130 likes | 332 Views
ANDROCLES A'R LLEW. Un tro dihangodd caethwas o'r enw Androcles rhag ei feistr gan ffoi i'r goedwig. Yn ystod ei grwydradau yno, daeth ar draws Llew a oedd yn gorwedd ar y ddaear gan ruddfan ac ochneidio.
E N D
Un tro dihangodd caethwas o'r enw Androcles rhag ei feistr gan ffoi i'r goedwig. Yn ystod ei grwydradau yno, daeth ar draws Llew a oedd yn gorwedd ar y ddaear gan ruddfan ac ochneidio.
Ar y dechrau trodd i ffoi, ond wedyn, ar ôl sylwi nad oedd y llew wedi'i ddilyn, trodd yn ôl ac aeth ato. Wrth iddo nesáu, estynnodd y llew ei bawen a oedd yn hollol chwyddedig ac yn gwaedu, a gwelodd Androcles fod draenen enfawr wedi cydio ynddi a dyma oedd yn achosi'r holl ddolur.
Tynnodd y ddraenen a lapiodd bawen y llew mewn cadach. Cyn pen dim roedd y Llew yn gallu codi i'w draed a llyfnu llaw Androcles fel ci. Yna aeth y Llew ag Androcles i'w ogof, a bob dydd byddai'n dod â chig iddo ei fwyta i oroesi.
Ond yn fuan wedyn, cafodd Androcles a'r Llew eu dal. Dedfrydwyd y dylid taflu'r caethwas i'r Llew, ar ôl i'r Llew gael ei gadw heb fwyd am ychydig ddyddiau.
Daeth yr Ymerawdwr a'i lys cyfan i weld y digwyddiad mawr, a chafodd Androcles ei arwain i ganol yr arena. Yn fuan rhyddhawyd y Llew o'i ffau, ac fe ruthrodd ar garlam tuag at ei ysglyfaeth gan ruo.
Ond wrth iddo nesáu at Androcles, roedd e'n adnabod ei hen ffrind a dechreuodd ei bawennu a llyfu ei ddwylo fel ci cyfeillgar. Gofynnodd yr Ymerawdwr, a oedd wedi synnu wrth hyn, i Androcles ddod ato, a dyma fe'n adrodd y stori gyfan. Wedi clywed hyn, cafodd y caethwas bardwn a'i ryddhau, a rhyddhawyd y Llew yntau i'w goedwig frodorol.