660 likes | 862 Views
Barbeciw Ewythr Arthur. Cyflwyniad Dyma stori Gareth, ei chwaer Elin, eu Hewythr Arthur a germ bychan. Mwynhewch y stori, ond yn bwysicach fyth, gobeithio y byddwch chi’n dysgu rhywbeth. Er bod bwyd yn beth gwych, mae’n gallu achosi pob math o broblemau os na fyddwch chi’n ofalus. Pennod 1.
E N D
Cyflwyniad • Dyma stori Gareth, ei chwaer Elin, eu Hewythr Arthur • a germ bychan. Mwynhewch y stori, ond yn bwysicach fyth, gobeithio y byddwch chi’n dysgu rhywbeth. • Er bod bwyd yn beth gwych, mae’n gallu achosi pob math o broblemau os na fyddwch chi’n ofalus.
Pennod 1. Yn y Dechreuad. Mae yna hen, hen ddywediad sy’n dal i gael ei glywed ambell dro. Fe glywch chi hen bobl yn ei adrodd mewn priodas, bedydd neu angladd. "Fe allwch chi ddewis eich ffrindiau, ond nid eich teulu." Maen nhw fel arfer yn dweud hynny mewn llais tawel, dwfn. Dwi wedi’i glywed yn aml, ond heb ei ddeall yn iawn.
Yna, fe feddyliais i, wel, os ydych chi’n pwdu gyda’ch ffrind gorau am iddo ddwyn eich pêl-droed chi, fe allech chi wastad gael ffrind arall. Fe allech chi brynu pêl newydd hefyd, am wn i. Ond os ydych chi’n ffraeo a phwdu gyda’ch brawd, wel, hen dro - chewch chi mo’i newid e. Mae’n perthyn i chi. Os ydych chi’n ffraeo gyda’ch chwaer fach, wel mae hi wedi canu arnoch chi!
Mae chwiorydd bach yn glynu atoch chi fel glud! Roedd gan fy ffrindiau i berthnasau anhygoel. Roedd gan Meical, sy’n byw ar draws y ffordd, ewythr oedd wedi mopio’n lân ar Lego. Dychmygwch y peth! Roedd cartref ei ewythr yn llawn dop o gestyll a blociau o fflatiau gyda lifftiau yn gweithio’n iawn. Roedd ewythr Lisa drws nesaf wedi ennill Medal Aur yn y Gemau Olympaidd. Anhygoel! Doedd neb felly yn fy nheulu i, ond doeddwn i ddim yn poeni. Roedd gen i Ewythr Arthur a Modryb Doreen. Nhw oedd yr Ewythr a’r Fodryb gorau YN Y BYD I GYD. Ond pam? Fe ddyweda i wrthoch chi.
Pan fydden nhw’n dod i fy ngweld i bydden nhw bob amser yn dod ag anrheg – llong ofod oedd yn hedfan neu blymiwr oedd yn nofio rownd y bath. Un diwrnod, fe ges i hyd yn oed set drên ganddyn nhw!
. Fe fydden nhw’n mynd â chi i’r llefydd hynny mae bechgyn yn dwlu arnyn nhw – llefydd megis ogof dywyll neu drip ar long bleser. Roedden nhw hefyd yn mynd â fi i fwytai nad oedd mam a dad yn gadael i mi fynd iddyn nhw. Y math o fwytai gyda chacennau hufen ANFERTH. "Hoffet ti gacen?" fydden nhw’n ei ofyn. "Beth am un arall?"
Roedd ganddyn nhw rywbeth nad oedd gan mam a dad. Lawnt. Lawnt anferth, maint cae pêl-droed….ac os oeddwn i’n hogyn gwirioneddol dda, byddai Ewythr Arthur yn gadael i mi wthio ei beiriant torri gwair. Roedd ganddyn nhw bob math o bethau eraill hefyd, nad oedd gan Mam a Dad, fel chwaraewr recordiau hen ffasiwn, llenni Feis a chwistrell lladd pryfed….ond nid stori amdanyn nhw ydy hon.
