200 likes | 690 Views
BERFAU AMODOL. Pryd rydym yn defnyddio berfau amodol?. Rydym yn defnyddio’r AMODOL pan fo amod yn y frawddeg. Mae berfau’r amodol yn diweddu gyda therfyniadau’r amser amherffaith e.e. - wn i - em - et ti - ech - ai o/hi - ent. Enghreifftiau ….
E N D
Pryd rydym yn defnyddio berfau amodol? • Rydym yn defnyddio’r AMODOL pan fo amod yn y frawddeg. • Mae berfau’r amodol yn diweddu gyda therfyniadau’r amser amherffaith e.e. - wn i - em - et ti - ech - ai o/hi - ent
Sut i ddefnyddio’r amodol mewn brawddeg… Wrth greu brawddeg gyda’r amodol mae’n bwysig cael berf amodol yn ail ran y frawddeg e.e. Pe bawn i’n ennill y loteri buaswn i’n mynd ar wyliau o amgylch y byd. Berfau amodol yn cyfateb i’w gilydd
Mwy o enghreifftiau… Pe baech yn adolygu’r gwaith gramadeg yn gyson, dylech weld y gwaith yn dod yn rhwyddach! Hoffai fy mrawd gael car newydd pe bai yn gallu fforddio hynny ar ôl cychwyn gweithio.
Beth am greu… Rhowch gynnig arni: pe bawn i buasai hi gallem ni dylet ti byddwn i hoffai o Wrth fario gwaith eich gilydd, gwnewch yn siwr fod gennych ferfau amodol yn cyfateb i’w gilydd.
OS a PE… • Mae’r ddau air yma’n cyfateb i’r Saesneg ‘if’ • O flaen berfau amodol, rhaid defnyddio’r ffurf PE ar ddechrau brawddeg • Gallwn ddefnyddio OS o flaen berfau nad ydynt yn amodol
Enghreifftiau… ‘Pe bawn i’n artist mi dynnwn lun Rhyfeddod yn machlud dros Benrhyn Llŷn’ Os caf i raddau da yn fy arholiadau, byddaf yn mynd i goleg Aberystwyth. Berfau amodol sydd yn y frawddeg uchod Does dim berfau amodol yn y frawddeg uchod
Gwallau posibl… Defnyddio OS o flaen berf amodol e.e. Os buasai yn adolygu byddai’n llwyddo. Cywiriad: Pe buasai’n adolygu byddai’n llwyddo. Mae ‘buasai’ yn ferf amodol felly rhaid defnyddio PE yn hytrach nag OS
Ble mae’r gwall? Os buaswn i’n cael fy newis, byddwn yn derbyn y cynnig. Os byddem ar amser, gallem gael cyfnod yn yr amgueddfa. Os buasai yn dysgu ei waith byddai’n siwr o bario’r arholiad.
Sut ydw i’n egluro’r gwall? Mae’n rhaid defnyddio PE o flaen berf amodol ar ddechrau brawddeg
Camddefnyddio OS… Weithiau ar lafar, rydym yn defnyddio OS mewn brawddeg lle nad oes amod e.e. Dw i ddim yn siwr os fydda i yma yfory. Does dim amod yn y frawddeg uchod. Yn hytrach cwestiwn anuniongyrchol sydd yna. Sut ddylwn i gywiro?
Dw i ddim yn siwrafydda i yma yfory. Ydych chi’n gweld y gwall? • Wn i ddim os ydy o’n gall. • Gofynaf os caf i fynd yn gynnar. • Dw i ddim yn siwr os ydw i’n cofio. • Dydy o ddim yn gwybod os ydy’r ateb yn gywir. DOES DIM AMOD YN Y BRAWDDEGAU HYN!