1 / 72

Modiwl 8: Rheoli arian ar draws y cwricwlwm

Modiwl 8: Rheoli arian ar draws y cwricwlwm. Rheoli arian ar draws y cwricwlwm.

steve
Download Presentation

Modiwl 8: Rheoli arian ar draws y cwricwlwm

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 8: Rheoli arian ar draws y cwricwlwm

  2. Rheoli arian ar draws y cwricwlwm • Mae’r modiwl hwn yn awgrymu cyfleoedd i gyflwyno gweithgareddau yn gysylltiedig â'r elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) ar draws meysydd dysgu, pynciau’r cwricwlwm a mentrau ysgol eraill. • Dylai’r disgwyliadau ar gyfer yr ymateb i bob tasg ddibynnu ar oedran, gallu a phrofiad y dysgwr, e.e. gallai trafodaeth ar beth i’w wneud os ydych chi’n cael hyd i arian ddigwydd unrhyw bryd o’r dosbarth derbyn ymlaen. Bydd anhawster y dasg, lefel y manylion, oedran y dysgwr, yr amrywiaeth o eirfa, ac ati, i gyd yn chwarae rhan wrth gynllunio/asesu’r sgiliau penodol dan sylw. • Mae’n rhaid i anhawster y dasg o ran anghenion sgiliau llythrennedd a rhifedd gyfateb yn ofalus â chamau nesaf unigol y dysgwyr. • Mae’n rhaid i’r gweithgareddau fod yn rhan o gynllunio tymor hir er mwyn sicrhau dilyniant mewn sgiliau fel y nodir yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh.

  3. Cynllunydd rheoli arian Tasg barhaus: Meddyliwch am y cyfleoedd yn eich addysgu i ddatblygu’r sgiliau canlynol a’u hychwanegu at golofn 3 y ‘Cynllunydd rheoli arian’.

  4. Cynllunydd rheoli arian

  5. Cynllunydd rheoli arian

  6. Cynllunydd rheoli arian

  7. Pecyn dysgu rheoli arian Mae’r pecyn dysgu yn cynnwys 10 modiwl. • Modiwl 1: Cyflwyniad i addysg ariannol a lle mae ‘Rheoli arian’ wedi’i gynnwys yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru • Modiwl 2: Addysgu arian • Modiwl 3: Ydych chi'n ddefnyddiwr doeth? • Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc • Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu • Modiwl 6: Rheol eich arian – benthyca • Modiwl 7: Rheoli eich arian – cynilo • Modiwl 8: Rheoli arian ar draws y cwricwlwm • Modiwl 9: Arian tramor • Modiwl 10: Byd gwaith a menter

  8. Ar draws y cwricwlwm Mae’r modiwl hwn yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu addysg ariannol yn y Meysydd Dysgu a’r pynciau canlynol: • Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu • Cymraeg • addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) • mathemateg • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd/daearyddiaeth/ieithoedd tramor modern • Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd/hanes • Datblygiad Creadigol/dylunio a thechnoleg/celf a dylunio • addysg grefyddol • technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) • gyrfaoedd a’r byd gwaith • meysydd ychwanegol – banciau ysgol, Menter Ysgolion Iach, Eco-ysgolion, Gwobr y Faner Werdd, Dug Caeredin, Bagloriaeth Cymru, menter/codi arian.

  9. Cydran llythrennedd y FfLlRh Wrth gynllunio gweithgareddau cysylltiedig ag arian mewn unrhyw faes pwnc, dylech chi ystyried elfennau, agweddau a datganiadau disgwyliadau cydrannau llythrennedd y FfLlRh ar gyfer llafaredd ar draws y cwricwlwm, darllen ar draws y cwricwlwm ac ysgrifennu ar draws y cwricwlwm.