Yn hytrach, dyma hanes y diwrnod ofnadwy hwnnw y gwahoddodd Ewythr Arthur ni draw am farbeciw. Dyma ddiwrnod na wna i fyth ei anghofio. Roedd e’n ddiwrnod mor erchyll fel ’mod i eisiau enwi’r stori hon yn:- Cinio’r Cythrel
Ond, doedd y cyhoeddwyr ddim yn fodlon gyda hynny, felly penderfynais alw’r stori yn.............. • Barbeciw Ewythr Arthur.
Pennod 2 • Y Rhandir • Ar waelod stryd Ewythr Arthur, fe welwch chi randiroedd neu ’lotments lleol. Gerddi llysiau yw’r rhain, rhag ofn nad ydych chi’n gwybod. Roedden nhw’n boblogaidd iawn yn ystod y rhyfel, yn ôl Ewythr Arthur. Gan fod bwyd yn brin, byddai pobl yn tyfu eu llysiau eu hunain yn y rhandir. • Gofynnais iddo un diwrnod, "Pa fath o lysiau oedd pobl yn eu tyfu’n ystod y rhyfel?"
"Pob math, Gareth," atebodd. "Tatws, moron, bresych, sbrowts. " • "Sbrowts!" meddai fi, "Ych a fi !!" • "Ie," meddai Ewythr Arthur, "a byddai’r plant i gyd yn eu bwyta’n ddiolchgar. Roedd hynny’n well o lawer na llwgu. A dweud y gwir roedd golwg iachach o lawer ar blant bryd hynny. Yr amser hynny doedd plant ddim yn gallu cael llawer o losin chwaith." • Weithiau, roeddwn i’n meddwl fod Ewythr Arthur yn llawn straeon tylwyth teg. Goeliech chi’r fath beth? Plant yn bwyta sbrowts yn lle losin? Lol botes maip!
Roedd rhandir Ewythr Arthur yn wledd i’r llygad. Roedd golwg dda ar ei lysiau. Fe allech chi weld holl nerth y tatws, fel petaen nhw wedi bod yn codi pwysau am fisoedd yn y gampfa. Roedd ei ffa yn tyfu’n drwchus ac yn dal, fel coeden ffa Jac, a waeth faint fyddech chi’n eu casglu, byddai yna filoedd ar filoedd ar ôl! "Edrycha ar y pwmpenni hyn," meddai. "Maen nhw bron mor fawr â Stadiwm y Mileniwm!"
Roedd yn tyfu mefus blasus, erwau o letys a llond berfa o bys a brocoli. Doedd dim croeso i chwyn, ac roedd y malwod yn crynu’n eu cregyn wrth weld rhandir ffrwythlon Ewythr Arthur.
Bydden i bob amser yn edrych ymlaen at weld rhandir Ewythr Arthur. Roedd rhywbeth newydd a chyffrous yn digwydd yno o hyd. Doedd e byth yn fodlon ar fod yn normal. Er enghraifft, wyddech chi fod modd cael betys aur yn ogystal â rhai coch? Tyfai foron siâp a maint peli golff. Roedden nhw’n flasus dros ben. Ond doedd dim curo ar y tomatos streipiog. Tomatos coch llachar gyda streipiau melyn drostyn nhw i gyd.
Doedd ryfedd bod salad Modryb Doreen yn ddigon o ryfeddod. A dweud y gwir, roedden nhw’n edrych mor rhyfeddol roedd hi’n bechod eu bwyta!
Pennod 3 Tom Jenkins y Cigydd Ar waelod ein stryd ni roedd siop cigydd. Yr hen Tom Jenkins oedd biau’r siop. Roedd e wedi bod yno ers cyn cof. Yn wir, roedd yn siop hen ffasiwn iawn. Roedd ganddo deils arbennig ar y wal, gyda lluniau gwartheg arnyn nhw. Gwartheg mawr gwyn a smotiau duon drostyn nhw i gyd, yn wên o glust i glust. Petaen nhw ond yn gwybod beth oedd o’u blaenau.
