110 likes | 271 Views
Croeso. i bentref Chinangwa, ym Malawi!. Gwlad fach yn nwyrain Affrica yw Malaŵi. Rydym yn ymweld â phentref Chinangwa yn ne Malaŵi. Mae gwaith yn dechrau’n gynnar yn y pentref, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau gweithio cyn 7.30 a.m.
E N D
Croeso i bentref Chinangwa, ym Malawi!
Gwlad fach yn nwyrain Affrica yw Malaŵi. Rydym yn ymweld â phentref Chinangwa yn ne Malaŵi.
Mae gwaith yn dechrau’n gynnar yn y pentref, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn dechrau gweithio cyn 7.30 a.m .
Mae llawer o’r bobl sy’n byw ym Mhentref Chinangwa yn ffermwyr cansen siwgr. Mae rhai yn aelodau o "Tyfwyr Cansen Kisinthula", sy'n gwerthu siwgr i Traidcraft. .
Mae peth o’r siwgr sy’n cael ei dyfu gan y ffermwyr yn siwgr masnach deg. Ydych chi’n gwybod beth yw ystyr masnach deg?
Mae rhai Pobl yn Eglwys Minkazo, ger y pentref.
Mae Alfred yn rhedeg siop y pentref – fe’i dechreuodd oherwydd ei fod yn gwneud mwy o arian drwy werthu siwgr masnach deg. “Fe agorais fy siop groser y drws nesaf i’m tŷ yn 2005. Roedd agor siop yn uchelgais i mi am ddwy flynedd.”
Cyn cael y pwmp dŵr, roedd yn rhaid i bobl y pentref fynd i’r afon i nôl dŵr. Mae llawer o grocodeiliaid yn yr afon, felly mae’n beryglus iawn.
Dyma Joyce, ffermwr siwgr. “Mae’r cynllun masnach deg yn gwneud pethau da yma. Mae gan y pentref rwy'n byw ynddo ddyfrdwll a thrydan. Mae’n gyffrous iawn!”