  10. Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu/Saesneg

  11. Llafaredd ar draws y cwricwlwm Syniadau ar gyfer datblygu sgiliau llafaredd: • Archwilio gwybodaeth/dealltwriaeth o eirfa ariannol. • Trafod cwestiynau/cyfyng-gyngor ar faterion sy'n cynnwys arian (gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Senario 1–19) . • Awgrymu/penderfynu/cynllunio/esbonio prosiectau codi arian/prisiau/elw posibl ac ati gan ddefnyddio geirfa berthnasol. • Gwneud cyflwyniad ar gyfer cynllun busnes. • Trafod ystyr dywediadau neu gymalau, e.e. buan y gwahenir ynfyd a'i arian, talu costau, mae'r pethau gorau mewn bywyd am ddim. • Y dysgwyr yn cymryd tro i awgrymu rhywbeth sy'n rhad (neu'n ddrud) i'w brynu. Neu, rhad/drud/rhad/drud. Neu, dechreuwch gyda rhad, ac mae pawb yn dweud rhywbeth mwy drud. (Syniadau ar gyfer cwestiynau – P'un oedd yr eitem rataf? Allwch chi feddwl am rywbeth sy'n costio llai na hynny? Beth oedd yr eitem ddrutaf? Allwch chi feddwl am rywbeth sy'n costio mwy?)

  12. Chwarae ‘Cytuno, Anghytuno, Ddim yn gwybod’ Gwnewch ddatganiad am arian. Er enghraifft: • Mae pêl-droedwyr yr uwch gynghrair yn haeddu eu cyflog. • Dylai dysgwyr gael gwisg ysgol am ddim. • Dylai pawb weithio i gael arian. • Dylai pawb roi arian i elusennau. • Dwi bob amser yn gwybod faint o arian sydd gen i. Gall dysgwyr gytuno, anghytuno neu ddweud dim yn siŵr. Os nad ydyn nhw’n siŵr, all rhywun yn y grŵp ‘cytuno’ neu ‘anghytuno’ eu helpu nhw i benderfynu? (Wedi'i addasu o gêm ‘Agree, Disagree, Don’t Know’ pfeg, Learning About Money in the Primary Classroom, t. 46)

  13. Chwarae rôl – Sgiliau llafaredd Mae ardaloedd chwarae rôl yn ddelfrydol ar gyfer darparu gweithgareddau sy'n cynnwys nifer o feysydd cwricwlwm. Llafaredd a datblygiad cymdeithasol a chymdeithasol yw'r sgiliau amlwg i'w datblygu. Datganiadau cydran llythrennedd yn y FfLlRh ar gyfer llafaredd ardraws y cwricwlwm • Cyfrannu i weithgareddau chwarae rôl gan ddefnyddio iaith berthnasol. • Mabwysiadu rôl gan ddefnyddio iaith briodol. • Mabwysiadu rôl benodol, gan ddefnyddio iaith sy’n briodol mewn sefyllfaoedd strwythuredig. • Cadw mewn rôl a chynorthwyo eraill wrth chwarae rôl. • Archwilio sefyllfaoedd gwahanol drwy chwarae rôl. • Archwilio dadleuon a themâu drwy chwarae rôl. • Archwilio materion heriol neu ddadleuol drwy barhau i gynnal y rôl y maent yn ei chwarae. • Dadlau’n llawn argyhoeddiad gan ddefnyddio gwybodaeth am y pwnc yn effeithiol, e.e. wrth chwarae rôl neu mewn dadl. • Amddiffyn dadl gyda gwybodaeth a rhesymau, e.e. wrth chwarae rôl mewn dadl. • Cynnal dadl argyhoeddedig, rhagweld safbwyntiau eraill ac ymateb iddynt, e.e. wrth chwarae rôl neu mewn dadl.

  14. Chwarae rôl • Mae ardal chwarae rôl gydag arian yn rhoi cyfle i’r dysgwyr ddatblygu ymwybyddiaeth o sut i ddefnyddio arian a gwerth arian. Defnyddiwch arian go iawn os oes modd. • Syniadau: • Ystyried cael dwy ardal chwarae rôl – un cysylltiedig â’r cartref ac un cysylltiedig ag arian. • Gall y dysgwyr sydd ‘adref’ drafod eu hanghenion, cynllunio beth i’w brynu, ysgrifennu rhestr, penderfynu sut i dalu, cyfrif arian, gwirio balans, ac ati, cyn siopa. • Yn y lleoliad masnachol, gall dysgwyr gyfrif, trefnu, categoreiddio, trefnu arddangosiadau, penderfynu ac ysgrifennu prisiau, gwneud trafodion, ysgrifennu derbynebau, ac ati.

  15. Syniadau chwarae rôl sy’n cynnwys arian • Ynys môr-ladron. • Swyddfa’r Post. • Caffi/bwyty. • Canolfan arddio. • Milfeddyg. • Groto Siôn Corn. • Banc. • Theatr. • Siop – mae sawl math i’w ddewis!

