400 likes | 613 Views
Prawf Galw a Chyflenwad. Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o theori galw a chyflenwad Mae’r cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau. Bydd angen cyfrifiannell arnoch i gwblhau’r prawf hwn. Cwestiwn 1.
E N D
Prawf Galw a Chyflenwad Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o theori galw a chyflenwad Mae’r cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau. Bydd angen cyfrifiannell arnoch i gwblhau’r prawf hwn.
Cwestiwn 1. Yn ôl deddf sylfaenol galw a. po isaf yw’r pris, uchaf i gyd yw maint y cyflenwad b. po isaf yw’r pris, isaf i gyd yw maint y galw c. po isaf yw’r pris, uchaf i gyd yw maint y galw
Cwestiwn 2. Mae ymgyrch hybu lwyddiannus sy’n ceisio cynyddu teyrngarwch i frand yn debygol o : A. wneud elastigedd pris y cyflenwad yn fwy elastig B. wneud elastigedd pris y galw yn fwy anelastig C. wneud elastigedd pris y galw yn fwy elastig
Cwestiwn 3. Pa un o’r canlynol sy’n debygol o gynyddu cyflenwad heb gynnydd yn y pris? A. Ymgyrch farchnata enfawr B. Datblygiadau technolegol C. Incwm real uwch defnyddwyr
Cwestiwn 4. Pa un o’r canlynol sydd yn lefel elastig o elastigedd pris galw? A. 0.56 B. 1.0 C. 2.4
Cwestiwn 5. Pa un o’r canlynol sy’n debygol o gynyddu lefelau’r galw? • Gostyngiad ym mhris amnewidyn B. Gostyngiad ym mhris cyfategolyn
Cwestiwn 6. Bydd gostyngiad ym mhris nwydd sydd ag elastigedd pris galw o 2.2 yn A. cynyddu’r derbyniadau B. gadael y derbyniadau heb newid C. gostwng y derbyniadau
Cwestiwn 7. Bydd cynnydd mewn incwm real yn arwain at A. gynnydd llai na chyfrannol yn y galw am nwyddau sylfaenol. B. gynnydd mwy na chyfrannol yn y galw am nwyddau moeth. 1. Y ddau 2. A yn unig
Cwestiwn 8. Pa rai o’r canlynol sy’n fathau o gynnyrch sy’n debygol o fod ag Epg anelastig? A. Petrol B. Papur toiled C. Dŵr 1. A a B 2. B ac C 3. Pob un o’r uchod.
Cwestiwn 9. Mae cwmni sydd â phris ei gynnyrch yn 10c yn codi’r pris i 12c, Epg yw 0.5. Beth fydd y newid ym maint y galw? • Cynyddu 20% • Gostwng 20% C. Gostwng 10%
Cwestiwn 10. Mae cwmni’n codi pris ei gynnyrch o 20c i 22c, mae’r derbyniadau’n gostwng o £40,000 i £32,000. Epg yw A. 0.1 B. 4 C. 2