1 / 9

Camddefnyddio Sylweddau Substance Misuse Cam-drin Domestig Domestic Abuse

Cynhadledd Athrawon Teacher Conference Bae Colwyn /Colwyn Bay Llanelli Nantgarw Ionawr / Jan 2013. Camddefnyddio Sylweddau Substance Misuse Cam-drin Domestig Domestic Abuse. Gwrth-fwlio Anti-bullying Diogelwch ar y Rhyngrwyd Internet Safety. NODAU’R DIWRNOD.

ban
Download Presentation

Camddefnyddio Sylweddau Substance Misuse Cam-drin Domestig Domestic Abuse

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Cynhadledd AthrawonTeacher ConferenceBae Colwyn /Colwyn Bay LlanelliNantgarw Ionawr / Jan 2013 Camddefnyddio Sylweddau Substance Misuse Cam-drin Domestig Domestic Abuse Gwrth-fwlio Anti-bullying Diogelwch ar y Rhyngrwyd Internet Safety

  2. NODAU’R DIWRNOD • Hysbysu athrawon am y wybodaeth a’r patrymau cyfredol ynghylch defnyddio a chamddefnyddio sylweddau, diogelwch ar y rhyngrwyd, gwrthfwlio a pherthynas bersonol ddiogel o safbwynt iechyd, safbwynt cymdeithasol a chyfreithiol. • Rhannu dulliau arfer gorau i ddatblygu hunan-barch a hunanymwybyddiaeth disgyblion o ran camddefnyddio sylweddau, diogelwch ar y rhyngrwyd, gwrthfwlio a pherthynas bersonol ddiogel.

  3. GRAFF YN DANGOS NIFER Y DISGYBLION (HYD AT 16 OED) A WAHARDDWYD (YN BARHAOL NEU AM GYFNOD PENODOL), O GANLYNIAD I GAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU, O YSGOLION YNG NGHYMRU 2006-07 HYD 2010-11

  4. CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU – FFEITHIAU ALLWEDDOL Canran o blant 11-15 oed sy’n defnyddio gwahanol sylweddau yn ystod eu bywyd yn ôl rhyw, Cymru, 2009 Sefyllfa cyffuriau yn y Deyrnas Unedig: adroddiad blynyddol y Ganolfan Ewropeaidd ar Fonitro Cyffuriau a'r Ddibyniaeth ar Gyffuriau (EMCDDA) 2011.

  5. Canabis CYFFURIAU NEWYDD SY’N YMDDANGOS (NEDs) Steroidau • Mae llawer o Gyffuriau Newydd sy’n Ymddangos (NEDs) yn cynnwys cymysgeddau o gyffuriau anghyfreithlon ac nid yw anwybodaeth yn esgus dros fod yn eu meddiant. Melanotan • Nid yw gwybodaeth am NEDs ar y rhyngrwyd bob amser yn ddibynadwy. NRG-1 • Mae diddordeb y bobl sy’n cynhyrchu’r cyffuriau hyn dim ond mewn elw, nid eich lles chi. Meffedron • Mae llawer o’r cyffuriau ‘ar werth’ hyn wedi eu labelu gyda ‘not for human consumption’ fel y gall delwyr (gwerthwyr neu gyflenwyr) osgoi’r gyfraith a hepgor cyfrifoldeb am unrhyw ganlyniadau neu risgiau negyddol. • Gall Cyffuriau Newydd sy’n Ymddangos (NEDs) fod yn gryfach na chyffuriau anghyfreithlon; maent yn aml yn fwy pur gan eu bod yn rhad i'w cynhyrchu ac nid oes angen eu cymysgu gydag unrhyw beth arall. • Nid yw’r cyffuriau hyn wedi eu profi’n iawn er mwyn gweld pa mor wenwynig ydynt i bobl felly nid oes modd dweud sut y bydd cyffur seicoweithredol yn effeithio arnoch. Ni wyddom ddim am effeithiau tymor canolig neu hirdymor defnyddio’r cyffuriau hyn MJS Cathinones Synthetig • Gyda chyffuriau anghyfreithlon a chyffuriau newydd diddosbarth ni ellir gwarantu cynnwys y cyffuriau ac nid oes canllawiau ar gyfer eu defnyddio. Mae’n risg mawr eu cymryd.

