90 likes | 277 Views
Gwrthdaro Rhyngwladol. Y ‘Cyfrifoldeb i Ddiogelu’ (R2P). Diffiniadau a Thermau :. Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ( UNSC ): 15 o Aelod Wladwriaethau sy’n gwneud prif benderfyniadau UN, y ‘penderfyniadau’. 10 heb fod yn barhaol, 5 yn barhaol. Maent yn penderfynu ar R2P.
E N D
Gwrthdaro Rhyngwladol Y ‘Cyfrifoldeb i Ddiogelu’ (R2P)
Diffiniadau a Thermau: • Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig (UNSC): 15 o Aelod Wladwriaethau sy’n gwneud prif benderfyniadau UN, y ‘penderfyniadau’. 10 heb fod yn barhaol, 5 yn barhaol. Maent yn penderfynu ar R2P • 5 Parhaol UNSC: Tsieina, Prydain, UDA, Ffrainc, Rwsia • Ymyriadau Milwrol: defnyddio grym fel y gobaith olaf os yw pob diplomyddiaeth yn methu; llu rhyngwladol unedig (e.e. ISAF yn Afghanistan)
Diffiniadau a Thermau : • Sancsiynau: Pwerau i atal cenedl rhag masnachu/cymryd rhan mewn materion rhyngwladol h.y. mewnforio, atal cyfrifon banc yn y Swistir, gwahardd teithiau gwleidyddol etc. Mae hyn yn rhoi pwysau ar wladwriaeth i atal eu troseddau yn erbyn R2P • Sofraniaeth: Grym cenedl i ofalu am ei materion ei hun, oddi mewn i’w ffiniau. Mae hyn yn gyfrifoldeb, nid yn hawl. Os caiff hyn ei dorri, gall R2P weithredu
Beth yw ‘Cyfrifoldeb i Ddiogelu’, o ble y daeth a pham y dylem niboeni? • Trafodaeth ryngwladol ar y cyfrifoldeb ar y gymuned ryngwladol i ddiogelu dinasyddion rhag niwed, pa un ai rhag eu llywodraeth eu hunain, gwladwriaeth arall, milisia ac ati. • Trafodwyd yn ffurfiol ar ôl hil-laddiad Rwanda ’95, daeth yn flaenoriaeth ryngwladol yn 2001 ac wedi’i gadw yng nghyfraith ryngwladol yr UN yn 2006 (Penderfyniad 1674 UNSC)
Ymhle byddai ‘R2P’ yn cael ei ddefnyddio, a beth yw ei feini prawf? 1)hil-laddiad 2) Glanhau ethnig 3)Troseddau yn erbyn y ddynoliaeth 4)Troseddau rhyfel
Beth yw Tri Philer‘R2P’? Amddiffyn. Cynorthwyo. Gweithredu # 1:Yr egwyddor bwysicaf; Mae cyfrifoldeb ar y wladwriaeth (llywodraeth y wlad) i amddiffyn ei dinasyddion # 2:Mae cyfrifoldeb ar y gymuned ryngwladol(pob cenedl arall) i helpu’r wladwriaeth honno i gyflawni #1 (cymorth, cyngor, diplomyddiaeth) # 3:Os bydd #1 a #2 yn methu (e.e. Libya 2011-12), mae’n rhaid i’r gymuned ryngwladol ymyrryd; sancsiynau (economaidd, aelodaeth o sefydliadau rhyngwladol), pwysau gan wledydd cyfagos, ac yn olaf ymyrraeth filwrol fel dewis olaf (a dim ond os bydd y Cyngor Diogelwch yn gallu penderfynu mai dyna’r dewis olaf
Y ‘Cyfrifoldeb i Warchod’ ar waith: Libya 2011/12: Yn dechrau gyda dynodi parth dim hedfan uwchlaw Libya (roedd pob awyren a oedd yn troseddu yn cael eu saethu; atal y llywodraeth rhag bomio dinasyddion) ac yn cynnwys swyddogion NATO yn cefnogi ymdrechion tactegol gwrth-lywodraethol. Arweiniodd at ddymchwel unbennaeth. Kenya 2007/08: Canlyniadau etholiad a fu’n destun anghydfod yn arwain at wrthdaro ethnig, gyda thrais rhywiol, llofruddiaethau a throseddau yn gysylltiedig â’r heddlu yn helaeth. Ymdrechion yr Undeb Affricanaidd Union (corff tebyg i’r Undeb Ewropeaidd) a’r Cenhedloedd Unedig i gyfryngu yn arwain at lywodraeth glymblaid a diwedd ar y trais. Yn dangos nad ymyriad filwrol sydd ei angen bob tro!
Sut mae’n effeithio arnom ni?