Roedd Tom yn gigydd penigamp. Roedd yn gwybod bod rhaid i chi fod yn lân iawn wrth drin bwyd, yn enwedig cig. Byddai ei ddwylo bob amser yn lân. Fe wyddai’r holl reolau am storio cig , a sut i ofalu am gigoedd ffres a chigoedd wedi’u coginio. Gwyddai Tom hefyd sut i gadw’r cownter fel pin mewn papur. Ar ymyl y cownter roedd ganddo beiriant mawr coch i sleisio cig moch - roedd yn edrych yn beryg bywyd!
Byddai’n tynnu’r peiriant yn ddarnau bob bore. Yna, fe fyddai’n glanhau pob darn nes ei fod yn sgleinio. Roedd y llafn mor lân gallech chi weld eich llun ynddo. Byddai’n hogi’r cyllyll nes eu bod yn ddigon miniog i dynnu’ch tonsils heb i chi hyd yn oed wybod eu bod wedi diflannu!
Byddai pobl o bell ac agos yn dod i’r siop i brynu’r selsig arbennig - Selsig Eidion Gorau Tom. Roedden nhw’n dipyn o sioe, credwch chi fi - pob un o drwch tri bawd ac mor hir â phlât cinio. Roedden nhw’n plygu i’r dim hefyd; nid fel banana, ond doedden nhw chwaith ddim yn syth. Yn hytrach yn plygu fel y dylai selsig wneud. Roedd Tom wedi bod wrthi’n paratoi ei selsig Eidion Gorau am flynyddoedd lawer, gan ddefnyddio rysáit ei ddadcu.
"Pwys o selsig Eidion Gorau os gwelwch yn dda," gofynnodd yr hen Mrs Huws. "Mae Ifan yn eu hoffi nhw wedi’u grilio. Mae’n dweud eu bod nhw’n well i’r galon o’u coginio felly. Ydy hynny’n wir Mr Jenkins?"
"Wel, dyna mae’r doctoriaid yn ei ddweud Mrs Huws. Os ydych chi’n bwyta deiet amrywiol gyda llawer o ffrwythau a llysiau ffres, yna dwi’n credu ei bod hi’n berffaith iawn i chi fwynhau bwyta’n selsig i." Byddai’r cwsmeriaid yn dweud, "Dwi wrth fy modd hefo’ch selsig chi, Mr Jenkins. Maen nhw’n blasu’r un fath yn union â phan oeddwn i’n blentyn. Mae’n braf cael rhai pethau sydd heb newid dros y blynyddoedd".
Dim ond y cig gorau oedd Tom yn ei ddefnyddio yn ei selsig. Roedd yn eu cadw ar silff isaf yr oergell, uwchben y drôr salad, ac ar y tymheredd cywir, 0-5c. Trueni na fyddai ei gwsmeriaid yn gwneud yr un fath!
Pennod 4 Y Byg Nawr rydan ni bron â chyrraedd rhan bwysicaf fy stori fach i, ond cyn hynny, hoffwn gyflwyno un cymeriad arall i chi. Rhyw gymeriad bychan bach a gafodd ei ddal yn un o selsig Eidion Gorau Jenkins y Cigydd. Germ. Byg bychan bach. Nid y math o germ fyddai’n gwneud i chi besychu na snwffian na dioddef cur pen. Na, na. Roedd hwn yn waeth o lawer.
Campylobacter oedd ei enw iawn. Dyma beth fyddai pobl barchus yn galw.........poen bol neu fola tost. Wn i ddim pam fod eisiau rhoi enw parchus i rywbeth mor ffiaidd â Campylobacter.
Poen bol. Petaech chi’n clywed pobl sy’n dioddef o’r byg yma, ‘parchus’ ydy’r gair olaf fyddai’n dod i’r meddwl. "OOOooooooooooooohhhhhh! Mae gen i hen boen bol drybeilig, doctor ." "Felly wir, Mr Jones. Beth yw’r symptomau?” "O, mae’n annioddefol, doctor. Mae’n teimlo fel pe bai rhywun yn gwasgu’n nhu mewn i yn dynn,dynn. Ydych chi erioed wedi teimlo fel pe bai criw o ddawnswyr wrthi’n gwneud dawns y glocsen ym mhellafoedd eich perfeddion chi?"