  16. Dewis o siopau chwarae rôl a argymhellir gan athrawon yng Nghymru • DIY/iard adeiladu. • Siop anifeiliaid anwes. • Siop leol. • Siop deganau. • Siop esgidiau. • Siop ffrwythau a llysiau. • Siop bunt. • Siop castell. • Siop tywysog a thywysoges. • Siop amgueddfa. • Siop hetiau. • Siop gwisg ffansi. • Siop lyfrau. • Siop glan môr.

  17. Sgyrsiau chwarae rôl • Sut ydych chi’n gwybod beth yw pris pethau? • Sut mae’r siopwr yn gwybod pa bris i’w roi ar bethau? • Beth sy’n rhaid i chi fynd gyda chi pan fyddwch chi’n siopa? • Sut ydych chi’n gwybod beth fydd rhaid i chi ei dalu i gyd? • Pa arian fyddwch chi’n ei roi i’r siopwr? • Fyddwch chi’n cael unrhyw newid? Faint? • Ble fyddwch chi’n cael yr arian? • Beth fyddwch chi’n ei wneud os nad oes digon o arian gennych chi? • Beth mae cerdyn credyd yn ei wneud? • Ydy unrhyw un yn eich teulu yn ysgrifennu rhestr siopa cyn mynd allan? • Ydyn nhw’n prynu unrhyw beth sydd heb fod ar y rhestr? • Oes ots os oes unrhyw gamgymeriadau sillafu ar y rhestr? • Pam nad ydych chi’n rhoi pethau yn eich bag yn syth pan fyddwch chi’n siopa? • (Wedi’i addasu a’i gyfieithu o Money Counts, yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol)

  18. Sgiliau chwarae rôl • Hyfforddwch grŵp o ddysgwyr i ddefnyddio’r offer chwarae rôl yn briodol. Gall y ‘rheolwyr’ hyn hyfforddi’r dysgwyr eraill. Efallai y bydd rhaid iddyn nhw: • ddefnyddio’r til yn gywir • penderfynu ar y prisiau • ysgrifennu labeli yn glir • cofnodi archebion • ysgrifennu derbynneb • cadw cofnod o’r eitemau sy’n cael eu gwerthu • rhoi newid. • Syniad: Cael ‘arianwyr’/‘cyfrifwyr’ sy’n cyfrif yr arian ar ddiwedd bob dydd. (Cael rhestr wirio wedi’i lamineiddio yn barod, e.e. Faint o bob darn arian? Faint o arian ar gyfer pob math o ddarn arian? Faint o arian i gyd?)

  19. Prisiau • Trafodwch brisiau gyda’r dysgwyr. • Fel arfer byddan nhw’n dewis o amrediad y maen nhw’n gyfforddus ag ef. Gallwch chi newid wrth iddyn nhw wneud cynnydd, gan edrych ar y deilliannau dysgu priodol yng nghydran rhifedd y FfLlRh. • Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio i brisiau (gwaith cartref/rhyngrwyd). • Dylai’r gwahaniaeth rhwng prisiau mewn siopau gwahanol godi’n naturiol.

  20. Chwarae rôl neu drafod syniadau am arian Meddyliwch am rôl/safbwynt pobl mewn amgylchedd cysylltiedig ag arian. Syniadau: • Gwerthwyr/prynwyr (e.e. siopau bach, archfarchnadoedd, cyfanwerthwyr, ffermwyr lleol, gweithwyr Masnach Deg, marchnadoedd, arwerthiannau cist car, siopladron, gwerthwyr rhyngrwyd, ac ati). • Darparwyr gwasanaeth (e.e. plymwyr, gwarchodwyr plant). • Rheoli cyllideb (e.e. teulu, oedolyn ifanc sy’n prynu tŷ, ysgol, cyngor yr ysgol, cwmni, cyngor). • Rhoddwyr benthyg/benthycwyr arian (e.e. undebau credyd, banciau, cwmnïau cerdyn credyd, cwmnïau benthyciad diwrnod tâl, benthycwyr carreg drws, ffrindiau neu berthnasau).

