200 likes | 366 Views
Enillwyr ac Enillwyr. Dyma stori gafodd ei hadrodd gan ddyn o’r enw Al Covino a oedd yn dod o America. Fel hyfforddwr coleg byddwn yn gwneud fy ngorau glas i helpu fy myfyrwyr ennill eu gemau i gyd. Roeddwn i am iddynt ennill gymaint ag yr oeddent hwy. AL COVINO.
E N D
Dyma stori gafodd ei hadrodd gan ddyn o’r enw Al Covino a oedd yn dod o America Fel hyfforddwr coleg byddwn yn gwneud fy ngorau glas i helpu fy myfyrwyr ennill eu gemau i gyd. Roeddwn i am iddynt ennill gymaint ag yr oeddent hwy.
Ond cafodd fy marn am ennill a cholli ei newid yn dilyn digwyddiad dramatig mewn gêm roeddwn i'n dyfarnu ynddi. Roeddwn i'n dyfarnu mewn gêm gynghrair pencampwriaeth pêl-fasged yn New Rochelle, Efrog Newydd rhwng New Rochelle a Yonkers High.
Hyfforddwr New Rochelle oedd Dan O'Brien a hyfforddwr Yonkers oedd Les Beck. Roedd y gampfa'n orlawn, ac roedd y cefnogwyr yn gwneud cymaint o sŵn fel na allai neb glywed dim. Roedd y gêm yn dda iawn ac roedd yn gystadleuaeth agos. Roedd Yonkers un pwynt ar y blaen ac wrth i mi edrych ar y cloc, gwelais mai dim ond 30 eiliad oedd ar ôl.
Roedd y bêl ym meddiant Yonkers, a dyma nhw'n pasio - yn saethu - ac yn methu. Dyma New Rochelle yn adennill y bêl - yn ei phasio i fyny'r cwrt - ac yn saethu. Dyma'r bêl yn hofran yn bryfoclyd ar ymyl y rhwyd ac oddi arni. Sgrechai'r cefnogwyr.
Dyma New Rochelle, y tîm cartref yn adennill y bêl ac yn ei tharo i'r rhwyd a chael y fuddugoliaeth fel y tybiwn i. Roedd y sŵn yn fyddarol. Edrychais ar y cloc a gweld bod y gêm drosodd. Doeddwn i ddim wedi clywed y seiniwr terfynol oherwydd y sŵn. Es i ofyn i'r swyddog arall, ond doedd e ddim yn gallu fy helpu.
Wrth geisio help yn y cyffro a'r dryswch, es i draw at yr amserwr, dyn ifanc tua 17 oed. Dywedodd, "Mr Covino, fe ganodd y seiniwr wrth i'r bêl rolio oddi ar ymyl y rhwyd, cyn y taro i mewn terfynol."
Roeddwn i mewn sefyllfa lletchwith ofnadwy wrth orfod rhoi'r newyddion drwg i O'Brien yr hyfforddwr. "Dan," meddwn i, "roedd yr amser wedi dod i ben cyn taro'r fasged olaf i mewn. Yonkers enillodd y gêm."
Tywyllodd ei wyneb. Daeth yr amserwr ifanc atom. Meddai, "Mae'n ddrwg gen i, Dad. Roedd yr amser wedi dod i ben cyn y fasged olaf."
Yn sydyn fel haul ar fryn, goleuodd wyneb O'Brien yr hyfforddwr. Dywedodd, "Popeth yn iawn, Joe. Fe wnest ti'r hyn oedd yn iawn. Rwy'n falch iawn ohonot ti. Gan droi ataf i, meddai, "Al, dyma fy mab, Joe."
Cerddodd y ddau oddi ar y cwrt gyda'i gilydd, a braich yr hyfforddwr am ysgwyddau ei fab.