"Na, Mr Jones, dwi ddim yn meddwl ’mod i erioed wedi cael y fraint honno." "Wel, mae angen pedwar rholyn papur tŷ bach y dydd i drin y byg yma! Mae’n gwneud i chi deimlo mor wan a blinedig hefyd. A dyna’r broblem. Pan mae’n amser mynd, mae’n rhaid i chi fynd......fel cath i gythrel!"
Nawr, fe welwch chi yn nes ymlaen yn y stori sut wnaeth y selsig arbennig hon gael ei heintio gyda’r Byg. Ond am y tro, beth am i ni ystyried y problemau fydd y Byg yn eu hachosi. Bydd angen meicrosgop arnoch chi gan ei fod mor fach, ond allwch chi mo’i osgoi. Fe fydd yno, yn: Llechu. Cynllwynio. Cynllunio. Bydd yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr adeg pan fydd pawb yn sylwi arno. Yn edrych ymlaen at gael rheibio’ch stumog a’ch perfedd chi. Dim ond dau beth sy’n gallu ei atal.
1. Dogn dda o ddiheintydd; ond pryd glywsoch chi am rywun yn dowcio eu selsig Eidion Gorau mewn bwcedaid o ddiheintydd? • 2. Gwres. Gwres cryf, da. Y math o wres sydd dan y gril, yn y popty neu ar farbeciw chwilboeth. Mae angen i’ch selsig chi gael eu cogino nes eu bod yn cyrraedd gwres o 70oC ac mae angen cynnal y gwes hwnnw am o leiaf dau funud. • A chofiwch; storiwch eich bwyd yn gywir hyd nes y byddwch yn barod i ddechrau coginio..
Diheintydd neu wres oedd y peth diwethaf roedd Campylobacter ei eisiau. Byddai’n well ganddo gael rhywfaint o gynhesrwydd. Byddai hynny’n ei alluogi i fridio. Gallai ddyblu a threblu cyn pen dim. Byddai ganddo filiynau o ffrindiau newydd mewn dim o dro – pob un yn rhan o’i ymgyrch i fwrw boliau pawb!
Pennod 5 • Y Sioe Arddwriaethol • Ar ddechrau mis Medi, yn fuan wedi i’r plant ddychwelyd i’r ysgol, mae cymdeithas y rhandiroedd yn cynnal ei sioe arddwriaethol flynyddol. Mae hwn yn achlysur o fri bob blwyddyn, lle mae pawb yn cymharu llysiau ei gilydd. Mae’r bwmpen fwyaf yn ennill Cwpan Sinderela. Mae perchennog y foronen bertaf yn ennill tocyn anrheg gan yr optegydd lleol. Mae perchennog yr ardd berlysiau fwyaf iachus yn ennill potel galwyn o ddiod Dandelion a Burdock. Dwi wrth fy modd yn gweld yr holl lysiau, ond yn fwy na dim, dwi wrth fy modd yn y rhandir, gydag haul ola’r haf yn raddol droi’n aur yr Hydref.
Daeth Ewythr Arthur heibio un bore. Fe oedd yn trefnu’r barbeciw fel arfer, ac roedd angen help llaw arno i lunio’r rhestr siopa. "Cofiwch am y byrgyrs llysieuol," gwaeddodd Modryb Doreen. Roedd hi’n mynd drwy’r chwiw ‘llysieuol’ ar y pryd. "Dwi eisiau byrgers GO IAWN," gwaeddais i. "Byrgers cig coch blasus. Y rhai sy’n diferu o saim ac sy’n hisian ar y barbeciw."