  21. Chwarae rôl neu drafod syniadau am arian Gallai rôl/safbwynt pobl mewn amgylchedd cysylltiedig ag arian arwain at chwarae rôl/dadlau agweddau ar y pynciau canlynol: • trafod y pris gorau • cyflogau • canfod/gwneud/colli arian • cyllidebu • benthyca • cynilo • gwario • elw a cholled • buddsoddi • yswiriant • treth incwm.

  22. Darllen ar draws y cwricwlwm Mae nifer o lyfrau â thema ariannol (gweler Adnodd 1: Rhestr llyfrau). Gall y rhain fod yn ddefnyddiol iawn wrth drafod agweddau emosiynol sy’n gysylltiedig â chyfrifoldeb ariannol (h.y. bod yn ymwybodol bod arian a phenderfyniadau ariannol wedi’u cysylltu’n agos â safbwyntiau gwerth a’u bod nhw’n gallu cael effaith nid yn unig ar y sawl sy’n gwneud penderfyniad, ond hefyd ar ei deulu a’r gymuned).

  23. Darllen ar draws y cwricwlwm Syniadau ar gyfer deunyddiau darllen: • Ffuglen – llyfrau, cerddi a hwiangerddi gyda thema ariannol (gweler Adnodd 1: Rhestr llyfrau am awgrymiadau). • Ffeithiol – geirfa ariannol, cyfrif banc/gwybodaeth am fenthyciadau, cyfraddau llog, rhestr o dermau ariannol, rhestrau prisiau, labeli prisiau, cynigion arbennig, hysbysebu, bwydlenni, ac ati.

  24. Ymateb i’r hyn sydd wedi cael ei ddarllen Syniadau: • Ailadrodd straeon cyfarwydd cysylltiedig ag arian. • Rhoi gwybodaeth a syniadau o destun i brofiad personol. • Rhagfynegi beth sy’n digwydd nesaf mewn stori cysylltiedig ag arian. • Esbonio pam bod cymeriadau mewn stori cysylltiedig ag arian efallai wedi ymddwyn mewn ffordd arbennig, e.e. gwario’r arian y maen nhw wedi’i ganfod, rhoi arian i elusen, ac ati. • Deall termau ariannol (geirfa). • Nodi gwybodaeth mewn testun, e.e. manylion digwyddiad codi arian, cyfarwyddiadau ar sut i agor cyfrif banc, cyfraddau ar gyfer benthyca arian. • Defnyddio gwefannau cymharu prisiau i benderfynu ble i brynu eitemau. • Ymchwilio syniadau menter dysgwyr eu hunain i benderfynu pa rai allai fod y mwyaf proffidiol.

  25. Taflen weithgaredd rheoli arian: Ar goll! Stori ysgogi – copi athrawon

  26. Taflen weithgaredd rheoli arian: Ar goll! Stori ysgogi – copi dysgwr

  27. Taflen weithgaredd rheoli arian: Stori rhif

  28. Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm Syniadau: • Datblygu gwybodaeth o eirfa benodol cysylltiedig ag arian. • Ailysgrifennu stori ar thema arian. • Creu stori, cerdd, drama, ac ati, ar thema arian. • Creu rhestrau, e.e. rhestrau siopa, rhestrau prisiau, eisiau ac angen, eitemau sy’n rhad/drud, sut i gael credyd/gwneud arian. • Labeli prisiau. • Derbynebau. • Gwahoddiadau, e.e. i ddigwyddiadau codi arian. • Llythyrau, e.e. yn ymwneud â digwyddiadau codi arian, ceisiadau am roddion, llythyrau diolch, ac ati.

  29. Ysgrifennu ar draws y cwricwlwm Syniadau: • Gwneud posteri yn hysbysebu digwyddiadau cysylltiedig ag arian/codi arian/cynigion arbennig. • Cofnodi'r arian sy’n cael ei wario/gynilo, e.e. siop ffrwythau, digwyddiadau codi arian. • Cofnodi elw/colled, e.e. siop ffrwythau, digwyddiad menter. • Ysgrifennu cyngor ar arian i eraill, e.e. cynghorion cynilo arian, cael credyd. • Holiadur i gael gwybod beth fyddai dysgwyr am ei weld/faint yr hoffen nhw ei dalu mewn digwyddiad codi arian. • Cyfarwyddiadau, e.e. sut i agor cyfrif banc, sut i gael prisiau 'gwerth gorau’. • Cynllun busnes ar gyfer digwyddiad menter. • Cynllun cynilo ar gyfer codi arian. • Adroddiad ar ddigwyddiad ‘arian’ a gynhelir yn yr ysgol. • Ysgrifennu i asesu gwybodaeth dysgwyr am arian, e.e. Beth ydych chi’n ei wybod am arian? Ble fydd pobl yn cael arian? Sut gallech chi gael mwy o arian?

