280 likes | 437 Views
‘Chwarae i Ddysgu’. Cyflwyniad. Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: gefndir ‘Chwarae i Ddysgu’. Diben. Cynyddu hyder, gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ymarferwyr er mwyn gwella sgiliau corfforol a sgiliau symud creadigol plant. Canlyniadau.
E N D
Cyflwyniad Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • gefndir ‘Chwarae i Ddysgu’
Diben • Cynyddu hyder, gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth ymarferwyr er mwyn gwella sgiliau corfforol a sgiliau symud creadigol plant
Canlyniadau Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd gan y cyfranogwyr fwy o ymwybyddiaeth o: • yr adnodd ‘Chwarae i Ddysgu’ • sut y gall yr adnodd ‘Chwarae i Ddysgu’ • wella arfer presennol • cyfrannu at iechyd, ffitrwydd a lles plant • ategu gwaith cynllunio ac athroniaeth y Cyfnod Sylfaen Yn ogystal, dylent fod yn gallu: • gwella sgiliau corfforol plant • dechrau adnabod strategaethau effeithiol ar gyfer rhaeadru’r wybodaeth hon i eraill • dechrau llunio cynllun ar gyfer gweithredu ‘Chwarae i Ddysgu’
Y darlun ehangach • Mae ‘Chwarae i Ddysgu’ yn rhan o’r fenter Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (AGChY) a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a reolir gan Chwaraeon Cymru. • Mae prosiect AGChY wedi datblygu cyfres o gyrsiau ac adnoddau Datblygiad Proffesiynol Parhaus i gynorthwyo ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 3 i 19 oed.
Mae Datblygiad Corfforol a Symud Creadigol yn bwysig oherwydd: • mae plant ifanc yn ddysgwyr gweithgar sy’n mwynhau dysgu drwy chwarae a gweithgareddau corfforol • caiff sgiliau corfforol plant eu datblygu’n gyfannol ar draws pob Maes Dysgu. Ceir llawer o gyfleoedd i blant ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth yn y Meysydd Dysgu • gall problemau â datblygiad corfforol plentyn neu bryderon ynghylch ei ddatblygiad corfforol ddangos y gallai fod gan y plentyn rai anawsterau dysgu • bydd rhai plant ar y blaen i blant eraill o ran tyfu’n fwy medrus yn gorfforol, felly mae’n bwysig arsylwi sgiliau plant ac ystyried anghenion unigol • wrth i blant symud ymlaen drwy’r Cyfnod Sylfaen a dod yn fwy hyderus, bydd eu gallu i gydlynu symudiadau echddygol bras a manwl yn parhau i wella a byddant yn dysgu sgiliau newydd • maent yn cyfrannu at iechyd, ffitrwydd a diogelwch plentyn
Cefndir • Cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm Cenedlaethol diwygiedig yn 2008 • Adroddiad ar y Cyfnod Sylfaen 2007 • Ymgynghoriad cenedlaethol • Llunio Cynllun Gweithredu’r Cyfnod Sylfaen • Ymchwilio i adnoddau cyfredol • Treialu • Cynhyrchu adnoddau • Partneriaethau newydd • Hyfforddiant ymwybyddiaeth • Hyfforddiant ar weithredu
Pam dechrau â… …Llyfraustori?
Beth sydd yn y blwch? Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • elfennau ‘Chwarae i Ddysgu’
Beth sydd yn y blwch? • Mewn parau, cwblhau’r gweithgaredd ‘Beth sydd yn y blwch?’
