260 likes | 471 Views
Mynd i'r Afael ag Amddifadedd Addressing Deprivation. Hydref 2013 Autumn Term 2013. Amcanion Briffio. Datblygu ein dealltwriaeth o'r cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer lleihau effaith tlodi ar ddeilliannau dysgwyr;
E N D
Mynd i'r Afael ag Amddifadedd Addressing Deprivation Hydref 2013 Autumn Term 2013
Amcanion Briffio • Datblygu ein dealltwriaeth o'r cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol ar gyfer lleihau effaith tlodi ar ddeilliannau dysgwyr; • Deall y sefyllfa gyfredol o ran cyrhaeddiad dysgwr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim (FSM) a'r rhai nad oes ganddynt hawl i brydau ysgol am ddim, a'r bylchau rhyngddynt ar draws ERW; • Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am allbynnu cyfredol a cynllunedig Grŵp Mynd i'r Afael ag Amddifadedd y rhanbarth; • Cyfle i fyfyrio ar sut y pennir nodir materion perfformiad posib, sut y cynllunnir ar eu cyfer a sut cânt eu gwerthuso mewn ysgolion. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg o Becyn Cymorth Sutton a defnyddio ymagweddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth at wella ysgolion.
Cyd-destun ERW • Cyflwynwyd deilliannau a chanlyniadau defnyddio dyraniad Grant Amddifadedd Disgyblion (PDG) y rhanbarth ar gyfer 2013-14 (PDG £8.75M*) i Lywodraeth Cymru, a’r rhain yw sail gwaith grŵp y rhanbarth i fynd i'r afael ag amddifadedd. • Mae cyflwyniad y rhanbarth i Lywodraeth Cymru yn amlinellu'r cynnig i… “Barhau i leihau'r bwlch rhwng cyrhaeddiad dysgwyr FSM a dysgwyr eraill, gydag pherfformiad cyffredinol ar draws ERW yn parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Cymru.” • Ffurfiodd y rhanbarth Grŵp Mynd i’r Afael ag Amddifadedd ym mis Mawrth 2013, ceir mwy o fanylion am ganlyniadau’r grŵp yn nes ymlaen yn y cyflwyniad. • Cynhaliodd y rhanbarth gynhadledd 'Mynd i'r Afael ag Amddifadedd' ym mis Gorffennaf 2013, a oedd yn cynnwys mewnbwn gan Lywodraeth Cymru, Estyn, ac ymarferwyr rhanbarthol a chenedlaethol.
Y Cyd-destun Cenedlaethol • ‘Rhyddid Rhag Tlodi’ yw Nod Craidd 7 Llywodraeth Cymru, ac amlinellir cyfrifoldebau cyrff cyhoeddus yn Mynd i'r afael â Thlodi Plant: Canllawiau a Rheoliadau i Awdurdodau Cymreig. • Mae Mynd i'r afael â Thlodi wrth wraidd Polisïau a Strategaethau Llywodraeth Cymru. • Mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru (Chwefror 2011) yn defnyddio'r ganran o ddisgyblion sy'n cyflawni trothwy Lefel 2 Cynhwysol i fesur cynnydd yn erbyn amcanion y strategaeth. • Mae’r ddogfen Grant Effeithiolrwydd Ysgolion a Grant Amddifadedd Disgyblion 2013-5 yn amlinellu'r achos ar gyfer gwella deilliannau addysgol i ddysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim (disgyblion FSM).
Deilliannau Dysgwyr Ar Draws Cymru Ar y cyfan nid yw cynnydd dysgwyr â hawl i FSM yn cymharu'n dda â'u cyfoedion; Er bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad dysgwr â hawl i FSM a'u cyfoedion wedi lleihau ychydig mewn ysgolion cynradd, mae wedi cynyddu mewn ysgolion uwchradd ers 2008; ac mae'r twf hwn yn y bwlch mewn cyrhaeddiad yn amlygu'r angen i gymryd camau gweithredu wedi’u targedu. Mae rhai tueddiadau pwysig yn sail i’r mesurau cenedlaethol: Mewn ysgolion cynradd, mae Cymraeg/Saesneg yn wannach na Mathemateg ac o fewn Cymraeg/Saesneg mae ysgrifennu yn wannach na darllen a llafaredd, yn enwedig ymhlith bechgyn. Mewn ysgolion uwchradd, mae Mathemateg yn wannach na Chymraeg/Saesneg:
Deilliannau Dysgwyr Ar Draws Cymru • Mae perfformiad disgyblion sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yn waeth na'u cyfoedion ym mhob cyfnod allweddol ac ym mhob mesur perfformiad; • Mae'r bwlch mewn perfformiad wedi lleihau dros y chwe blynedd ddiwethaf yn CA2 a CA3. Fodd bynnag, yn CA4 mae'r bwlch ar L2 Cynhwysol wedi cynyddu bob blwyddyn hyd at 2010, cyn lleihau dros y ddwy flynedd ddiwethaf; ac • Mae'r bwlch mewn perfformiad yn cynyddu wrth i ddisgyblion dyfu'n hŷn. • Y bylchau mewn cyrhaeddiad yng Nghymru yn 2011-12 oedd: DPC CA2 = 20% DPC CA3 = 30% L2 Cynhwysol CA4 = 33%
Y bwlch economaidd-gymdeithasol mewn sgiliau darllen plant: Cymhariaeth traws-genedlaethol gan ddefnyddio PISA 2009.
