1 / 35

Celfyddyd Gymreig - Adeiladau

Celfyddyd Gymreig - Adeiladau. Ymddiriedolaeth Celfyddyd Gain Clwyd a’r Cyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd (ADDA). Cynnwys:. Trafodaeth. Lluniadu. Collage a Lluniadu. Mwy o Luniau.

elden
Download Presentation

Celfyddyd Gymreig - Adeiladau

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Celfyddyd Gymreig - Adeiladau Ymddiriedolaeth Celfyddyd Gain Clwyd a’r Cyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd (ADDA)

  2. Cynnwys: Trafodaeth Lluniadu Collage a Lluniadu Mwy o Luniau Delweddau trwy garedigrwydd Celf Gain Clwyd a Chyd-wasanaeth Addysg Amgueddfeydd

  3. 1. Trafodaeth Cynhyrchwyd y darlun yma o Gastell Caernarfon gan Joseph Dodd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n dangos sut wisg oedd gan bobl yr ardal yn ogystal â rhai o’r ffyrdd yr oeddynt yn teithio yn ystod y cyfnod. Mae’n syndod meddwl mai dyma’r olygfa oedd o flaen yr artist pan gynhyrchodd y gwaith. Edrychwch yn ofalus ar y darlun. Disgrifiwch beth sydd yn wahanol ynddo i’r hyn a welwn heddiw mewn golygfa debyg gan ganolbwyntio ar wisg y cymeriadau a’r cychod. Joseph Josiah Dodd Caernarfon castle, Market Day

  4. Gwilym Pritchard Red Sky and Farmhouse Yn y darlun yma gan Gwilym Pritchard mi welwn arddull gwbl wahanol i Joseph Dodd, uchod. Mae’r artist wedi dewis symleiddio ffurf y ffermdy, y cymylau a’r gwrychoedd. Drwy adlewyrchu coch yr awyr yn ffenestri’r adeilad ac yn y gwrychoedd mae Gwilym Pritchard wedi llwyddo i gynhyrchu undod yn y cyfansoddiad. Mae’r defnydd o weadedd yn nhrwch y paent yn rhoi dyfnder i’r darlun.

  5. David Woodford After the Rain Gwelwn yma, yn narlun David Woodford, After the Rain esiampl effeithiol iawn o gynhyrchu adlewyrchiadau i ddelweddu gwlybaniaeth. Trwy ddefnyddio ansawdd debyg yn nhôn pob un o’r lliwiau mae’r artist wedi gallu atgynhyrchu’r naws o ddiwrnod cymylog a chawodlyd.

  6. Gwilym Pritchard Red Sky and Farmhouse Edrychwch ar y peintiadau gan Gwilym Pritchard a David Woodford. Trafodwch y gwaith gan ddefnyddio geiriau i ddisgrifio'r lliwiau (e.e. cynnes, oer, llachar, dwl, golau, tywyll a.y.y.b. ... ). Delwedd (e.e. manwl, syml, lliwgar, realistig, llawn dychymyg a.y.y.b. ... ). David Woodford After the Rain

  7. Ble ydych chi’n meddwl y gwnaeth yr artist y gwaith? Beth sy'n gwneud ichi feddwl hyn? Images courtesy of Clwyd Fine Art Trust and Joint Area Museum Education Service

