100 likes | 429 Views
Electra – Soffocles. Electra. Mae stori’r ddrama ‘Electra’ yn rhan o stori hirach teulu brenhinol Mycenae. Ysgrifenodd Euripides ddrama o’r un enw ’Electra’ tua’r un cyfnod Stori Electra yw drama ganol trioleg ‘Yr Orestes’ gan Aeschylus.
E N D
Electra • Mae stori’r ddrama ‘Electra’ yn rhan o stori hirach teulu brenhinol Mycenae. • Ysgrifenodd Euripides ddrama o’r un enw ’Electra’ tua’r un cyfnod • Stori Electra yw drama ganol trioleg ‘Yr Orestes’ gan Aeschylus. • Mae tair drama’n rhoi llun o deulu brenhinol Mycenae, Tŷ Artemis • Roedd Soffocles yn ymwybodol o ddrama Aeschylus pan yn ysgrifennu ‘Electra’
Electra • Mae fersiwn Aeschylus yn canolbwyntio ar stori y teulu gyda Electra’n rhan o’r stori • Mae Soffocles yn canolbwyntio ar gymeriad Electra a’i safle yn y palas. Mae’r gynulleidfa’n ymwybodol bod ei brawd Orestes wedi dychwelyd i ladd eu mam a’u llys-dad. • Yn nrama Euripides mae cymeriadau Electra ac Orestes yn rhai cas a dieflig. Nid yw hyn yn wir yn nrama Soffocles.
Y Stori • Mae mam Electra ac Orestes, Clytemnestra, wedi lladd eu tad Agamemnon, gyda’i chariad Aegisthus. • Mae Orestes wedi diflannu ac mae Electra a’i chwaer, Chrysothemis, yn dal i fyw yn y palas • Mae Electra am ladd ei mam a chariad ei mam. • Dyma beth sydd wedi digwydd cyn dechrau’r ddrama.
Electra • Mae’r ddrama’n digwydd o flaen palas Agamemnon yn Mycenae. Daw tri dyn i’r llwyfan: • Orestes • Pylades, cyfaill Orestes • Hyfforddwr Orestes • Mae’n fore, ac mae’r tri yn trafod eu cynlluniau ar ôl clywed gorchymyn Apollo.
Electra • Mae Apollo wedi gorchymyn i Orestes ddial ar ei fam am farwolaeth ei dad a bod rhaid gwneud hyn ei hun, heb gymorth byddin. • Mae’r hyfforddwr am fynd i’r palas a chyhoeddi bod Orestes wedi marw yn Delffi. • Mae Orestes a Pylades yn mynd at fedd Agamemnon ag offrymau ac er mwyn casglu hwy i’w defnyddio i dwyllo pawb mai llwch Orestes oedd ynddo.
Daw Electra i’r golwg ar ei phen ei hun. Mewn araith mae hi’n cyfarch y bore ac yn sôn yn drist am ei galar dros ei thad. • Mae’r corws yn ymddangos – 15 o wragedd Mycenae. Cydymdeimla’r corws gydag Electra yn ei phrofedigaeth. Maent yn poeni am ei chyflwr meddwl. • Yn yr adran nesaf daw chwaer Electra, Chrysothemis i mewn, yn cario offrymau i roi ar fedd ei thad. Mae’r ddwy yn anghytuno ynglŷn â’u hagwedd at eu mam. Electra am ei herio, Chrysothemis am fyw bywyd tawelach, llai ymosodol.
Electra • Mae Electra’n llwyddo i berswadio ei chwaer i daflu’r offrymau o’r neilltu gan fod duwiau dial ar droed i ddial ar ei mam. • Daw Clytemnestra i’r golwg. Mae Clytemnestra’n egluro nad hi yn unig laddodd eu tad ond y duwiau, gan ei fod e wedi aberthu eu chwaer Iphigenia. Ond mae Electra’n ei herio gan ofyn pam ei bod hi wedi cymryd cariad Aegisthus ac yna ei briodi.
Electra • Daw’r hyfforddwr i mewn gan gyhoeddi bod Orestes wedi marw. Clytemnestra yn hapus, Electra’n galaru. Electra’n gwrthod mynd i mewn i’r palas nawr. • Chwaer Electra’n dweud bod offrymau newydd ar fedd eu tad. Mae hi’n credu mai rhai Orestes ydynt, ond dywed Electra wrthi bod Orestes wedi marw, a bod yn rhaid iddi hi ladd eu mam yn awr. • Y corws yn canu cân o gydymdeimlad.
Electra • Daw Orestes a‘i was i mewn gan ddweud wrth Electra pwy ydyw. Electra’n gorfoleddu • O hyn at ddiwedd y ddrama, mae Orestes yn mynd i’r palas ac yn lladd ei fam. • Daw Aegisthus i’r palas gan ddisgwyl gweld corff Orestes ond fe wêl corff Clytemnestra • Lleddir Aegisthus gan Orestes a‘i was • Y corws yn y diwedd yn dweud bod cyfiawnder wedi ei weithredu nawr.