110 likes | 264 Views
LLAIS. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Tasg 1. Ystwytho’r llais. Sefwch yn y gofod, yn gefnsyth . Tynnwch anadl ddofn i mewn ac wedyn anadlu allan mor araf ag y gallwch, gan gyfrif yn uchel drwy’r amser.
E N D
LLAIS At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1
Tasg 1 Ystwytho’r llais • Sefwchyn y gofod, yn gefnsyth. • Tynnwch anadl ddofn i mewn ac wedyn anadlu allan mor araf ag y gallwch, gan gyfrif yn uchel drwy’r amser. • Pa mor bell aethoch chi cyn gorfod anadlu i mewn eto? • Ar beth rydych chi’n sylwi am eich ansawdd lleisiol wrth ichi fynd yn brin o anadl?
Sefwch mewn cylch. • Ailadroddwch yr hyn a ddywedwch chi, fesul llinell, fel dosbarth. • Wedi cyrraedd diwedd yr ymadrodd, amrywiwch y ffordd rydych yn ei ddweud, e.e. cyflym, araf, uchel, distaw ac ati. Bŵm Bŵm Siaca Bŵm SiacaSiaca Bŵm SiacaSiacaSiacaSiacaSiaca bŵm A ha O ie Unwaith eto
Tasg 2 Taflu’r llais • Ffurfiwch barau a wynebu eich gilydd ar draws yr ystafell. • Cymerwch linellau o’u perfformiadau a’u gweiddi at eich gilydd gan wneud yn siŵr eich bod yn cadw ystyr y llinellau. • Wedyn dechreuwch dawelu eich llais a symud tuag at eich gilydd nes eich bod yn sefyll wyneb yn wyneb.
Tasg 3 Acenion • Ymarferwch ran o’ch drama. Ymarferwch fel arfer ond ond ar ôl ychydig o funudau ymarferwchmewn acen wahanol, e.e. Patagonia. • Ymarferwch am funud neu ddwy, wedyn newidiwch yr acen, e.e. acen wyddelig. • Gwnewch hyn sawl gwaith er mwyn arbrofi gydag amrywiaeth o acenion.
Tasg 4 Tôn • Ffurfiwchgrwpiau o 2 neu 3. • Bydd yn cael sefyllfa, e.e. mae A yn gyrru ac mae’r heddlu’n ei stopio am dorri’r gyfraith. • Ond mae un amod – dim ond rhifau y cewch eu defnyddio i gyfathrebu. • Rhaid ichi siarad mewn rhifau olynol, faint bynnag rydych chi’nteimlo sydd ei angen, ond wedi cyrraedd 20, rhaid mynd yn ôl i 1. • E.e., gallai A ddweud “12345”, a bydd B yn ateb “67”, ac A wedyn yn dweud “891011”, ac ati. Rhaid ichi ganolbwyntio ar ddefnyddio tôn i gyfleu’r ystyr yn hytrach na geiriau.
Tasg 5 Cyflymder y testun • Ar eich sgriptiau, rhowch gylch am bob atalnod. • Wedi gwneud hyn, dylech ddarllen yr olygfa gan gerdded o gwmpas yr ystafell, ond bob tro y ceir atalnod o unrhyw fath, dylech newid cyfeiriad a newid cryfder eich llais.
Tasg 6 Drama Radio Yn eich grŵp, paratowch ddrama radio o ran o’ch perfformiad, gan ganolbwyntio ar eich llais. Ni fydd angen dim symud ar gyfer y dasg hon.
Tasg 7 Pasio’r emosiwn • Sefwch mewn cylch. • Bydd yr athro/athrawes yn enwi emosiwn gan ddefnyddio llais i’w gyfleu. • Wedyn byddwch yn pasio’r emosiwn o amgylch y cylch a rhaid ichi ddefnyddio eich llais i’w gyfleu. • Y nod yw ceisio canfod cymaint o wahanol ffyrdd ag y gallwch i gyfleu un emosiwn drwy ddefnyddio’r llais.
Tasg 8 Lleoli Cynulleidfa • Ymarferwch gyda gwahanol arddulliau llwyfannu. • Canolbwyntiwch ar gyflwyniad lleisiol a pha newidiadau y mae angen eu gwneud i’ch llais er mwyn sicrhau y gall y gynulleidfa eich clywed.