTHLONIAD. Pan fydd blodyn yn marw, mae’r hadau yn disgyn o’r planhigyn, a glanio ar y ddaear.
PLANHIGION – 7 Proses Bywyd Tyfiant Mae planhigion yn defnyddio’r bwyd a gynhyrchir yn ystod ffotosynthesis i dyfu.
PLANHIGION – 7 Proses Bywyd Ysgarthiad Mae planhigion yn rhyddhau ocsigen, isgynnyrch diwerth o ffotosynthesis.
Enghraifft o blanhigyn afiach Sut gallai’r planhigyn yma fod wedi marw?
Rhaid i bob diagram dangos: gwreiddiau, coesyn, dail a blodau. Planhigion Tasg • Gwnewch lun o blanhigyn iach. Labelwch y planhigyn ac ysgrifennwch frawddeg yn esbonio swydd bob rhan (mewn perthynas â’r saith proses bywyd). • Gwnewch ddiagram o blanhigyn sydd wedi cael ei gadw mewn tywyllwch am ychydig ddiwrnodau. Labelwch y planhigyn ac ysgrifennwch frawddeg yn esbonio beth sydd wedi digwydd i’r rhannau a pam. • Dyluniwch eto’r planhigyn, yn dangos ei olwg ar ol ychydig ddyddiau ar y silff ffenest. Labelwch y planhigyn, gan esbonio beth sydd wedi digwydd iddo, a pam.