200 likes | 360 Views
Gosod Ffiniau. Gweithgaredd ar gyfer grwpiau bach. Dychmygwch………. Polisi Ymddygiad yr Ysgol. Yn yr un grwpiau – 5/10 munud Trafodwch bolisi ymddygiad eich ysgol Beth sy’n gweithio? Beth sy’ ddim yn gweithio? Beth hoffech chi ei newid?. Yr Ysgol a’r Ystafell Ddosbarth.
E N D
Gweithgaredd ar gyfer grwpiau bach • Dychmygwch……….
Polisi Ymddygiad yr Ysgol Yn yr un grwpiau – 5/10 munud • Trafodwch bolisi ymddygiad eich ysgol • Beth sy’n gweithio? • Beth sy’ ddim yn gweithio? • Beth hoffech chi ei newid?
Yr Ysgol a’r Ystafell Ddosbarth I greu polisïau ymddygiad sy’n deg ac yn effeithiol mae angen ystyried: A chysondeb rhwng yr ystafelloedd dosbarth unigol ac ar draws yr ysgol
1. Rheolau • Diogelwch • Dibynadwyedd
Mae’r rheolau mwyaf effeithiol: • yn glir ac yn gadarnhaol • yn rhai y gellir eu haddysgu • yn hawdd cyfeirio atyn nhw ac yn hawdd eu cryfhau • yn cael eu cymhwyso bob amser • i’w gweld yn yr ystafell ddosbarth • yn fach o ran nifer
2. Arferion Dyma rai arferion gwael: • Cyrraedd yr ystafell ddosbarth yn llawn ffwdan. • Prinder cyfarpar sylfaenol. • Oedi wrth ymateb i arwydd yr athro i dalu sylw. • Newid o un gweithgaredd i’r llall. • Busnesa yng ngwaith pobl eraill ar ôl gorffen tasg yn fuan. • Gadael y lle yn flêr ar ôl gweithgaredd.
3. Hawliau Mae gan ddisgyblion ac athrawon hawliau yn yr ystafell ddosbarth. Mae gan ddisgyblion yr hawliau canlynol: ►Bod yn ddiogel ►Teimlo’n ddiogel ►Cael eu gwerthfawrogi ►Cael eu parchu ►Dysgu
4. Cyfrifoldebau Pa gyfrifoldebau sydd gan eich disgyblion? Gallai’r rhain gynnwys: • Trin plant eraill yn garedig. • Talu sylw, gwrando a chymryd rhan mewn gwersi. • Dysgu fod gan blant eraill syniadau gwahanol a sgiliau gwahanol a pheidio â gwneud hwyl am eu pennau oherwydd hynny.
5. Gwobrau • Beth sy’n ysgogi’ch disgyblion? • Mae hyn yn gysylltiedig â chymhelliant (Pennod 5 yn Rob Long) sef “a state of readiness or eagerness to change, which may fluctuate from one time or situation ot another. This state is one that can be influenced” (Miller a Rollnick, 1991). • Pwyntiau i’w cofio: • Does dim cymhelliant gan bob disgybl • Mae angen gwobrau anghynhenid ar rai disgyblion • Mae angen gwobrau amlwg ar rai disgyblion • Mae cymhelliant yn dibynnu ar y sefyllfa
Gwobrausy’n cael eu rhoi’n syth, sy’n gysonac yn deg Yn y dosbarth, • byddwch yn effro i’w ‘dal nhw’n bod yn dda’ • byddwch yn barod i ganmol am ymdrechu ac ymroi • byddwch yn brydlon wrth roi cydnabyddiaeth i’r rheini sy’n ymateb i reolau ac arferion y dosbarth • byddwch yn gyflym i ddiolch i unigolion, grwpiau a’r dosbarth cyfan • trefnwch strwythur gwobrwyo
Gwobrau i’r dosbarth cyfan • Marblis mewn jar • Peli mewn gôl • Tics ar ddarn o bapur gyda gwobrau da
Cosbau Os oes rhaid cosbi, mae’n bwysig fod yn cosbau: • yn glir ac yn ddealladwy i bawb (disgyblion, athrawon, rhieni a gofalwyr) • yn cael eu defnyddio’n deg a gyda chysondeb • yn cael eu derbyn fel yr ymateb rhesymol i ymddygiad penodol • yn gymesur â’r camymddwyn neu’r methiant i gydymffurfio • yn dryloyw ac yn gronnus
Trefnu i LwyddoTrefnu’r Ystafell Ddosbarth • Lle • Golau’r ystafell ddosbarth • Tymheredd • Y defnydd o liwiau • Lefelau sain neu sŵn (gweler Rob Long, tt.82 – 84)
Gair pellach am baratoi a chynllunio gwersi: Un ffordd o wneud yn siŵr fod ymddygiad annerbyniol yn cael ei gadw i’r lleiafswm yw cynllunio a pharatoi gwersi’n dda :