  6. BWLIO – FFEITHIAU ALLWEDDOL DatgeloddastudiaethganLywodraeth Cymru bod: • 30% o ddisgyblion blwyddyn 7 yn adrodd eu bod yn cael eu bwlio • 15% o ddisgyblion blwyddyn 10 yn adrodd eu bod yn cael eu bwlio • Tua 8% o’r rheiny a holwyd yn adrodd bod y bwlio wedi para am tua blwyddyn neu ragor • 1 o bob 10 o’r galwadau i linell gymorth MEIC Cymru yn alwadau i riportio bwlio (2012) • 46% o bobl ifanc 11 i 18 oed yn adrodd eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol (Arolwg Cymru Gyfan o Fwlio Mewn Ysgolion 2009)

  7. DIFFINIAD O GAM-DRIN DOMESTIG YW: Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm digwyddiadau o ymddygiad sy’n rheoli, gorfodi neu’n bygwth, trais neu gamdriniaeth rhwng rhai 16 oed neu drosodd sydd yn, neu wedi bod yn, bartneriaid agos neu aelodau teulu waeth fo’u rhyw neu eu rhywioldeb.

  8. CAM-DRIN DOMESTIG – FFEITHIAU ALLWEDDOL • Datgelodd ymchwil diweddar (2012) gan CAADA bod: • 62% o’r dioddefwyr mewn perygl o ddioddef anaf difrifol neu gael eu llofruddio • 76% yn profi camdriniaeth gorfforol • 44% yn profi camdriniaeth gorfforol o ddifrifoldeb uchel, megis torri esgyrn neu dagu • 78% yn profi ymddygiad o reoli • 53% wedi cael eu stelcio neu ddioddef aflonyddwch • 22% wedi profi camdriniaeth rywiol • O ganlyniad roedd: • 27% o’r dioddefwyr wedi hunan-niweidio • 25% wedi cael problemau iechyd meddwl • 21% wedi bygwth neu wedi ceisio lladd eu hunain (Casglwyd y wybodaeth gan 183 o ddioddefwyr dan 18 oed dros gyfnod o 2 flynedd)

  9. DIOGELWCH AR Y RHYNGRWYD – FFEITHIAU ALLWEDDOL Dywed ymchwil wrthym fod: Rhwydweithio cymdeithasol yn cael ei symbylu gan ffonau smart • Mae gan 47%+ o rai yn eu harddegau ffôn smart, gyda rhwydweithio cymdeithasol yn un o’r gweithgareddau mwyaf poblogaidd, yn cyfrif am dros 20% o’u hamser ar-lein • Mae 60% yn honni eu bod yn gaeth i’r dechnoleg • Mae 85% o rai 12-15 oed yn cyrchu’r rhyngrwyd yn ddyddiol ac mae rhan sylweddol (dros 20%) o’u hamser yn ymwneud â rhwydweithio cymdeithasol • Mae 88% o luniau a fideos rhywiol eglur wedi eu hunan-gynhyrchu o bobl ifanc yn cael eu cymryd o’u lleoliad gwreiddiol a’u lanlwytho ar wefannau eraill • Roedd bron i 22% o adroddiadau i CEOP yn ystod 2011/12 yn ymwneud â dosbarthu SGII. Roedd 1/3 o’r rhain dan 15 mlwydd oed • Mae 1 o bob 4 o blant, pan gânt eu cynhyrfu gan risg ar-lein, yn dewis anwybyddu’r broblem a gobeithio y bydd yn diflannu • Dim ond 15% o bobl ifanc wnaeth riportio problemau pan oeddent yn ymwneud â delweddau rhywiol a dim ond 9% a wnaeth eu riportio pan oeddent yn gysylltiedig â bwlio.

More Related