120 likes | 289 Views
Pennod 3 ‘Stafell Ddirgel. Marion Eames. Cynnwys Pennod 3. Parti’r Plygain yn yr Hengwrt – cyfoeth amlwg! Hywel Vaughan yw’r un sy’n gwahodd y pwysigon yno i’w gartref. Rowland yn teimlo’n anghyfforddus ynghanol yr holl ysblander.
E N D
Pennod 3‘Stafell Ddirgel Marion Eames
Cynnwys Pennod 3 • Parti’r Plygain yn yr Hengwrt – cyfoeth amlwg! • Hywel Vaughan yw’r un sy’n gwahodd y pwysigon yno i’w gartref. • Rowland yn teimlo’n anghyfforddus ynghanol yr holl ysblander. • Meg wrth ei bodd gyda’r holl sioe a’r moethusrwydd. Yn amsugno’r awyrgylch hyd yr eithaf i wneud yn iawn am ei naw mis o gaethiwed. • Meg yn diflannu i’r llyfrgell.
Parhâd • Wrth chwilio am ei wraig mae’n cyfarfod â Jane Owen yn y llyfrgell. • Hywel Vaughan a Meg yn ymddangos gyda’i gilydd yn y llyfrgell hefyd! • Casineb ac oerni yn amlwg gan Hywel Vaughan at ei chwaer. • Jane Owen yn gofyn am gael rhyddhau Ifan Roberts o garchar Cae Tanws – ofer yw ei hymdrech. • Meddwon yn mynd i’r eglwys -RHAGRITHWYR .( Rowland yn falch o beidio â mynd!) • Y ddau yn aros yn yr Hengwrt.
Pwysigrwydd cyfarfyddiad Jane Owen a Rowland… • Rowland gam yn nes eto at droi yn Grynwr. • Cyfarchiad Jane Owen yn bwysig – yn ei gyfarch fel TI. “ Rydw i’n falch o’th weld” • Rowland yn cael ei wahodd i gyfarfod y Crynwyr ar Nos Galan. • Rowland yn casau Hywel Vaughan am drin ei chwaer mor sal nid am fflyrtian efo’i wraig!
Gwrthgyferbyniadau… • Meg yn mwynhau bywyd materol ac ysblennydd. Rowland yn dod i ddeall fod pethau amgenach na hynny. • Rowland yn isel ei ysbryd ac yn ymwybodol fod hyn yn creu rhwyg rhyngddo ef a Meg. • Cyfoeth ysblennydd yr Hengwrt – sianderlirs a digonedd o fwyd! Tlodi’r pentrefwyr a moelni carchar Caetanws.
Parhâd… • Sgwrs Meg a Hywel: “ O mi hoffwn fynd i Lundain…” ( Meg ) “ I fod yn feistres y Brenin?” ( Hywel ) Mewn gwrthgyferbyniad â sgwrs Jane a Rowland sydd am grefydd: “ Am fod Jane Owen yn synhwyro fod Rowland Ellis eisioes wedi profi drosto’i hun nerth y goleuni oddi mewn” ( Jane Owen )
Hywel Vaughan • Casineb amlwg tuag at ei chwaer: “ Ateb fi y gnawes hurt. Be wnei di yma?” “Roedd y teimlad a basiodd o’r brawd i’r chwaer yn rhywbeth y gellid gafael ynddo bron.” Smart iawn ei wisg – dillad ysgarlad (Lliw brenhinol)- ryfflau gwynion, gwasgod glaerwen a botymau aur. Ffasiynol iawn. Fflyrtian gyda Meg – ymwybodol o fan gwan Meg am bethau da bywyd. Dyn deallus ond oer a chaled. Dyn bydol-ddoeth.
Rowland Ellis • Yn ei fyd ei hun – trist a thrwm ei galon. • Mae meddyliau Meg yn cadarnhau hyn: “ Teimlai Meg bigiad o anniddigrwydd wrth sylwi ar ei wyneb di wên” Mae newid mawr wedi dod dros Rowland mewn blwyddyn: “ Teimlai ei fod yn nes at ei was yn ei glos ffustian a’i grys gwlan nag yr oedd at y boneddigion hyn…yn eu sidanau a’u melfed”
Jane Owen • Byw yn Nolserau • Gwraig Robert Owen Dolserau • Meistres Ifan Roberts yr hwsmon. • Yn mynd i’r carchar dros ei chred yn nes ymlaen yn y nofel • Dynes ddewr a dylanwadol • Yn gweld addewid yn Rowland. • Dynes addfwyn.
Meg Ellis • Wedi cael gormod i’w yfed: “ Roedd ei llygaid yn ddieithr a’i gwefusau’n llac.” • Nerfusrwydd wrth weld Rowland yn y llyfrgell – gwybod ei bod wedi gwneud yn anghywir. • Fel plentyn bach yn cael ei rhoi i’w wely ar ddiwedd y bennod • Rowland yn aeddfetach a mwy deallus na hi.
Arddull • Deialog – ystwyth a llithrig dafodieithol. • Pwyslais ar natur Jane Owen o gyfarch yn null y Crynwyr. ( TI ) • Cyffelybiaeth: “Clywodd Rowland y geiriau yn mynd drwyddo fel saeth.” ( h.y. geiriau J.Owen) “ Syrthiodd distawrwydd rhewllyd fel cyllell ar draws yr ystafell”
Parhâd… • Ansoddeiriau i ddisgrifio llais Hywel Vaughan: “ Parlyswyd hi gan eiriau noeth mileinig a’r edrychiad enbyd”