100 likes | 299 Views
Symud. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Tasg 1. Cyflymder symud. Dewiswch un o’ch golygfeydd lle mae’r mwyaf o symud. Y marferwch heb fawr ddim symud gan neb o’r actorion ac eithrio un a fydd yn symud o gwmpas.
E N D
Symud • At ddefnydd TGAU • Celfyddydau Perfformio • CBAC • Uned 1 ac Uned 3 • Tasg 1
Tasg 1 Cyflymder symud • Dewiswch un o’ch golygfeydd lle mae’r mwyaf o symud. • Ymarferwch heb fawr ddim symud gan neb o’r actorion ac eithrio un a fydd yn symud o gwmpas. • Ymarferwch yr olygfa gyda gwahanol bobl yn symud ac yn aros yn llonydd. • Penderfynwch ar gyflymder yr olygfa a faint o symud y dylai pob cymeriad ei wneud.
Tasg 2 Geiriau allweddol Grwpiau o 4. • Senario tŷ bwyta • Mae gan bob unigolyn brop o fewn yn yr olygfa a gair perthnasol i’r olygfa, e.e. gallai un dysgwr gael bwydlen, gallai un gael dŵr, ac ati. • Dechreuwch berfformio’n fyrfyfyr ond dim ond pan fyddwch chi neu gymeriad arall yn dweud eich gair allweddol y cewch chi ddod i mewn neu fynd allan. • Nod y dasg yw canfod rheswm i ddod i mewn neu fynd allan o’r olygfa fel bod cyfiawnhad dros eich symudiad.
Tasg 3 Golygfa mainc parc • Byddeichathro/athrawesyngosoddwy gadair yng nghanol y llwyfan fel mainc parc. • Byddeich hanner chi’n cael rhif ac yn sefyll mewn rhes yn barod i ddod ar y llwyfan. Yr hanner arall fydd y gynulleidfa. • Bydd gan bob un ohonoch chi reswm dros ddod i mewn i’r olygfa, e.e. aros i gyfarfod â hen ffrind sy’n hwyr yn cyrraedd.
Tasg 4 Gorwneud Mewn grwpiau, ymarferwch eich golygfa, ond gan fynd dros ben llestri a gorwneud y symudiadau a’r emosiynau fel eu bod yn hollol eglur.
Tasg 5 Newid Symudiad • Symudwch o gwmpas y gofod yn niwtral. • Wrth newid lleoliad, mae angen ichi newid eich symudiadau i awgrymu’r lleoliad. Dyma enghreifftiau o leoliadau: torf fawr o bobl, yr Arctig mewn storm eira, y jyngl, lôn gefn dywyll a bygythiol liw nos. • Nawr rhowch gynnig ar wahanol gyflymderau, mynd i wahanol gyfeiriadau a gydag ystumiau corff gwahanol.
Tasg 6 Emosiynau • Gweithiwch gyda phartner. • Bydd un partner yn cerdded o gwmpas y lle ond yn gorfod cyfleu emosiwn drwy ei symudiadau. • Rhaid i’r partner arall geisiodyfalu pa dymer neu emosiwn sy’n cael ei gyfleu yn ôl y ffordd y mae’n symud.
Tasg 7 Osgo • Yn unigol, dewiswch olygfeydd allweddol i’ch cymeriad o’ch drama. • Dewiswch 3 phwynt allweddol yn y stori ac arbrofwch gyda newid osgo’r cymeriad ar y pwyntiau hynny.
Tasg 8 Cyfathrebu dieiriau • Dewiswch olygfa bwysig o safbwynt symud. • Ymarferwch yr olygfa’n fud, gan ganolbwyntio ar symud ac ystumiau i gyfleu ystyr.