  30. Cymraeg ail iaith Meddyliwch am gael siop/caffi (go iawn neu yn yr ardal chwarae rôl) lle mae eitemau wedi’u labelu/prisio yn Gymraeg ac mae’r dysgwyr yn cael eu hannog i siarad Cymraeg. Darllenwch lyfr Cymraeg gyda thema ariannol (gweler Adnodd 1: Rhestr llyfrau). Os yw’n briodol, gallai pynciau’n gysylltiedig â swyddi, siopa neu arian gynnwys meysydd o’r elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y FfLlRh, e.e. cyllideb ar gyfer pryd bwyd/taith siopa/stocio caffi, cynigion arbennig. Gallai rhedeg caffi neu siop Gymraeg ddarparu cyfleoedd i gofnodi elw a cholled.

  31. Addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) Syniadau am weithgareddau datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang: • Materion byd-eang, e.e. anghydraddoldeb cyfoeth, Masnach Deg. • Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu. Syniadau am weithgareddau dinasyddiaeth fyd-eang: • Angen ac eisiau yn ymwneud â hawliau’r plentyn, e.e. angen ac eisiau plentyn yn y wlad hon/gwledydd eraill. • Cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau, e.e. dosbarth/cyngor yr ysgol yn pleidleisio ar sut i ddefnyddio’r arian a godir, dewis eitemau ar gyfer cyfarpar ysgol o gyllideb.

  32. Addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) Syniadau am weithgareddau iechyd a lles emosiynol: • Teimladau personol a sensitifrwydd i eraill yn gysylltiedig ag arian, e.e. colli/canfod arian, disgwyl arian ar gyfer eich pen-blwydd. (Gellid gwneud hyn drwy gyfrwng storïau gyda thema ariannol (gweler Adnodd 1: Rhestr llyfrau).) • Cyllid - gwybod sut i gael cymorth a chyngor ar faterion ariannol. Syniadau am weithgareddau datblygiad moesol ac ysbrydol: • Cysylltu ag adnodd cwricwlwm Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu(http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/curriculuminwales/pseseal/primaryresources/?skip=1&lang=cy). • Trafod cyfyng-gyngor moesol mewn sefyllfaoedd bob dydd sy'n gysylltiedig ag arian (gweler Taflenni gweithgaredd rheoli arian: Senario 1–19). • Gweler syniadau chwarae rôl/dadlau (sleidiau 19 ac 20).

  33. Addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) Paratoi ar gyfer dysgu gydol oes – syniadau trafod: Mae'r dysgwyr yn archwilio ac yn deall: • yr ystod o swyddi y mae pobl yn eu gwneud yn eu cymuned (gweler Modiwl 10) • bod arian yn cael ei ennill drwy weithio a gall brynu nwyddau a gwasanaethau (gweler Modiwl 10) • pwysigrwydd edrych ar ôl eu harian a gallu rheoli cyllid personol (gweler Modiwlau 4, 5, 6 a 7) • canlyniadau economaidd a moesegol penderfyniadau ariannol personol fel defnyddiwr, e.e. Masnach Deg (gweler Modiwl 3) • bod cynilion yn rhoi annibyniaeth ariannol (gweler Modiwl 7) • eu hawliau fel defnyddwyr (gweler Modiwl 3) • eu cyfrifoldebau o ran rheoli cyllideb (gweler Modiwl 5) • pwysigrwydd cynllunio ar gyfer eu dyfodol ariannol a sut i gael cyngor ariannol (gweler Modiwlau 4, 5, 6 a 7) • prosiectau menter (gweler Modiwl 10).

