120 likes | 520 Views
Berfau. N ôd y wers. Gwybod beth yw berf. Adnabod berf mewn testun. Defnyddio berfau yn gywir wrth ysgrifennu. Mae’r gair sy’n dweud beth sy’n digwydd mewn brawddeg yn bwysig iawn. Berf yw’r enw ar y gair hwn. Gair yw berf sydd yn dweud beth sydd yn digwydd.
E N D
Nôd y wers. Gwybod beth yw berf. Adnabod berf mewn testun. Defnyddio berfau yn gywir wrth ysgrifennu.
Mae’r gair sy’n dweud beth sy’n digwydd mewn brawddeg yn bwysig iawn. Berf yw’r enw ar y gair hwn.
Tanlinellwch y berfau yn y testun. Cerddais yn hamddenol i lawr y stryd fawr. Roedd nifer o fobl yn brysur yn siopa. Gwibiai ceir heibio yn swnllyd. Clywais fabi yn sgrechian yn ei bram a’i fam yn dwrdio. Gwelais fy ffrind Mari yn cerdded tuag ataf, “Haia Mari, shw’mae?”, cyfarchais hi. “Shw’mae Megan, siopa wyt ti?,”holodd Mari. “Ia, wyt ti am ddod i helpu fi i brynu ‘sgidiau?”, gofynnais iddi. “Iawn”, atebodd. Aethon ein dwy i chwilio am ‘sgidiau newydd.
Dyma gerdd yn llawn berfau! Nofio rhedeg Chwarae sblashio Neidio yfed Trochi plymio Cerdded sychu A thorheulo Dyna beth yw enjoio. Leigh Jones.
Rhowch ferfau addas yn y bylchau. Trip ysgol i’r Sŵ. Roedd yr anifeiliaid yn y sŵ yn ------- ac yn-----------. Roedd y plant yn y sŵ yn --------------- ac yn --------------. Roedd yr athrawes yn y sŵ yn ---------- ac yn ----------.
Ydyn ni wedi cyrraedd nôd y wers. Gwybod beth yw berf. Adnabod berf mewn testun. Defnyddio berfau yn gywir wrth ysgrifennu.