50 likes | 191 Views
AT DDEFNYDD TGAU CELFYDDYDAU PERFFORMIO CBAC, UNED 1 AC UNED 3, TASG 1. OFFER DJ: SUT I’W CAEL A SUT I’W GOSOD. Tasg 1. Defnyddiwch y we neu’r llyfrgell i ymchwilio i’r gwahanol fformatau sydd ar gael i DJs heddiw. (Finyl, CD . . . eraill !)
E N D
AT DDEFNYDD TGAU CELFYDDYDAU PERFFORMIO CBAC, UNED 1 AC UNED 3, TASG 1 OFFER DJ: SUT I’W CAEL A SUT I’W GOSOD
Tasg 1 • Defnyddiwch y we neu’r llyfrgell i ymchwilio i’r gwahanol fformatau sydd ar gael i DJs heddiw. (Finyl, CD . . . eraill!) • Defnyddiwch Word neu Excel i ddogfennu’r rhain ac wedyn ymchwiliwch i’r gwahanol ddarnau o offer sydd eu hangen ar gyfer pob fformat, gan lunio tabl, taenlen neu siart yn rhestru pob cydran y mae pob fformat ei hangen. Edrychwch am y cydrannau sy’n ofynion cyffredin i bob fformat a’r rhai sy’n benodol i un yn unig. • Defnyddiwch PowerPoint i ddangos pa fformat a ddewisoch, gan ddangos pob elfen a dweud pam eich bod wedi’i dewis.
Tasg 2 • Defnyddiwch y we i ymchwilio i amrywiol werthwyr sy’n hysbysebu’r cydrannau a ddewisoch chi. • Casglwch wybodaeth am brisiau offer newydd ac ail-law. • Defnyddiwch dabl neu daenlen i ddangos eich gwybodaeth. • Cyflwynwch dair cymhariaeth prisiau – 1) newydd i gyd, 2) cyfuniad o newydd ac ail-law, a 3) ail-law i gyd. • Trafodwch eich dewis a’r rhesymau drosto (y defnydd a fwriedir, lle, cyllideb, ac ati).
Tasg 3 • Gan ddefnyddio’r we a PowerPoint, lluniwch gyflwyniad sy’n dangod yr amrywiaeth o gysylltiadau a ddefnyddir i gysylltu’r gwahanol ddarnau offer wrth ei gilydd. • Cofiwch ddefnyddio lluniau yn ogystal â thestun i ddangos y gwahaniaethau rhwng pob math o gysylltiad. • Ceisiwch ddatblygu diagram i ddangos sut byddwch yn cysylltu’ch gosodiad chi, gan amlygu’r cysylltiadau a’r ceblau y bydd eu hangen. • Pwysleisiwch ystyriaethau diogelwch cysylltu offer trydanol wrth ei gilydd.
Tasg 4 • Casglwch eich offer DJ i gyd ynghyd. • Penderfynwch pa wahanol gysylltiadau sydd eu hangen i gysylltu’r offer wrth ei gilydd. • Mae diogelwch yn hollbwysig! Cofiwch weithio o fewn polisi iechyd a diogelwch y sefydliad bob amser. • Cysylltwch yr offer. • Profwch eich cysylltiadau drwy sicrhau eich bod yn gallu clywed sain. • Os bydd unrhyw broblemau, edrychwch am atebion! • Cofnodwch bopeth a wnewch mewn nodiadau manwl.