160 likes | 491 Views
Tebygolrwydd. Tebygolrwydd. Tebygolrwydd – pa mor debygol yw rhywbeth o ddigwydd. Y gair Saesneg am debygolrwydd yw probability. Geiriau sydd yn ymwneud â tebygolrwydd:. Tebygol. Amhosibl. Siawns Deg. Sicr. Annhebygol. Llinell Debygolrwydd. Lle ar y llinell debygolrwydd bydd y
E N D
Tebygolrwydd Tebygolrwydd – pa mor debygol yw rhywbeth o ddigwydd. Y gair Saesneg am debygolrwydd yw probability. Geiriau sydd yn ymwneud â tebygolrwydd: Tebygol Amhosibl Siawns Deg Sicr Annhebygol
Llinell Debygolrwydd Lle ar y llinell debygolrwydd bydd y termau yma? Siawns Deg Amhosibl Annhebygol Tebygol Sicr
Pa air sydd yn mynd gyda pha frawddeg? Siawns Deg Amhosibl Annhebygol Tebygol Sicr Byddaf yn cael fy mhen-blwydd y flwyddyn yma. Ni fydd y prif athro yn yr ysgol Dydd Llun. Byddaf yn gwylio y teledu heno. Rydw i wedi gweld mochyn yn hedfan. Bydd Arsenal yn curo Chelsea ddydd Sul.
Termau Tebygolrwydd Byddwch chi’n cael gwers mathemateg arall. Bydd person yn eich dosbarth yn sâl yfory. Bydd mochyn yn hedfan heibio’r ffenestr. Byddwch chi’n gwylio’r teledu heno. Bydd y Dreigiau yn curo Connacht. Taflu saith ar ddis cyffredin. Taflu eilrif ar ddis cyffredin. Mae hi’n mynd i fwrw glaw rhywbryd yr wythnos yma.
6 4 5 3 2 1 0 ½ 1 Sicr Amhosibl Cael eich geni ym Mawrth. Cael 3 wrth daflu dis. Cael cynffon wrth daflu darn arian. 3 2 1 Tynnu glein glas ar hap o’r bag. Tynnu ciwb coch o’r bag ar hap. 4 Cael 5 ar y troellwr. 6 5 4 5 5 5 Tebygolrwydd Ble fyddech chi’n gosod y digwyddiadau canlynol ar y llinell?
Tebygolrwydd Siawns Deg Sicr Amhosibl Annhebygol Tebygol 0 1/4 1/2 3/4 1 Mae POB tebygolrwydd rhwng 0 ac 1 Dylai tebygolrwydd gael ei fynegi fel ffracsiwn (1/4) neu ddegolyn (0.25)
Tebygolrwydd 0 1/4 1/2 3/4 1 Byddwch chi’n cael gwers mathemateg arall. Bydd person yn eich dosbarth yn sâl yfory. Bydd mochyn yn hedfan heibio’r ffenestr. Byddwch chi’n gwylio’r teledu heno. Bydd y Dreigiau yn curo Connacht. Taflu saith ar ddis cyffredin. Taflu eilrif ar ddis cyffredin. Mae hi’n mynd i fwrw glaw rhywbryd yr wythnos yma.