  34. Taflenni gweithgaredd rheoli arian: Senario 1–19 • Gellir defnyddio’r Taflenni gweithgaredd rheoli arian: Senario 1–19 i ysgogi trafodaeth – mewn pâr, grwpiau bach neu fel dosbarth cyfan. • Ystyried eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau drama, gan gynnwys chware rôl neu ddadleuon yn seiliedig ar y sefyllfaoedd a ddisgrifir yn y cardiau. Gall dysgwyr berfformio’r senarios hyn i’r dosbarth. Bydd yn ysgogi mwy o siarad, cwestiynau a syniadau, a gall arwain at y dysgwyr yn ysgrifennu eu deialog eu hunain a sgriptiau chwarae syml. • Eu defnyddio i ysgogi syniadau ar gyfer storïau, cerddoriaeth a chelf. • Cael y dysgwyr i drafod ac yna pleidleisio ar gyfer safbwynt arbennig, gan gyfiawnhau eu penderfyniad ar lafar. Gall hyn greu data i’w roi ar graff a’i ddefnyddio mewn arddangosiadau.

  35. Taflen weithgaredd rheoli arian: Sut ydw i’n dewis ar beth i wario fy arian?

  36. Datblygiad Mathemategol/mathemateg Gosod problemau mathemategol mewn cyd-destun go iawn cysylltiedig ag arian. I gael adnoddau a gweithgareddau pellach gweler: • Modiwl 2: Addysgu arian • Modiwl 3: Ydych chi'n ddefnyddiwr doeth? (canrannau/ffracsiynau a chynigion arbennig) • Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc (cadw cyfanswm) • Modiwl 5: Rheoli eich arian – cyllidebu • Modiwl 6: Rheol eich arian – benthyca • Modiwl 7: Rheoli eich arian – cynilo • Modiwl 9: Arian tramor (cyfrifo cyfnewidfa dramor) • Modiwl 10: Byd gwaith a menter (cyfrifo treth incwm).

  37. Taflen weithgaredd rheoli arian: Problemau arian

  38. Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd/ daearyddiaeth/ieithoedd tramor modern Syniadau: • Ysgolion i ymweld ag ardal mewn rhan arall o Gymru neu wlad arall – Os yw'n briodol i'r oedran, cynnwys dysgwyr wrth gyfrifo costau'r ymweliad, e.e. cludiant, mynediad, gosod cyllideb. – Cyn/ar ôl ymweliad ysgol, ystyried ardal chwarae rôl seiliedig ar arian sy'n gysylltiedig â'r ymweliad, e.e. siop glan môr, siop castell, siop amgueddfa, cyfnewidfa dramor. • Cysylltiadau ag ysgol neu blentyn mewn gwlad arall, e.e. ysgol efeillio, plentyn 'wedi'i fabwysiadu' drwy elusen. – Cymharu angen ac eisiau eu hunain/plentyn mewn gwlad arall. – Codi arian ar gyfer ysgol arall. Gosod swm targed i'w godi er mwyn prynu eitem ar gyfer yr ysgol arall, e.e. pwmp dŵr, cyfarpar ysgol, ac ati. Gall y dysgwyr gymryd rhan wrth gyfrif, olrhain a chofnodi'r arian a godir, a gynilir a'r swm sydd ei angen i gyrraedd y targed. • Gwledydd eraill – Edrych ar gymharydd prisiau ar gyfer teithio a llety i wlad arall. – Bod yn ymwybodol o gyfraddau arian tramor/cyfenwid. – Sefydlu asiant deithio mewn ardal chwarae rôl. – Sefydlu caffi/biwro cyfnewid arian tramor a gwerthu eitemau gan ddefnyddio arian tramor o wledydd eraill.

  39. Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Byd/hanes Os yw'n briodol, cyflwynwch agweddau ar arian pan fyddwch yn trafod bywyd bob dydd ar adegau gwahanol ac mewn lleoedd gwahanol yn y gorffennol, e.e. sut beth oedd bywyd i'r cyfoethog a'r tlawd, i ddynion, merched a phlant o dan y pynciau canlynol. • Tai. • Bwyd a ffermio. • Cludiant. • Addysg. Syniadau: Ymchwiliwch i swyddi a chyflogau, ffyrdd o fyw, prisiau, dogni, ffeirio. • Hanes arian – gweler 'Llinell amser ariannol hanes arian'https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy • Gweler Taflen weithgaredd rheoli arian: Llinell amser ariana Thaflen weithgaredd rheoli arian: Hanes arian. • Dillad. • Dathliadau. • Diddordebau.

