70 likes | 189 Views
Datblygu Gyrfa. Mae datblygu gyrfa'n golygu bod y gweithiwr yn gwneud cynnydd yn eu sgiliau, cyfrifoldebau a hynafedd.
E N D
Mae datblygu gyrfa'n golygu bod y gweithiwr yngwneudcynnydd yn eu sgiliau, cyfrifoldebau a hynafedd • Wrth i weithwyr ddod yn fwy profiadol a medrus, maen nhw'n dymuno cael dyletswyddau newydd, tasgau newydd, ac awdurdod dros weithwyr eraill, ac wrth gwrs maen nhw eisiau cael eu gwobrwyo am y gwaith hwn – cyflog uwch, taliadau bonws ac ati. Felly sut mae datblygu gyrfa'n digwydd ?
Hyfforddiant Hyfforddiant a nodi anghenion hyfforddiant • Heb hyfforddiant, ni fyddai gweithwyr yn cyflawni eu potensial, a byddent yn teimlo'n siomedig tuag at eu cyflogwyr. • Mae hyfforddi gweithwyr yn creu hyblygrwydd, mae gweithwyr sydd wedi cael eu hyfforddi yn gallu ymaddasu'n haws i newidiadau a chyfrannu mwy i'r cwmni. Mae hyfforddiant yn rhoi cymhelliant, ac yn caniatáu i weithwyr gyflawni eu potensial a chyfrannu'n llawn i’r busnes.
Mathau o Hyfforddiant – wrth y gwaith • Wrth y gwaith, dysgudrwy wneud. Gyda hyfforddiant wrth y gwaith, dangosir i weithiwr sut i gyflawni tasgau neu fe’i haddysgir i’w gwneud gan weithiwr mwy profiadol. • Buddion hyfforddiant wrth y gwaith ·Dim aflonyddu ar y gweithledrwyabsenoldebgweithiwr ·Pris isel ·Hyfforddiant sy'n uniongyrchol berthnasol i'rswydd • Costau hyfforddiantwrth y gwaith ·Yr amser a dreulir gan reolwyryncynllunio'r hyfforddiant ·Yr amser a dreulir ganreolwyrneuoruchwylwyr yn gwneud yr hyfforddiant ·Gostyngiadposibl yn ansawdd y cynnyrch wrth i'r hyfforddai gyflawni'r gwaith
Mathau o Hyfforddiant – i ffwrdd o'r gwaith • Hyfforddianti ffwrdd o'r gwaith, lle mae'r gweithiwr yn mynd i goleg i astudio am gymwysterau fel CGCC (GNVQ), neu drwy ddysgu o bell neu drwy ddefnyddio cyrsiau mewnol (yn y gweithle) sydd wedi'u strwythuro'n benodol ar gyfer anghenion y cwmni. Buddion hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith ·Dysgirystod ehangach o sgiliau ·Mewnbynnu syniadau newyddi‘r gweithle ·Mae'r gweithiwr yn ennill cymwysteraugwerthfawr • Costau hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith • ·Colli cynhyrchu, ac aflonyddu ar y gweithle pan fydd y gweithiwr yn absennol • ·Costau gwirioneddol cyrsiau • ·Gallai'r gweithiwr geisio defnyddio ei gymwysterau i chwilio am well cyflogaeth yn rhywle arall
Mathau o Hyfforddiant – tystysgrifedig Mae cwrs neu raglen hyfforddiant tystysgrifedig yn gwrs sydd wedi cael ei achredu gan gwmni neu reolydd diwydiant. Mae hyfforddiant tystysgrifedig yn bwysig mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau, oherwydd, yn aml, ni all gweithwyr wneud y gwaith heb yr ardystiad perthnasol. • Ceir enghreifftiau o hyn yn y diwydiannau cyfleustodau e.e. mae'n rhaid i ffitiwr nwy gael ardystiad CORGI, ac mewn cyfrifiadura, mae'n rhaid cael hyfforddiant ardystiedig gan Microsoft ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi technegydd TG.
Cynllun Datblygiad Personol Bydd CynllunDatblygiadpersonol yn edrych ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad presennol y gweithiwr ac ynnodi unrhyw wendidau. Yna bydd y CynllunDatblygiad yn caniatáu rhoi pecyn hyfforddi at ei gilydd sy'n datblygu sgiliau a gwybodaeth.