Tebygolrwydd Pwy all ddweud beth yw y tebygolrwydd o cael cynffon ar ddarn arian? Y tebygolrwydd yw 1/2 Pwy all ddweud beth yw y tebygolrwydd o cael 6 ar ddis teg? Y tebygolrwydd yw 1/6 Mae Bethan yn prynu un tocyn raffl. Fe werthwyd 100 tocyn i gyd. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd Bethan yn ennill? Y tebygolrwydd yw 1/100 Mae Elin yn prynu 3 tocyn. Beth yw’r tebygolrwydd y bydd Elin yn ennill? Y tebygolrwydd yw 3/100
Tebygolrwydd • Y nodiant P(x) = ½ • “Y tebygolrwydd y bydd digwyddiad X yn digwydd yw ½” • Rhaid cofio bod tebygolrwydd yn adio i wneud 1 bob amser • e.e P(llwyddo) = ¼, felly P(methu)= ¾ Tebygolrwydd fod rhywbeth yn digwydd Nifer y ffyrdd gall rhywbeth ddigwydd Cyfanswm nifer y ffyrdd =
Tebygolrwydd Mae gan Sara fag sydd yn cynnwys 4 pêl wen, 3 pêl ddu, 2 bêl goch ac 3 pêl werdd. Beth yw’r tebygolrwydd ei bod hi yn dewis ar hap a) Pêl werdd Tebygolrwydd o bêl wyrdd = Nifer y peli gwyrdd Cyfanswm y peli = 1 4 = 3 12 b) Pêl wen? Tebygolrwydd o bêl wen = Nifer y peli gwyn Cyfanswm y peli = 4 12 = 1 3
Tebygolrwydd syml • Beth yw’r tebygolrwydd : • o gael pen wrth daflu darn 1c? • (b) o ddewis pêl goch o fag sydd yn cynnwys 2 bêl goch ac un pêl werdd? • (c) o daflu 5 ar ddis cyffredin? • (ch) o daflu eilrif ar ddis cyffredin? • (d) o daflu ffactor o 12 ar ddis cyffredin? • (dd) o daflu rhif cysefin ar ddis cyffredin? • (e) o ddewis y 2 bêl gyntaf mewn loteri o 20 rif (1-20)? • (f) o gael rhif 4 neu gerdyn rhawiau mewn pecyn o gardiau cyffredin?
Tebygolrwydd Beth yw’r tebygolrwydd o ddigwyddiad yn peidio â digwydd? Beth yw y tebygolrwydd o beidio rowlio 6 ar ddis teg? Mae’r tebygolrwydd o rowlio 6 yn 1/6. 5 6 1 6 Tebygolrwydd o rowlio 6 Felly, y tebygolrwydd o beidio â rowlio 6 yw 1 – 1/6 gan bod tebygolrwydd yn adio i 1.
Tebygolrwydd Mae gan Ceri pac o gardiau teg - hynny yw 52 cerdyn, 4 siwt gwahanol. Beth yw’r tebygolrwydd ei bod yn tynnu siwt calonnau ar hap? Tebygolrwydd = Nifer o galonnau Nifer y cardiau = 13 = 1 52 4 Beth yw’r tebygolrwydd nad yw’n tynnu siwt calonnau ar hap? Tebygolrwydd = Nifer o gardiau nad ydynt yn galonnau Nifer y cardiau = 39 = 3 52 4 Neu 1 – 13 52
Tebygolrwydd • Beth yw’r tebygolrwydd o beidio â chael eilrif ar ddis cyffredin? • Beth yw’r tebygolrwydd o beidio â chael cerdyn rhif 8 o bac o gardiau cyffredin? • Mewn bag o 120 o beli mae 24 yn goch, 30 yn las, 8 yn wyrdd, 16 yn wyn, 18 yn felyn, 4 yn ddu, 12 yn oren ac 8 yn borffor. Beth yw’r tebygolrwydd: • O gael pêl goch neu las? • O beidio â chael pêl ddu na gwyn? • O beidio â chael pêl ag ‘r’ yn y lliw? • O gael pêl gwyrdd, gwyn, melyn, du neu oren? • O beidio â chael pêl goch na glas? • Y tebygolrwydd o ennill gwobr mewn raffl ar ôl prynu 1 tocyn yw 1/36. Beth yw’r tebygolrwydd na fydd Mari yn ennill os yw hi’n prynu 8 tocyn? • O wybod bod P(car)=0.2, P(bws)=0.6 a P(cerdded)=0.2 ac nid yw’r naill yn effeithio ar y llall o gwbl, cyfrifwch • P(dim car); ii. P(dim bws) iii. P(dim car na bws) • iv. Os yw 1200 o blant yn defnyddio’r dulliau hyn i fynd i’r ysgol, faint o blant fyddech chi’n disgwyl i fynd (a) mewn car; (b) ar fws; (c) trwy gerdded? • Mewn loteri elusennol mae peli o rif 1-48. Er mwyn ennill yr ail wobr mae angen dewis eilrif sydd hefyd yn rhif sgwâr. Beth yw’r tebygolrwydd o wneud hynny? Er mwyn ennill y prif wobr, mae angen dewis odrif sy’n rhif cysefin sydd 1 yn fwy na rif sgwâr. Beth yw’r tebygolrwydd o beidio ag ennill y prif wobr?