  8. Ydych chi’n meddwl fod yr artist wedi gwneud brasluniau cyn gwneud y gwaith? Beth sy'n gwneud ichi feddwl hyn?

  9. Ydych chi’n meddwl fod yr artist yn gweithio'n gyflym ynteu'n araf? Sut ellwch chi ddweud hyn?

  10. Sut mae'r lliwiau yn y gwaith yn gwneud ichi deimlo?

  11. Sut dywydd oedd hi pan beintiwyd y gwaith ydych chi’n meddwl? Sut ellwch chi ddweud hyn?

  12. Ble ydych chi’n meddwl y gwnaeth yr artist y gwaith? Beth sy'n gwneud ichi feddwl hyn?

  13. Ydych chi’n meddwl fod yr artist wedi gwneud brasluniau cyn gwneud y gwaith? Beth sy'n gwneud ichi feddwl hyn?

  14. Ydych chi’n meddwl fod yr artist yn gweithio'n gyflym ynteu'n araf? Sut ellwch chi ddweud hyn?

  15. Sut mae'r lliwiau yn y gwaith yn gwneud ichi deimlo?

  16. Sut dywydd oedd hi pan beintiwyd y gwaith ydych chi’n meddwl? Sut ellwch chi ddweud hyn?

  17. Beth sy'n debyg yn y gweithiau?

  18. Beth sy'n wahanol?

  19. Pa un sydd orau gennych a pham?

  20. Beth sy'n wahanol ynghylch y lliwiau?

  21. Pam wnaethon nhw nhw ddewis y lliwiau hyn ydych chi’n meddwl?

  22. Sut mae'r gweithiau yn gwneud ichi deimlo?

  23. Edrychwch yn ofalus ar ddefnydd Gwilym Pritchard o liw Beth yw’r lliw amlwg? Ble ellwch chi weld y lliw yma? Pam feddyliwch chi y dewisodd y llefydd hun i roi’r lliw?

  24. Edrychwch ar y ffordd y mae David Woodford yn dangos golau Sut feddyliwch chi y cyflawnodd yr effeithiau hyn? Pa liwau a ddefnyddiodd i roi golwg wlyb ar doiau’r tai? Ydych chi’n meddwl fod yr adlewyrchiadau yn bwysig a pham?

  25. 2. Lliniadu Defnyddiau sydd eu hangen: Llyfrau neu bapur braslunio a byrddau arlunio, siarcol, pensilau, priciau graffit, pasteli olew gwyn, inc India, potiau dŵr. Ewch â'ch llyfrau braslunio, pensel a siarcol y tu allan. Gwnewch luniau o unrhyw adeiladau y gellwch eu gweld gan ddefnyddio'r holl ddefnyddiau sydd gennych. Defnyddiwch gymaint o wahanol farciau ag sy'n bosib. Ceisiwch ychwanegu gymaint o fanylion ag y gellwch at eich lluniau. Gwnewch yn siwr eich bod yn llenwi'r dudalen gyda'ch llun. Gwnewch dri llun o dri gwahanol adeilad. Yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, defnyddiwch y pasteli olew gwyn i ychwanegu darnau goleuach at eich llun gorau. Trochwch y pric graffit yn yr inc du a'i dynnu dros eich llinellau tywyllaf - edrychwch ar y marciau diddorol y gellir eu gwneud fel hyn! Nawr edrychwch ar daflen waith 1

  26. 4. Collage a Lliniadu Defnyddiau sydd eu hangen: Papur arlunio A2, amrywiol bapur collage (papur newydd, papur brown, papur sidan, crêp, cerdyn trwchus a.y.y.b.) glud PVA, tâp masgio, paent gwyn, inc, siarcol, graffit, pensel, brwsh, pot dŵr. Ewch yn ôl at un o'r lluniau gwreiddiol a wnaethoch ar ddechrau'r prosiect. Dewiswch un sydd â llawer o linellau a siapiau ynddo. Hwn fydd y llun y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich collage. Cyn ichi ddechrau darlunio mae angen ichi baratoi eich wyneb darlunio. I wneud hyn, cymrwch eich papur arlunio A2, rhwygwch amrywiol fathau eraill o bapur (papur newydd, papur brown, papur sidan) yn siapiau diddorol. Crensiwch rai ohonynt a'u gwastatáu i greu gweadau newydd. Glynwch nhw ar eich papur arlunio, gor-ymylwch rai ohonynt, gadwch rywfaint o'r papur arlunio yn y golwg. Defnyddiwch lud PVA i ofalu bod y papur wedi‘i lynu'n iawn. Defnyddiwch dâp masgio mewn rhai mannau i greu ymylon syth mewn gwrthgyferbyniad ag ymylon rhwygedig y papur. Unwaith y byddwch yn fodlon ar eich wyneb darlunio newydd, gadwch iddo sychu. Nawr edrychwch ar daflen waith2

  27. Malcolm Edwards Greenfield Valley Mill

  28. Malcolm Hughes Composite Monsanto

  29. Elis Gwyn Pencoed

  30. John Ingleby St. Winefride’s Well

  31. Wilhemina Mary Martin Street View, Conwy

More Related