130 likes | 415 Views
Ffenestr Johari. Ffenestr Johari. Wedi ei henwi ar ôl enwau cyntaf ei dyfeiswyr- Joseph Luft a Harry Ingham Modelau defnyddiol yn disgrifio’r broses o ryngweithio dynol. “ Ffenestr” pedair chwarel yn rhannu ymwybyddiaeth bersonol yn bedwar math gwahanol
E N D
Ffenestr Johari • Wedi ei henwi ar ôl enwau cyntaf ei dyfeiswyr- • Joseph Luft a Harry Ingham • Modelau defnyddiol yn disgrifio’r broses o ryngweithio dynol.
“Ffenestr” pedair chwarel yn rhannu ymwybyddiaeth bersonol yn bedwar math gwahanol • fel y’u cynrychiolir gan ei phedwar cwadrant: agored, cuddiedig, dall, ac anhysbys. • Mae’r llinellau sy’n rhannu’r pedair chwarel fel cysgodlenni ffenestr, sy’n gallu symud wrth i’r rhyngweithio fynd yn ei flaen.
Hysbys i’r Hunan Heb fod yn hysbys i’r Hunan • Hysbys i Eraill • Heb fod yn Hysbys i Eraill AGORED DALL CUDDIEDIG ANHYSBYS
Agored • 1. Mae’r cwadrant “agored” yn cynrychioli pethau rwyf yn eu gwybod amdanaf fy hun, ac rydych chithau yn eu gwybod amdanaf
Dall • 2. Mae’r cwadrant “dall” yn cynrychioli pethau rydych chi yn eu gwybod amdanaf, ond nad wyf i’n ymwybodol ohonynt.
Cuddiedig • 3. Mae’r cwadrant “cuddiedig” yn cynrychioli pethau rwyf yn eu gwybod amdanaf fy hun, nad ydych chi yn eu gwybod
Anhysbys • 4. Mae’r cwadrant “anhysbys” yn cynrychioli pethau nad wyf i’n eu gwybod amdanaf fy hun, na chithau yn eu gwybod amdanaf chwaith
Un ffordd o wneud y cwadrant agored yn fwy yw drwy hunan-ddatgeliad, • Proses o roi a derbyn rhyngof i a’r bobl rwyf yn rhyngweithio â nhw. • Wrth i mi rannu rhywbeth amdanaf fy hun (Rwy’n symud gwybodaeth o’r cwadrant cuddiedig i’r un agored)
Agored Hunan Ddatgeliad Dall Anhysbys Cuddiedig
Os oes gan y parti arall ddiddordeb mewn dod i’m hadnabod, byddant yn ymateb yn ôl, drwy ddatgelu gwybodaeth o’u cwadrant cuddiedig nhw yn yr un modd
Rydym hefyd yn ennill gwybodaeth amdanom ein hunain drwy gael adborth gan eraill ac mae hynny yn galluogi i mi ddysgu mwy am agwedd arnaf fy hun nad wyf yn ymwybodol ohoni ac felly mae gwybodaeth yn symud o’r cwadrant DALL i’r un AGORED.
Wrth i mi rannu mwy ac ennill mwy o wybodaeth amdanaf fy hun dechreuaf ennill mewnwelediad drwy fewnsyllu am agweddau amdanaf fy hun nad oeddwn i nac eraill yn ymwybodol ohonynt, pethau fel yr ysgogiadau sydd yn ein gyrru, cymhellion a greddfau, y pethau llai cyffyrddadwy hynny rydym yn eu derbyn heb feddwl llawer amdanynt. Mae’r mewnwelediadau hyn yn helpu i symud gwybodaeth o’r cwadrant anhysbys i’r un AGORED.