"Gwna’n siŵr dy fod ti’n prynu rhai braster isel," atebodd Mam. "Mae llawer o bobl yn ceisio bwyta’n iach y dyddiau hyn.” Ymhen hir a hwyr, roedd y rhestr siopa yn barod:
6 pecyn o olwythion porc. • 3 kg o nionod. • 10 pecyn o roliau bara. • 10 pecyn o roliau bys a bawd. • 5 pecyn o goesau cyw iâr. • 5 pecyn o fyrgers cig eidion hanner-braster . • 10 tun o selsig cŵn poeth. • Potel fawr o sôs coch. • Potel fawr o sôs barbeciw. • Rholyn enfawr o ffoil • Llond sach o fananas. • 5 tun o hufen chwistrellu • (braster isel: mam yn mynnu!)
Yn sydyn, dywedodd dad rhywbeth. Roedd e wedi bod yn hollol dawel cyn hyn. Dywedodd e........a dwi’n dal i glywed y geiriau’n troi a throsi yn fy mhen hyd heddiw. "Paid ag anghofio rhai o selsig Eidion Gorau Tom Jenkins, Arthur. Fydd y barbeciw yn dda i ddim heb selsig Eidion Gorau Tom Jenkins.” "Dim problem," meddai Arthur. "Fe af i’w nôl nhw nos Wener, y noson cyn y barbeciw." Petawn i ond yn gallu troi’r cloc yn ôl.
Pennod 6 Y Diwrnod Mawr "Bobol bach, mae’n boeth," meddai Elin. "Gareth, wyt ti’n cofio diwrnod mor boeth â hyn? Hei Gareth......ond ydy hi’n chwilboeth? Ydy hi i fod mor boeth â hyn yr adeg yma o’r flwyddyn?" "Sut dylwn i wybod?" atebais i. "Wel, ti’n hŷn na fi......ti fod i wybod pob dim." ”Nac ydw siwr, dydw i ddim yn gwybod popeth." Tydi merched yn gallu mynd ’mlaen a ‘mlaen? Roeddwn i’n dechrau colli amynedd – oherwydd y gwres efallai.
Roedd hi wedi bod yn noson mor glos fel bo rhaid i mi daflu’r cwilt oddi ar y gwely, a hyd yn oed wedyn allwn i ddim cysgu. Dywedodd y ferch dywydd mai dyma’r mis Medi cynhesaf ers deugain mlynydd. Newyddion da, am wn i, os oeddech chi’n trefnu barbeciw. Roedden ni’n aros wrth giât y rhandir, gan gysgodi dan glamp o goeden afalau. Argol! Roedden nhw’n anferth, ac roedd ‘na gwpwl o fisoedd eto cyn y bydden nhw’n barod i’w defnyddio i wneud pastai.
Yn sydyn, dyma sŵn "bîb bîb" yn dod rownd y gornel. Hen gar Morris Ewythr Arthur oedd e. Am gar bach del! Roedd ganddo baneli pren ar hyd cefn ac roedd y tu mewn yn llawn dop o fagiau siopa. Aethon ni ati ar unwaith i’w helpu i ddadlwytho’r car, gan fynd â’r bwyd i gyd i sied Ewythr Arthur. Roedden ni wedi glanhau’r sied y noson cynt. Fi oedd wedi gorfod sgubo’r hen we pry cop yng nghornel dywyll y sied. Pam, meddech chi? Wel, am fod merched yn casáu pryfed cop. Dyna pam. O leiaf fe lwyddodd Elin i lanhau’r ffenestri a brwsio’r llawr. A dweud y gwir, roedd y sied mor lân, gallai meddyg fod wedi cynnal llawdriniaeth yno!
Roedden ni wedi benthyg tua deg o flychau oer, gyda phob un yn llawn pecynnau rhew a fyddai’n cadw’r bwyd yn oer hyd nes y byddai’r barbeciw’n barod. Allwch chi ddim bod yn rhy ofalus wrth drin bwyd. Rhaid ei gadw’n oer, neu bydd germau’n dechrau bridio. "Rhowch y darnau cyw iâr i gyd yn y blychau oer melyn, a’r golwythion porc yn y blychau oer coch," meddai Ewythr Arthur. "O’r gorau," atebais i. "Beth am y byrgers braster isel? " holodd Elin. "Cadwa nhw yn y rhai gwyrdd," meddai Ewythr Arthur.