Cyrhaeddiad dysgwr FSM o fewn ERWar L2 Cynhwysol yn 2012 Dysgwr nad oesganddynt hawl ibrydau ysgol am ddim Dysgwyr FSM
Darlun o’r Bwlch mewn Cyrhaeddiad rhanbartholL2 Cynhwysol CA4
ERW 2012Crynodeb o Fwlch Perfformiad a ChyrhaeddiadL2 Cynhwysol
Beth mae'r bwlch yn ei olygu o ran dysgu? Erbyn 3 oed mae tlodi yn gwneud gwahaniaeth sydd gyfwerth â 9 mis o ddatblygiad o ran parodrwydd i fynd i'r ysgol Mae mwy nag 1 o bob 10 plentyn heb yr offer i elwa o addysg cyn iddynt ddechrau mynd i'r ysgol Mae oedran darllen <9 oed yn atal gallu defnyddio'r cwricwlwm uwchradd Mae'r bwlch mewn perfformiad yn cynyddu ym mhob cyfnod o addysg orfodol Mae ‘colli’ dysgu dros yr haf yn effeithio’n fwy ar y disgyblion hyn
Beth mae'r bwlch yn ei olygu o ran dysgu? Gall disgyblion deimlo llai o hunanwerth a hyder na'u cyfoedion cyfoethocach Mae’n bosib na fydd gan ddisgyblion y sgiliau angenrheidiol i allu cymryd rhan yn llawn wrth wneud penderfyniadau Efallai na fydd disgyblion yn cael digon o faeth Mae disgyblion yn fwy tebygol o fod yn absennol neu gael eu gwahardd o'r ysgol Mae’n bosib bod gan ddisgyblion rieni sy’n llai tebygol o allu cefnogi eu dysgu - yn yr ysgol a'r tu allan iddi
Yn yr ystafell ddosbarth mae'r 30% o blant sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o: fod heb bennau, pensiliau a chas pensiliau beidio â chael gwisg ysgol, dillad ymarfer corff bag ysgol etc., neu maent yn anghyflawn beidio â chael eu cynnwys ym mhartïon pen-blwydd eu cyfoedion cael problemau wrth gymryd rhan mewn dysgu y tu allan i oriau ysgol/gweithgareddau cyfoethogi cael llawer llai o brofiadau cyfoethogi yn ystod y gwyliau, ac mae hyn yn effeithio arnynt cael anhawster o ran gwibdeithiau ysgol am lawer o resymau meddu ar lai o gyfalaf cymdeithasol cael problemau cyffredinol gyda bwyd, iechyd a chyflwyniad personol
Cymorth Rhanbarthol i Ysgolion Mae Grŵp Mynd i'r Afael ag Amddifadedd y rhanbarth yn canolbwyntio ar ddatblygu pecyn cymorth i ysgolion a fydd yn cynnwys: • Nodi a phroffilio ysgolion ERW ym mhob grŵp FSM y mae eu data yn profi bod deilliannau dysgwyr FSM wedi gwella; • Offeryn i gefnogi rhagamcanu problemau perfformiad posib â dysgwyr FSM, sy’n caniatáu i ysgolion fesur cynnydd y grŵp hwn o ddysgwyr yn wrthrychol; • Offer meincnodi sy'n caniatáu i ysgolion roi cyd-destun i berfformiad dysgwr FSM yn eu hysgolion; • Cyflwyniad i Becyn Cymorth Sutton a sut y gellir ei ddefnyddio i gynllunio ymyriadau sy'n targedu; • Cronfa o'r ymchwil a'r llenyddiaeth ddiweddaraf ym maes mynd i'r afael ag amddifadedd.
Strategaethau ar gyferMynd i'r Afael â'r Bwlch mewn Cyrhaeddiad Tasg: Trafodwch y strategaethau a nodwyd a'u rhoi mewn trefn o ran effeithiolrwydd posib o’ch profiad chi.
Beth sy'n helpu i gau'r bwlch? Addysgu o safon Haenau o ddarpariaeth Gweithio'r tu hwnt i'r ystafell ddosbarth (gan gynnwys gweithio gyda theuluoedd) Mynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, emosiynol a lles Her fawr (straen isel) Darpariaeth grwpiau bach ychwanegol wedi'i gynllunio Cynyddu ymyriadau personoledig
Beth sy'n helpu i gau'r bwlch? • Adborth effeithiol • Strategaethau metawybyddiaeth a hunanreoli • Tiwtora cyfoedion/dysgu â chymorth cyfoedion • Tiwtora un i un • Cefnogaeth effeithiol ar gyfer astudio/gwaith cartref • TGCh sy'n hyrwyddo meddwl yn greadigol • Rhaglenni Ar Ôl Ysgol/Cyfoethogi Effeithiol • Gweithio gyda rhieni • Rhaglenni dysgu’r haf • Gwella cadernid emosiynol/lles • Ymyrryd yn gynnar (Ymddiriedolaeth Sutton 2011/12 )
Pecyn Cymorth Sutton Amlinellir gofyniad yn nogfen ganllaw PDG i ddatblygu ymagweddau ar sail tystiolaeth i dargedu cefnogi dysgwyr, a bydd pecyn cymorth y rhanbarth yn amlinellu sut y gellir defnyddio Pecyn Cymorth Sutton. Yn y bôn, gallai ysgolion rhagamcanu problemau perfformiad posib, nodi ffactorau cyfrannol a chyfeirio at y pecyn cymorth ar gyfer yr ymyriadau sydd wedi bod fwyaf effeithiol a/neu wedi darparu'r gwerth gorau am arian.
