110 likes | 340 Views
Cymeriadau ‘Electra’. Electra. Y prif brotagonist yw Electra. Merch y brenin Agamemnon a Clytemnestra Ei phrif gymhelliad yw dial marwolaeth ei thad a laddwyd gan ei mam Drwy’r ddrama, mae’n barod i herio’r drefn er mwyn dial am ei farwolaeth
E N D
Electra • Y prif brotagonist yw Electra. • Merch y brenin Agamemnon a Clytemnestra • Ei phrif gymhelliad yw dial marwolaeth ei thad a laddwyd gan ei mam • Drwy’r ddrama, mae’n barod i herio’r drefn er mwyn dial am ei farwolaeth • Ym mhortread Soffocles nid oes ochr cas na dieflig iddi. Mae hi am weld cyfiawnder yn digwydd.
Edrychwch ar y lluniau Edrychwch ar y lluniau. • Pa un sydd agosaf at eich syniad chi o Electra? • Oes un yn hollol wahanol i’ch syniad chi o Electra? Trafodwch pam!
Y cymeriad • Mae’r rhan yn un sy’n cynnig sialensau i actor. Mae’n rhaid cyfleu dyfnder galar Electra ynghyd â’r angen am ddial ar ei mam. Y casineb yma tuag at ei mam sy’n anodd i’w bortreadu, a’r dyfnder o anobaith y mae hi’n wynebu cyn darganfod bod ei brawd dal yn fyw.
Darllenwch yr araith isod. Nodwch y geiriau pwysig ym mhob brawddeg. Beth mae rhain yn ei ddweud wrthym am deimladau Electra ar ddechrau’r ddrama? O oleuni pur, ac awyr yn rhannu’n gyfartal â daear, faint fy ngriddfanau! Faint a welaist o daro bronnau, nes eu bod yn gwaedu erbyn y byddai nos dywyll yn troi’n ddydd. Ffieidd-dra gwylnosau di-gwsg y bydd fy ngwely yn ei weld yn y neuaddau hyn; mor ddwys fy ngalarniadau ar ôl fy nhad Na fu fawr mewn gwlad dramor ar wlad Ares, y duw rhyfel, ond ei ladd yma
Cofiwch nad oes dehongliad cywir nag anghywir ond amrywiaeth barn. Sylwch ar y defnydd o eiriau ar y dechrau fel ’pur’, ‘awyr’, a ‘daear’- pethau naturiol. Yna cawn ‘griddfanau’, ’taro bronnau’, ‘gwaedu’, ‘nos dywyll’ ’ffieidd-dra’, ‘di- gwsg’. Mae’r rhain yn rhoi syniad i ni am deimladau Electra ar ddechrau’r ddrama ac yn allwedd i actor ddehongli’r cymeriad ar y dechrau. Nid oes rhaid dangos bob agwedd o gymeriad yn syth mewn perfformiad – dangos agweddau gwahanol drwy’r ddrama yw camp actor da. Mae’r araith yn dweud llawer am gyflwr meddyliol Electra ac hefyd yn gosod y math o gymeriad yw hi i’r gynulleidfa.
Bydd y wraig hon sy’n siarad mor hunangyfiawn yn para i nwrdio’n enbyd: ‘Ferch annaturiol atgas,’ yw ei gair amdana i, ‘ai ti’n unig sydd â thad sydd wedi marw? A oes neb arall o bobl y byd mewn galar? I ddistryw â thi! Peidien nhw, dduwiau’r isfyd, A dy waredu byth o’r wylofain sy’n dy boeni di.’ Felly y mae’n difrio, ond pan glyw hi sôn Fod Orestes ar ei ffordd yma Y pryd hynny bydd hi’n gynddeiriog, A bydd hi’n taflu ar draws fy nannedd: ‘Dy waith di yw hyn. Onid dy waith di Oedd dwyn Orestes o ‘mreichiau i, A’i anfon ymaith yn ddiogel. Fe gei di dy haeddiant am hyn, gelli fentro’ Edrychwch ar yr araith isod gan Electra. Mae Electra’n dweud y geiriau hyn cyn cael gwybod bod Orestes wedi marw
Gweithgaredd - Yr Araith Beth yw’r gofynion i actor yn yr araith? Sut bydd rhaid i actor baratoi’r adran yma mewn ystafell ymarfer? Beth mae Electra’n ceisio ei wneud yn yr araith? Sut mae hi’n disgwyl i’r gynulleidfa ymateb? Ceisiwch weithio am ryw 10 munud ar yr araith. Canolbwyntiwch ar y canlynol: • Cymhelliad Electra • Y darnau lle mae ei mam yn siarad • Pwysleisio’r geiriau pwysig yn y brawddegau. • Unwaith rydych yn hapus gyda’r geiriau, ceisiwch roi symudiadau i fynd â’r adran. • Meddyliwch - gyda phwy mae Electra’n siarad? Fe fydd hyn yn effeithio ar eich symudiadau
Electra • Credir bod symudiadau yn y Theatr Roegaidd yn rhai mawrion gan fod y theatrau’n dal dros 15,000 o bobl a mwyafrif y gynulleidfa’n bell i ffwrdd. • Felly roedd yr holl symudiadau, mae’n debyg, yn araf ac yn eithaf amlwg. • Y dyddiau hyn, mae ein theatrau yn rhai bach, agos atoch chi. Mae’r gynulleidfa wedi arfer â realaeth teledu neu ffilm ac yn ei chael yn anodd ymdopi â symudiadau annaturiol. • Mae’n bosib ceisio llwyfannu’r araith mewn mwy nag un arddull symud.
Gweithgareddau • Gwrandwch ar y ddeialog rhwng Electra a Chrysothemis ar ddechrau’r ddrama • A yw’r geiriau’n rhoi arwydd clir o dymer y ddau gymeriad? • Ydy’r geiriau’n rhoi argraff i ni o agweddau gwahanol y ddwy chwaer? • Ydy’r ddwy actores yn cyfleu’r gwahaniaeth rhwng y ddwy yn eu perfformiad?