1 / 26

Bygythiad Byd-eang!

Bygythiad Byd-eang!. Beth yw cynhesu byd-eang? Pam ddylen ni boeni? Beth gallwn ni ei wneud?. Mae pob un ohonom yn defnyddio ynni drwy’r dydd, bob dydd!. Daw’r rhan fwyaf o’n ynni drwy losgi tanwydd ffosiledig, megis glo, nwy ac olew. . Mae tanwydd ffosiledig yn llygru ein byd.

aya
Download Presentation

Bygythiad Byd-eang!

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Bygythiad Byd-eang! Beth yw cynhesu byd-eang? Pam ddylen ni boeni? Beth gallwn ni ei wneud?

  2. Mae pob un ohonom yn defnyddio ynni drwy’r dydd, bob dydd!

  3. Daw’r rhan fwyaf o’n ynni drwy losgi tanwydd ffosiledig, megis glo, nwy ac olew.

  4. Mae tanwydd ffosiledig yn llygru ein byd.

  5. Mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr yn cytuno bod lefelau llygredd yn cyfrannu at gynhesu byd-eang.

  6. Mae gwyddonwyr yn darogan y bydd y Ddaear yn cynhesu 1.4 - 5.8C yn y 95 mlynedd nesaf! Dim ond 5C yn oerach na heddiw oedd cyfnod yr Oes Iâ ddiweddaraf. Nid oes fawr o amheuaeth fod tymheredd y Ddaear yn codi. Y degawd diwethaf oedd y cynhesaf yn y ganrif, a’r ganrif ddiwethaf oedd y cynhesaf yn y mileniwm. Y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC), consortiwm o filoedd lawer o wyddonwyr annibynnol.

  7. Nwyon Tŷ Gwydr / Greenhouse Gases Cytuna’r mwyafrif o wyddonwyr fod y nwyon a ryddheir gan ein ceir a phwerdai yn rhannol gyfrifol am gynhesu ein byd. Carbon deuocsid / Carbon dioxide Methan / Methane Ocsid nitraidd / Nitrous oxide Osôn / Ozone CFCs / CFCs © CCW/UKCIP/ www.freeimages.co.uk

  8. EffaithTŷ Gwydr Mae nwyon a gynhyrchir gan lygredd yn rhwydo gwres yr haul ac yn achosi i’n planed ordwymo.

  9. Dengys cofnodion diweddar bod ein hinsawdd yn cynhesu.

  10. Mae iâ’r môr yn dadmer.

  11. Mae ein hinsawdd eisioes yn newid! Mae iâ yn diflannu yn America.

  12. Mae lefelau ein moroedd yn codi.

  13. Mae ein hinsawdd eisioes yn newid! Llanw uwch. Mae rhai gwyddonwyr yn darogan y bydd hinsawdd cynhesach yn achosi stormydd cryfach, a fydd yn peri graddfa uwch o erydiad arfordirol. Penrhyn Hatteras yng Ngogledd Carolina yn yr UDA.

  14. Mae ein hinsawdd eisioes yn newid! Mae tir isel Bangladesh yn tueddu i ddioddef llifogydd arfordirol a achosir gan ymchwyddiadau stormus, sydd wedi lladd miloedd o bobl yn y blynyddoedd diweddar. Dywed arbenigwyr pe bai lefel y môr yn codi 1 medr, bydd Bangladesh yn colli 17.5% o’i thir.

  15. Mae ein hinsawdd eisioes yn newid! DG Hydref 2004 Mae arbenigwyr yn darogan ei bod yn debygol y bydd stormydd cryfion a llifogydd yn fwy cyffredin yn y dyfodol. Os parheir i adeiladu cartrefi a ffatrioedd ar orlifdiroedd, bydd cost llifogydd difrifol yn saethu i fyny.

  16. Cytuna’r mwyafrif o wyddonwyr fod lefelau llygredd yn cyfrannu at gynhesu byd-eang. Edrychwch ar y graffiau. Beth yw eich barn chi? Y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC), consortiwm o filoedd lawer o wyddonwyr annibynnol. .

  17. 2029 Mewn 25 mlynedd… Ar y gwaethaf: os ceir lefelau uchel o lygredd Ar y gorau: os ceir lefelau isel o lygredd Beth fydd oedran eich plant? Bydd ein ffordd o fyw yn pennu y tymheredd.

  18. 2099 Mewn 95 mlynedd… Ar y gwaethaf: os ceir lefelau uchel o lygredd Ar y gorau: os ceir lefelau isel o lygredd Beth fydd oedran eich wyrion? Bydd ein ffordd o fyw yn pennu y tymheredd.

  19. Newidiadau i gyfartaledd tymheredd blynyddolPredicted changes in annual average temperature

  20. Cynydd mewn tymheredd ar gyfartaledd o tua 2% Mae gwyddonwyr yn darogan y bydd Cymru erbyn2080 yn gweld:

  21. Mae gwyddonwyr yn darogan y bydd Cymru erbyn 2080 yn gweld: Mwy o law yn y gaeaf a llai o law yn yr haf

  22. Mae gwyddonwyr yn darogan y bydd Cymru erbyn 2080 yn gweld: Codiad yn lefel y môr a allai amrywio rhwng 18-79 cm

  23. Mae gwyddonwyr yn darogan y bydd Cymru erbyn 2080 yn gweld: Tywydd mwy eithafol a gwyntoedd cryfion tu hwnt Blynyddoedd sy’n dioddef o sychder yn cynyddu o 10%

  24. Os na fyddwch chi’n poeni, pwy fydd? “Cynhesu byd-eang yw’r bygythiad mwyaf difrifol sy’n wynebu’r blaned”Tony Blair “Mae newid hinsawdd yn llawer mwy o fygythiad i’r byd na therfysgaeth rhyngwladol” Syr David King, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DG Mae gwyddonwyr yn darogan y bydd y Ddaear yn cynhesu 1.4 - 5.8C yn y 95 mlynedd nesaf!

  25. Ond beth fedra i wneud? Byddwch yn egni-effeithiol! Petai pob cartref yn gosod dau fylb golau egni-effeithiol, byddai digon o ynni yn cael ei arbed ymhen blwyddyn i ddarparu holl oleuadau stryd y DG.

  26. Cofiwch ddiffodd golau'r ystafell ymolchi ar ôl i chi fod i'r toiled. Peidiwch â rhoi mwy o ddŵr nag sydd raid yn y tegell. Peidiwch â gadael y cyfrifiadur ymlaen ar ôl i chi orffen ei ddefnyddio. Os byddwch yn oer, gwisgwch siwmper cyn troi’r gwres i fyny.

More Related