Mewn dim o dro, roedd popeth yn ei le. "Bendigeidfran o fendigedig," meddai Arthur, gan daflu winc. Petai un ohonon ni ond wedi sylwi ar y pecyn mawr o selsig Eidion Gorau Tom Jenkins oedd yn cuddio’n glud o dan got law blastig, ddu yng nghist gynnes y car.
Pennod 7 Y Barbeciw Tua thri o’r gloch y prynhawn, penderfynodd Ewythr Arthur gynnau’r barbeciw. Roedden ni wedi’i weld yn gwneud hyn o’r blaen. Roedd hi bob amser yn broses gyffrous; ond roedd angen bod yn ofalus iawn. I ddechrau, fe osododd y barbeciw ar y patio carreg o flaen ei sied. "Pasia y siarcol i mi, Doreen. Tu ôl i’r offer garddio." "O, nac ydy ddim. Wela i ddim siarcol yma. Sut beth ydy e?" "Fanacw, yn y gornel. Pryd ddwedest ti dy fod ti’n mynd i gael prawf llygaid nesaf?"
"Mae’n llygaid i’n berffaith iawn, diolch yn fawr Arthur. O......dyma fo’r siarcol." Roedd y siarcol wedi’i gadw mewn sach fawr gyda’r label, "Nionod" arno. Na, doeddwn i erioed wedi deall ffordd Ewythr Arthur o drefnu pethau! Taflodd y siarcol ar y barbeciw, a bu’n rhaid i mi wenu pan ddiflannodd wyneb Ewythr Arthur dan gwmwl o fwg du, trwchus. Daeth rhyw lais o’r tu ôl i’r cwmwl du, "Alli di ....’peswch’.... estyn...’peswch peswch’...... yr hylif tanio i mi, Doreen?"
"Iawn, dyma ti," gwaeddodd, gan basio’r botel blastig gyda llun penglog ac esgyrn croesion ar ei hochr. Heb feddwl, cymerais dri cham yn ôl. Fe wnaeth Elin yr un peth hefyd. Dechreuodd Arthur daflu’r hylif tanio ar y barbeciw. "Mae hynny’n hen ddigon, siawns?" meddwn i. "Bron iawn," atebodd Arthur. "Bydd pob dim yn Fendigeidfran o fendigedig toc." Cymerodd rolyn o bapur newydd, a thanio’i flaen. Yna, taflodd e ar y barbeciw. Dechreuodd fudlosgi am eiliad, yna,
Diolch byth, roedd y ffrwydrad wedi’i gyfyngu i ochrau’r barbeciw. Y newydd drwg oedd bod y siarcol yn saethu i’r awyr fel petai’n dod o wn mawr. Neidiodd Elin a minnau i ganol llwyn gwsberis, dim ond mewn pryd, cyn i’r siarcol ddisgyn yn ôl i’r ddaear fel cenllysg du. Yn rhyfedd ddigon, roedden ni wedi hen arfer â digwyddiadau o’r fath. Gan fod Ewythr Arthur a Modryb Doreen yn byw mor agos, roedd profiadau fel hyn yn gyffredin iawn.
Mentrodd Elin a fi o ddiogelwch y llwyn gwsberis, gan lanhau’r llwch oddi ar ein dillad, a dechrau casglu’r darnau siarcol. Ychydig funudau’n ddiweddarach, roedden ni’n barod i roi cynnig arall arni. "Hei Arthur, trïa ddefnyddio hwn," meddai Modryb Doreen. Roedd hi newydd gael hyd i botel fach frown yng nghrombil ei bag llaw. "Olew Morus Ifans" oedd y label arno. Roedd y botel yn edrych mor hen â phechod. O gofio’r ffrwydrad blaenorol cymerodd Elin a minnau ddeg cam yn ôl.
Roedd Arthur wedi dechrau mynd i hwyl pethau erbyn hyn. "Ydych chi’n barod?" gofynnodd. Taniodd y papur newydd. "3......2......1......Ffwrdd â ni!" WHYYY......YMP