1 / 17

Galw a Chyflenwad Galw

Galw a Chyflenwad Galw. Cromlin galw’r farchnad. Mae’r galw am nwydd neu wasanaeth penodol yn cynrychioli faint y bydd pobl yn fodlon ei brynu am wahanol brisiau. Dangosir galw yn graffigol fel cromlin sy’n goleddu i lawr gyda phris ar yr echelin fertigol a maint ar yr echelin lorweddol.

akira
Download Presentation

Galw a Chyflenwad Galw

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Galw a ChyflenwadGalw Cromlin galw’r farchnad Mae’r galw am nwydd neu wasanaeth penodol yn cynrychioli faint y bydd pobl yn fodlon ei brynu am wahanol brisiau. Dangosir galw yn graffigol fel cromlin sy’n goleddu i lawr gyda phris ar yr echelin fertigol a maint ar yr echelin lorweddol.

  2. Yn gyffredinol mae’r berthynas rhwng pris a maint yn negyddol. Hynny yw, po uchaf yw’r pris, isaf i gyd fydd maint y galw; po isaf yw’r pris, uchaf i gyd fydd maint y galw. Cromlin galw’r farchnad

  3. Cyflenwad Mae cyflenwad y farchnad neu gyfanswm y cyflenwad yn cynrychioli’r meintiau y bydd cynhyrchwyr yn fodlon eu gwerthu dros ystod o brisiau dros unrhyw gyfnod penodol. Cyfanswm y cyflenwad yw cyfanswm y meintiau unigol o’r cynnyrch y bydd pob cynhyrchydd yn eu rhoi ar y farchnad. Cromlin cyflenwad y farchnad

  4. Cromlin cyflenwad y farchnad Yn y rhan fwyaf o achosion bydd cynnydd yn y pris yn achosi i gynhyrchwyr ddymuno cynyddu maint y cynnyrch y byddant yn ei roi ar y farchnad, felly mae’r berthynas rhwng y pris a maint y cyflenwad yn bositif.

  5. Pris Cytbwys Cydbwysedd y farchnad Os plotiwn y cromliniau galw a chyflenwad, yna lle byddan nhw’n croestorri gwelwn gydbwysedd y farchnad. Mae’r cydbwysedd hwn yn dangos pris y farchnad a maint y cyflenwad i’r farchnad.

  6. Symudiadau Cromliniau Galw a Chyflenwad Gall cromliniau galw a chyflenwad symud, hynny yw symud i’r chwith neu i’r dde. Pan fydd cromlin y galw neu gromlin y cyflenwad yn symud, yna am bob pris bydd newid yn y galw neu’r cyflenwad. Cromlin galw’r farchnad yn symud

  7. Ffactorau sy’n Symud Cromlin y Galw • Newid yn incwm real defnyddwyr. Gan fod incwm yn cyfyngu ar alw defnyddiwr am nwyddau a gwasanaethau, bydd lefelau uwch o incwm yn caniatáu i’r defnyddiwr brynu mwy o gynhyrchion. Pan fydd hynny’n digwydd bydd cromlin y galw yn symud i’r dde. Pan fydd y gwrthwyneb yn digwydd, gostyngiad mewn incwm real, bydd hynny’n symud cromlin y galw i’r chwith. Pan fydd yr economi’n mynd i mewn i enciliad a bydd mwy o bobl yn ddi-waith, bydd cromlin y galw am lawer o nwyddau a gwasanaethau yn symud i’r chwith.

  8. 2. Newid yn y boblogaeth: Bydd cynnydd yn y boblogaeth yn symud cromlin y galw i’r dde. • 3. Dewisiadau defnyddwyr: Os bydd dewisiadau defnyddwyr yn newid o blaid nwydd arbennig, bydd cromlin y galw am y nwydd hwnnw’n symud i’r dde.

  9. 4. Prisiau nwyddau cysylltiedig: Os bydd prisiau nwyddau cysylltiedig yn newid, gall cromlin y galw am y nwydd gwreiddiol newid hefyd. Gall nwyddau cysylltiedig fod naill ai’n amnewidion neu’n gyfategolion. • Amnewidyn yw nwydd sy’n gallu cael ei dreulio yn lle un arall. Os bydd pris yr amnewidyn yn codi, bydd cromlin y galw am y nwydd gwreiddiol yn symud i’r dde. • Cyfategolion yw nwyddau sy’n cael eu treulio gyda’i gilydd fel arfer. Os bydd pris cyfategolyn yn cynyddu, bydd cromlin y galw am y nwydd gwreiddiol yn symud i’r chwith. Os bydd pris cyfategolyn yn gostwng, bydd cromlin y galw am y nwydd gwreiddiol yn symud i’r dde. Er enghraifft, os bydd pris cyfrifiaduron yn gostwng, bydd cromlin y galw am feddalwedd gyfrifiadurol yn symud i’r dde.

