60 likes | 268 Views
MAE ENW IESU GRIST I MI Mor fwyn a llais o'r nef, Mae'n gwneud i'm henaid roddi llam - Ei hyfryd enw Ef. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a'm Duw; Enw sy'n gwneud i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist. Mae'n sôn am gariad Un a ddaeth I farw i'm rhyddhau,
E N D
MAE ENW IESU GRIST I MI Mor fwyn a llais o'r nef, Mae'n gwneud i'm henaid roddi llam - Ei hyfryd enw Ef. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a'm Duw; Enw sy'n gwneud i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist.
Mae'n sôn am gariad Un a ddaeth I farw i'm rhyddhau, Mae'n dweud am werthfawr waed y groes, Yn hwn caf lawenhau. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a'm Duw; Enw sy'n gwneud i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist
Mae'r Enw hwn yn sôn am Un A gydymdeimla'n driw, Sy'n gwybod am fy mlinder dwfn Yn well na neb a glyw. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a'm Duw; Enw sy'n gwneud i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist.
Iesu yw'r Enw a garaf i, Yr Un sy'n fêl i'm clyw, Nid oes ar ddaear faith i gyd All ddweud gwerth cymaint yw. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a'm Duw; Enw sy'n gwneud i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist.
Mae'r Enw hwn fel ennaint drud Ar lwybrau garw gwyw, A Hwn fydd yno gyda mi Wrth ddringo at fy Nuw. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a'm Duw; Enw sy'n gwneud i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist.
Ac yno, gyda'r oll a ddaeth, Drwy'r gwaed, yn rhydd o boen, Caf ganu eto newydd gân I Enw Iesu'r Oen. O! Enw'r Iesu, hyfryd yw; Enw fy Mhrynwr i a'm Duw; Enw sy'n gwneud i'm lawenhau Yw hyfryd enw Crist. F. Whitfield cyf. Peter R Hallam Hawlfraint c 1946 Salvationist Publishing & Supplies. Gweinyddir gan CopyCare.