  40. Hanes arian – gêm llinell amser arian www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/financial-timeline/index.html

  41. Taflen weithgaredd rheoli arian: Llinell amser arian

  42. Taflen weithgaredd rheoli arian: Hanes arian

  43. Datblygiad Creadigol/dylunio a thechnoleg/celf a dylunio Syniadau: • Dylunio posteri i annog pobl i gynilo arian neu hysbysebu digwyddiadau codi arian. • Dylunio cadw-mi-gei. • Dylunio darn arian/papur banc/arian y dyfodol. • Wrth goginio, dylai'r dysgwyr gymryd rhan wrth brynu'r cynhwysion, edrych ar gymharu prisiau/gwerth am arian (gweler Rheoli Arian, Gweithgaredd 4: Pupurau gwyrdd neu domatos coch, Adnodd 3).

  44. Dyluniwch hysbyseb www.hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/design-an-advert/index.html

  45. Addysg grefyddol Storïau’r Beibl gyda thema arian: • Dameg y deg ceiniog arian. • Iesu’n cael gwared ar y benthycwyr arian o’r deml. • Zacchaeus y casglwr trethi.

  46. Addysg grefyddol Ffordd o fyw/rheolau ar gyfer byw • Cynaliadwyedd. • Materion moesol, da/drwg (gweler syniadau ABCh). • Mae Zakat yn ffordd o fyw Mwslimaidd lle mae unigolyn yn rhoi cyfran benodol o’i gyfoeth bob blwyddyn i achosion elusennol. Mae’n gyfrifoldeb personol i Fwslimiaid leddfu caledi economaidd i eraill a dileu anghydraddoldeb. • Mae Riba (y gair Arabaidd am ‘ddiddordeb’) wedi’i wahardd mewn rhai crefyddau. Mae banciau arbenigol yn gweithredu yn unol â chredoau crefyddol.

  47. Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) Syniadau: Darganfod a dadansoddi gwybodaeth • Darganfod gwybodaeth drwy ddefnyddio ffynonellau diogel ac addas, e.e. cymaryddion prisiau, cyngor ariannol. • Defnyddio taenlenni i gadw golwg ar gynilion, gwario, cyllideb, elw a cholled, a dangos gwybodaeth gan ddefnyddio tablau, graffiau, ac ati. Creu a throsglwyddo gwybodaeth • Defnyddio TGCh ar gyfer gweithgareddau ysgrifennu, e.e. posteri/gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau codi arian, rhestrau prisiau, adroddiadau ar ddigwyddiadau codi arian, cyflwyniadau ar gyfer syniad codi arian, ac ati. Cysylltwch y syniadau uchod â: • phrosiectau menter • codi swm penodol o arian ar gyfer prosiect/cyfarpar • siop ffrwythau'r ysgol • cyllidebau, e.e. cyllideb deunydd ysgrifennu'r dosbarth, taith ysgol, cyllideb cyngor yr ysgol ar gyfer offer maes chwarae/llyfrgell yr ysgol/ac ati • trafod bod yn ddiogel ar y rhyngrwyd – pwysigrwydd defnyddio diogelwch wrth siopa ar-lein.

  48. Banciau ysgol Mae rhai undebau credyd yn rhedeg banciau ysgol llwyddiannus gyda chymorth y dysgwyr. I gael hyd i'ch undeb credyd lleol ewch i www.findyourcreditunion.co.uk/home

  49. Gyrfaoedd a’r byd gwaith Gweler Modiwl 10: Byd gwaith a menter

  50. Gwobr Ysgolion Iach Mae nifer o ysgolion yn cymryd rhan yng Ngwobr Ansawdd Genedlaethol Cynlluniau Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru. Mae’r cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau codi arian yn cynnwys: • lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu • mentrau Masnach Deg, e.e. byrbrydau Masnach Deg, peli troed, peil rygbi, gwisg ysgol wedi’i wneud o gotwm Masnach Deg (gweler Modiwl 3: Ydych chi’n ddefnyddiwr doeth? i gael mwy o syniadau Masnach Deg) • coginio ar gyllideb (Gweler Rheoli Arian, Gweithgaredd 4: Pupurau gwyrdd neu domatos coch) • siop ffrwythau’r ysgol, e.e. cadw golwg ar wario, cynilo, elw a cholled.

More Related