Archwilio darpariaeth barhaus Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • sut y gallant ddefnyddio elfennau ‘Chwarae i Ddysgu’ mewn darpariaeth barhaus
Archwilio darpariaeth barhaus • Gweithio fesul pedwar ac fel dau bâr: pâr A a phâr B • Pob grŵp o bedwar yn gweithio mewn ‘Gardd’, yn casglu cerdyn ‘Eich Gardd’ a chardiau cymell A a B • Arsylwi a chynllunio • Trafod
Hierarchaeth o Sgiliau Echddygol Bras Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • yr Hierarchaeth o Sgiliau Echddygol Bras, Sgiliau Symud, Sgiliau Rheoli’r Corff a Sgiliau Trafod a Thrin a’r camau ‘wrth iddynt ddatblygu’, ‘wrth iddynt wneud cynnydd’ ac ‘wrth iddynt ddod yn fwy medrus’
Hierarchaeth o Sgiliau Echddygol Bras • Mewn grwpiau o bedwar • Gweithgaredd Trefnu Cardiau – Bydd gennych sawl sgìl a’r penawdau canlynol: ‘wrth iddynt ddatblygu’, ‘wrth iddynt wneud cynnydd’ ac ‘wrth iddynt ddod yn fwy medrus’. Fel grŵp, rhaid i chi roi’r sgiliau mewn trefn hierarchaidd dan y pennawd priodol • Cymharu • Trafod
Archwilio tasgau â ffocws Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • sut y gallant ddefnyddio elfennau ‘Chwarae i Ddysgu’ i gefnogi tasgau â ffocws • sut y gellir defnyddio’r adnoddau i wella iechyd, ffitrwydd a lles plant
Archwilio tasgau â ffocws • Ymwneud â thasg â ffocws ar gyfer datblygiad corfforol gan ddefnyddio ‘Cerdyn Gweithgareddau’ • Trafod iechyd, ffitrwydd a lles • Ymwneud â thasg â ffocws ar gyfer symud creadigol, a ddatblygwyd o’r un ‘Cerdyn Gweithgareddau’ • Trafod • Cynllunio
Cardiau Awgrymu Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • sut y gellir defnyddio elfennau ‘Chwarae i Ddysgu’ i gefnogi darpariaeth barhaus, darpariaeth wedi’i chyfoethogi a darpariaeth â ffocws • Cardiau Awgrymu ‘Chwarae i Ddysgu’
Cardiau Awgrymu • Cynllunio yn y Cyfnod Sylfaen • Cymharu • Trafod
Cyfleoedd Dysgu Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • natur gyfannol ‘Chwarae i Ddysgu’ • egwyddorion tynnu gwaith symud o destunau eraill
Cyfleoedd Dysgu • ‘Cyfleoedd Campus’ o’r straeon • Cynnwys yn ymwneud â symud, o destunau eraill • Defnyddio adnoddau i gefnogi’r syniadau hyn • Trafod
Dysgu y tu allan i Oriau Ysgol • Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • bwysigrwydd darparu cyfleoedd ‘Dysgu y tu allan i Oriau Ysgol’ i’r grŵp oedran hwn • y problemau sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth hon • y rhwydwaith o unigolion a all gyfrannu at y ddarpariaeth hon
Dysgu y tu allan i Oriau Ysgol • Cwblhau’r cwis iechyd plant mewn grwpiau o bedwar • Cynnal gweithgaredd mat bwrdd ‘Dysgu y tu allan i Oriau Ysgol’ • Pwy all helpu?
Rhaeadru i bobl eraill Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • strategaethau effeithiol ar gyfer rhaeadru’r wybodaeth hon i bobl eraill • y rhwydwaith o unigolion ym mhob Awdurdod Lleol sy’n gallu cynorthwyo ymarferwyr i raeadru gwybodaeth a gweithredu ‘Chwarae i Ddysgu’
Cynllunio Gweithredu • Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn gallu llunio: • camau gweithredu tymor byr a thymor canolig o ganlyniad i fynychu’r hyfforddiant ‘Chwarae i Ddysgu’ • y meini prawf ar gyfer llwyddo y byddant yn eu defnyddio i fesur effaith y cwrs ar ganlyniadau’r Cyfnod Sylfaen • y dystiolaeth y byddant yn ei chasglu i gadarnhau bod yr effaith honno wedi’i chael • sut y byddant yn adrodd ynghylch cynnydd/arfer da ac wrth bwy
Golwg ar yr Adnoddau Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn gallu: • dechrau llywio eu ffordd o amgylch y CD-ROM ‘Chwarae i Ddysgu’ a thrafod sut y gellir ei ddefnyddio i gynorthwyo â gwaith cynllunio a chyflwyno yn y Cyfnod Sylfaen
Sesiwn lawn • Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn ymwybodol o: • gyrsiau eraill sydd ar gael iddynt Erbyn diwedd y sesiwn hon, dylai ymarferwyr fod yn gallu: • cynnig sylwadau myfyriol ynghylch gwerth y cwrs iddynt hwy fel unigolion, eu hysgol/lleoliad a’u plant