70 likes | 434 Views
Yom Kippur. Y mae Yom Kippur yn ddiwrnod arbennig i Iddewon o gwmpas y byd. Yom Kippur yn golygu Diwrnod Cymodi ac mae hyn yn golygu diwrnod o ofyn am faddeuant gan Dduw am unrhyw beth drwg yr ydych wedi ei wneud yn y flwyddyn a fu.
E N D
Yom Kippur • Y mae Yom Kippur yn ddiwrnod arbennig i Iddewon o gwmpas y byd. Yom Kippur yn golygu Diwrnod Cymodi ac mae hyn yn golygu diwrnod o ofyn am faddeuant gan Dduw am unrhyw beth drwg yr ydych wedi ei wneud yn y flwyddyn a fu...
Yn y diwrnodau cyn Yom Kippur, y mae Iddewon yn ymddiheuro i unrhyw un y maent wedi ei frifo neu ypsetio, felly pan ddaw y diwrnod arbennig, fe fydd Duw yn maddau iddynt
Ar y diwrnod arbennig yma y mae 5 gwasanaeth addoli yn y synagog Ar ddiwedd y dydd fe fydd yr offeiriad yn chwythu’r shofar i ddweud bod Yom Kippur wedi gorffen Y mae Iddewon yn mynd i’r synagog i ofyn am faddeuant Y mae’r offeiriad yn chwythu’r shofar
Yn ystod Yom Kippur mae Iddewon yn Ymprydio am 25 awr, Ddim yn gwisgo esgidiau lledr, Ddim yn gwisgo cholur na phersawr, Ddim yn ymolchi Y mae Iddewon yn gwisgo rhywbeth gwyn i ddangos glendid
Beth yw ymprydio? Pa grefyddau eraill sydd yn ymprydio? Pam ydych chi’n meddwl fod pobl yn ymprydio?
Y mae Iddewon yn danfon cardiau i ffrindiau a theulu yn gofyn am faddeuant
Eich tasg! Cynlluniwch gerdyn Yom Kippur …