  10. Ffactorau sy’n Symud Cromlin y Cyflenwad • Newid yng nghostau mewnbwn: Bydd cynnydd yng nghostau mewnbwn yn symud cromlin y cyflenwad i’r chwith. Bydd cyflenwr yn cyfuno defnyddiau crai, cyfalaf a llafur i gynhyrchu’r cynnyrch. Os bydd gwneuthurwr dodrefn yn gorfod talu mwy am bren, yna, â phopeth arall yn gyfartal, bydd elw’n gostwng. Oherwydd bod y cyfleoedd elw yn llai atyniadol bydd y cynhyrchydd yn gostwng y cynnyrch. Enghraifft arall yw gwneuthurwr ceir yn gorfod talu costau llafur uwch. Â phopeth arall yn gyfartal, bydd y costau llafur uwch yn lleihau elw. Am bris penodol am gar, efallai y bydd y gwneuthurwr yn gostwng y cynnyrch, gan symud cromlin y cyflenwad i’r chwith. Os bydd costau mewnbwn yn lleihau, bydd cwmnïau’n ymateb drwy gynyddu’r cynnyrch. Efallai y bydd y gwneuthurwr dodrefn yn cynyddu’r cynnyrch os bydd costau pren yn gostwng.

  11. 2. Newid ym maint y diwydiant: Os bydd maint diwydiant yn cynyddu, bydd cromlin y cyflenwad yn symud i’r chwith. Wrth i fwy o gwmnïau fynd i mewn i ddiwydiant penodol, bydd y cynnyrch yn cynyddu hyd yn oed â’r pris heb newid. Er enghraifft, cynyddodd y diwydiant bwydydd cyflym yn aruthrol yn ail hanner yr ugeinfed ganrif wrth i fwy a mwy o gadwyni bwydydd cyflym fynd i mewn i’r farchnad. Wrth i faint diwydiant grebachu bydd cromlin y cyflenwad yn symud i’r chwith. Er enghraifft, gostyngodd cyflenwad teipiaduron llaw yn ddramatig yn yr 1990au wrth i nifer y cynyrchwyr leihau.

  12. 3. Cynnydd mewn technoleg: Bydd cynnydd mewn technoleg yn symud cromlin y cyflenwad i’r dde. Bydd cynnydd technolegol yn caniatáu i gwmnïau gynhyrchu eitem benodol am gost is. Mae prisiau cyfrifiaduron, er enghraifft, wedi gostwng yn sylweddol wrth i dechnoleg wella, gan ostwng eu costau cynhyrchu. Mae gwelliannau yn nhechnoleg cyfathrebu wedi gostwng costau telathrebu dros amser. Gyda datblygiad technoleg, bydd cromlin cyflenwad nwyddau a gwasanaethau yn symud i’r dde.

  13. Cromlin y cyflenwad yn symud Pan fydd galw neu gyflenwad yn newid, bydd y pris cytbwys yn newid. Er enghraifft, fel arfer bydd tywydd gwael yn gostwng cyflenwad ffrwythau. Gyda chromlin y cyflenwad yn symud i’r chwith, bydd symudiad ar hyd cromlin y galw i bris cytbwys newydd. Bydd defnyddwyr yn prynu llai oherwydd y pris uwch. Gellir dangos hyn ar ffurf graff fel y gwelwch yma: £30 £20

  14. Bydd symudiad cromlin y cyflenwad i’r chwith, er enghraifft o ganlyniad i gynnydd mewn costau neu gynhaeaf gwael, yn arwain at bris cytbwys newydd ar lefel uwch nag o’r blaen a chynnyrch cytbwys newydd ar lefel is nag o’r blaen.

  15. Pe bai cromlin y galw yn symud i’r dde oherwydd cynnydd mewn incwm real, byddai cydbwysedd newydd y farchnad ar bris uwch a lefel cynnyrch uwch na’r cydbwysedd blaenorol.

  16. Galw: Symudiad Cromlin neu Symudiad ar hyd Cromlin Mae’n hanfodol gwahaniaethu rhwng symudiad ar hyd cromlin alw a symudiad cromlin alw. Bydd newid yn y pris yn achosi symudiad ar hyd cromlin alw benodol. Gelwir hyn yn newid ym maint y galw. Er enghraifft, efallai y bydd codiad ym mris rhentu fideos o £3 i £4 yn gostwng maint y galw o 30 uned i 20 uned. Mae’r newid hwn yn y pris yn arwain at symudiad ar hyd cromlin alw benodol. Bydd newid mewn unrhyw newidyn arall sy’n dylanwadu ar alw yn achosi i gromlin y galw symud. Bydd symudiad cromlin y galw yn newid y safle cytbwys.

  17. Cyflenwad: Symudiad Cromlin neu Symudiad ar hyd Cromlin Yn yr un modd ag yn achos cromliniau galw, mae’n hanfodol gwahaniaethu rhwng symudiad ar hyd cromlin gyflenwad benodol a symudiad cromlin gyflenwad. Bydd newid yn y pris yn achosi symudiad ar hyd cromlin gyflenwad benodol. Gelwir hyn yn newid ym maint y cyflenwad. Er enghraifft, pe bai pris rhentu fideos yn codi o £3 i £4, byddai maint y cyflenwad yn cynyddu o 30 i 40 uned. Bydd newid mewn unrhyw newidyn arall sy’n dylanwadu ar gyflenwad yn achosi i gromlin y cyflenwad symud.

More Related