70 likes | 243 Views
Brwydr Prydain. “ Erioed yn hanes gwrthdaro rhwng dynolryw y bu dyled cynifer i gyn lleied mor fawr . ”. Y Prif Weinidog Winston Churchill, Awst 1940. Synfyfyrio ac Ystyried. Amddiffyn y Genedl - “Y Genedl yn Rhyfela”. Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben. A wnaeth y Luftwaffe
E N D
Brwydr Prydain “Erioedynhanesgwrthdarorhwngdynolryw y budyledcyniferigynlleiedmorfawr.” Y Prif Weinidog Winston Churchill, Awst 1940 Synfyfyrio ac Ystyried Amddiffyn y Genedl -“Y Genedl yn Rhyfela” Pwyswch ‘Esc’ i ddod â’r cyflwyniad i ben.
A wnaeth y Luftwaffe fychanu amddiffynfeydd a phenderfynoldeb Prydain? Darparwyd y delweddau gan Gymdeithas Hanesyddol Brwydr Prydain
Gohiriodd Adolf Hitler gyrch i oresgyn Prydain ar 17 Medi 1940. Cafodd ei ohirio am amser amhenodol. Cwestiwn Allweddol: Oedd Brwydr Prydain a’i chanlyniad yn drobwynt mawr yn yr Ail Ryfel Byd? ErmaiareipheneihunyroeddPrydainynymladdynerbynyrAlmaen, llwyddoddidrechubyddin a oeddynfwymewnnifer. Roedd system amddiffynPrydainwedisicrhau y byddai’rfrwydrynerbynyrAlmaena’ichynghreiriadynparhau. Rhoddoddganlyniad y fuddugoliaethgyfleiluoeddarfogPrydain ‘gaeleugwyntatynt’ ac ailymgynull. CafoddyrYmerodraethBrydeiniggyfleiadennillnerth a chynllunioargyferymuno â maes y gad mewnlleoedderaill - ynAffrica a Môr y Canoldir, ymMôryrIwerydd a maes o law ynEwrop. Yn y cyfamser, troddyrAlmaentua’rdwyrain a lansio ‘Operation Barbarossa’ ynerbynRwsiayn 1941. Nawr, roeddyrAlmaenynbrwydroarddauffrynt.
Beth fyddai wedi digwydd pe byddai’r Almaen wedi goresgyn a threchu Prydain Fawr? Goresgyn Ffrainc - Mehefin 1940 Methodd y Luftwaffe a goruchafu Prydain Oedd brwydr Prydain yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd? Gohirio Operation Sea Lion Ymosod ar Rwsia – 1941 Awyrlu Prydain ac UDA yn bomio trefi a dinasoedd yr Almaen Dydd-D (glanio yn Normandie) – Mehefin 1944
Ydy hi’n bosibl edrych ar Frwydr Prydain fel un o brif drobwyntiau’r Ail Ryfel Byd? “Nododd tair brwydr fawr ddiwedd y cyfnod amddiffynnol cyntaf i’r Cyngrheiriaid: Brwydr Prydain yn y Gorllewin, atal ymosodiad yr Almaen wrth ffiniau Moscow yn Rwsia; a Brwydr Midway yn y Môr Tawel. Ym mhob un o’r buddugoliaethau hyn, ac ar ôl cyfres o broblemau milwrol trychinebus, sicrhaodd y Cynghreiriaid fuddugoliaeth a roddodd stop ar luoedd yr Axis. Rhoddodd hynny amser iddynt gael eu gwynt atynt ac adeiladu ar eu nerth cyn mynd ati i amddiffyn. Brwydr Prydain oedd y gyntaf a gellir dadlau, mai hi oedd y bwysicaf. Pe na byddai’r RAF wedi ennill y dydd, mae’n bosibl na fyddai’r brwydrau eraill wedi digwydd o gwbl; neu, pe bydden nhw wedi digwydd, gallai’r canlyniadau fod wedi bod yn wahanol. Alfred Price, The Battle of Britain (1990)
Ydy hi’n bosibl edrych ar Frwydr Prydain fel un o brif drobwyntiau’r Ail Ryfel Byd? “Pe byddai lluoedd awyr Goering wedi llwyddo i ddinistrio amddiffynfeydd Prydain, mae’n debygol iawn y byddai Hitler wedi manteisio ar y cyfle i anfon ei fyddinoedd i oresgyn y wlad. Cyfranodd y 3,000 o beilotiaid Dowding yn aruthrol at y dasg o berswadio America y gallai Prydain oroesi, a’i bod yn werth ei chefnogi.” Len Deighton, The Battle of Britain (1980)
Ydy hi’n bosibl edrych ar Frwydr Prydain fel prif drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd? “Fe wnaeth Brwydr Prydain lawer i newid agweddau a disgwyliadau. Cafodd y frwydr ei hymladd yng ngolau dydd ac yng ngŵydd miliynau o wylwyr. Roedd sylwebaeth annogol a digyffelyb Winston Churchill yn ddylanwad ar agweddau ymhell y tu hwnt i ffiniau Prydain. Fe wnaeth y natur Dafydd a Goliath oedd i’r frwydr - yr adroddiadau a’r lluniau am fomio Llundain a dinasoedd eraill Prydain, gwroldeb peilotiaid Prydain, yn ogystal â miliynau o ddynion a merched ar y ddaear - lawer i ennyn cydymdeimlad i’n hachos ni.” Roedd hynny i gyd yn ffactor aruthrol o bwysig yn natblygiad y rhyfel yn erbyn yr Almaen.” Richard Townshend Bickers, The Battle of Britain (1990)