Defnyddio ymagwedd Ymddiriedolaeth Sutton i gefnogi a mesur effaith ymyriadau sy'n targedu (CWESTIYNAU I ARWEINWYR YSGOLION I GEFNOGI GWERTHUSO/MONITRO PDG AR SAIL PECYN CYMORTH SUTTON/CANLLAW GWERTHUSO DIY Y SEFYDLIAD GWADDOLION ADDYSG) CWESTIYNAU CYFFREDINOL • BETH OEDD YR YSGOL AM EI GYFLAWNI GYDA'I ARIAN PDG? • SUT MAE'N BERTHNASOL I FLAENORIAETHAU'R YSGOL? • SUT YDYCH CHI'N MYND I GYRRAEDD YNO? • SUT FYDDWCH CHI'N GWYBOD EI FOD WEDI GWEITHIO?
Defnyddio ymagwedd Ymddiriedolaeth Sutton i gefnogi a mesur effaith ymyriadau sy'n targedu CWESTIYNAU MANWL A) PARATOI: • BETH YDYCH CHI'N CEISIO'I GYFLAWNI DRWY’R PDG? • PA YMYRIADAU MAE'R YSGOL YN EU RHOI MEWN LLE? • SUT BYDD YN EFFEITHIO’N BENODOL AR DDISGYBLION FSM? • SUT BYDD YN CAU'R BWLCH RHWNG DISGYBLION FSM A DISGYBLION ERAILL WRTH I'R YSGOL BARHAU I GYNNAL GWELLIANNAU AR GYFER Y DDAU GRŴP?
CWESTIYNAU MANWL • PARATOI: 5. SUT BYDDWCH YN MESUR UNRHYW WELLIANNAU A WNEIR DRWY DDEFNYDDIO PDG? 6. SUT BYDDWCH CHI'N GWYBOD BOD YMYRIADAU PDG A RODDWYD AR WAITH WEDI YCHWANEGU GWERTH AT DDISGYBLION FSM? 7. SUT BYDDWCH CHI'N MESUR Y GOSTYNGIAD YN Y BWLCH CYRHAEDDIAD/BWLCH CYFLAWNIAD RHWNG DISGYBLION FSM A DISGYBLION ERAILL WRTH GYNNAL GWELLIANNAU YN Y DDAU GRŴP?
CWESTIYNAU MANWL B) GWEITHREDU: • YN ERBYN BETH Y CAIFF EFFAITH YR YMYRIAD EI FESUR? (EICH MESUR GWAELODLIN?) • SUT BYDDWCH CHI'N CYFLAWNI'R YMYRIAD? • SUT BYDDWCH CHI’N COFNODI’R MODD RYDYCH YN BWRIADU DARPARU'CH YMYRIAD? • SUT BYDDWCH CHI’N COFNODI BETH SY'N DIGWYDD DRWY GYDOL YR YMYRIAD? • PRYD A SUT CAIFF EFFAITH YR YMYRIAD EI MESUR?
CWESTIYNAU MANWL C) DADANSODDI AC ADRODD: • SUT BYDD CANLYNIADAU’N COFNODI EFFAITH YR YMYRIAD? • SUT BYDD YN DANGOS Y GWERTH YCHWANEGOL I DDISGYBLION FSM? • PWY FYDD YN GWYBOD AM EFFAITH YMYRIADAU A ARIANNWYD GAN PDG? • SUT CAIFF Y CANLYNIADAU EU RHANNU?
Ac yn olaf… Roedd dwy erthygl y mhapur newydd The Independent ar ddechrau mis Medi ar ‘ddeilliannau dysgwyr’ (mae copïau yn eich pecyn) - • Nododd y cyntaf fod 25% o ddysgwyr bellach yn derbyn tiwtora preifat; a • Nododd yr ail bod y lefel uchaf o dangyflawni ymhlith bechgyn sy’n derbyn FSM. Ar gyfer ystyriaeth a thrafodaeth bellach… • Pa ddysgwr sydd fwyaf tebygol o dderbyn tiwtora preifat? Pa ddysgwr sydd lleiaf tebygol? • O ystyried yr hyn a wyddwn am y 'bwlch rhyw' mewn perfformiad, i ba raddau y gellir priodoli tangyflawniad disgyblion FSM i fechgyn yn hytrach na holl ddysgwyr FSM? • Ai dyma'r achos yn eich ysgol chi?