190 likes | 376 Views
DIM TÂL STORI. Daeth fy machgen bach i’r gegin heno pan oeddwn yn gwneud swper. Rhoddodd ddarn o bapur i mi yr oedd wedi bod yn ysgrifennu arno. Felly, ar ôl sychu fy nwylo ar fy ffedog, darllenais ef, a dyma’r oedd yn ei ddweud:. Torri’r gwair, £5.
E N D
Daeth fy machgen bach i’r gegin heno pan oeddwn yn gwneud swper. Rhoddodd ddarn o bapur i mi yr oedd wedi bod yn ysgrifennu arno. Felly, ar ôl sychu fy nwylo ar fy ffedog, darllenais ef, a dyma’r oedd yn ei ddweud:
Edrychais arno’n sefyll yno’n ddisgwyliedig a llifodd mil o atgofion trwy fy meddwl. Felly codais y darn o bapur, ei droi drosodd, a dyma’r hyn a ysgrifenais:
Am y naw mis gwnes i dy gario, yn tyfu y tu mewn i mi, dim tâl
Am y nosweithiau yr eisteddais gyda thi yn dy nyrsio ac yn gweddïo drosot ti, dim tâl.
Am y cyngor a’r wybodaeth, a chost dy anfon i’r coleg, dim tâl.
Am y teganau,y bwyd a’r dillad ac am sychu dy drwyn, dim tâl.
Fab, pan fyddi di’n cyfrifo popeth, cost lawn fy nghariad yw dim tâl.
Wel, pan orffennodd ddarllen, roedd dagrau yn ei lygaid.Edrychodd arna i a dywedodd, "Mam, rwy’n dy garu di’n fawr." Yna defnyddiodd y pen ac mewn llythrennau bras ysgrifennodd, WEDI TALU’N LLAWN.