150 likes | 314 Views
S4C 2012– Cyd-Destun Ymchwil. Ffynonellau Ymchwil. Grwpiau Trafod (Ymchwil Ansoddol)– 15 grwp trafod y flwyddyn ar draws Cymru ar raglenni a phynciau amrywiol - YouGov
E N D
Ffynonellau Ymchwil • Grwpiau Trafod (Ymchwil Ansoddol)– 15 grwp trafod y flwyddyn ar draws Cymru ar raglenni a phynciau amrywiol -YouGov • Ymchwil Plant a Phobol Ifanc – nifer fawr o grwpiau trafod ac arolygon ar wasanaethau a rhaglenni - Ymchwil Gwasanaethau Plant S4C • Gwerthfawrogiad – Panel Ymateb – 1,500 o bobl sy’n cael eu holi yn fisol : ddyddiadur gwylio ac holiadur yn gofyn eu barn am raglenni a gwasanaethau Kantar Media • Tracio Delwedd – Arolwg gyda 1,000 o sampl yn holi dwy waith y flwyddyn am ddelwedd a chryfderau genres -SPA
Ffynonellau Ymchwil • Ystadegau’r We – ffigyrau safonol ar fesuriadau’r wefan:ymweliadau, ymweliadau unigryw ac argraffiadau tudalen - Nielsen • Sesiynau Gwylio - ffigyrau safonol ar niferoedd o sesiynau gwylio (drwy Clic, safleodd eraill a Ffrydio Byw) -Multistream a SawMill • Ffigyrau gwylio – Ffigyrau gwylio dyddiol manwl ar raglenni, gan gynnwys ymddygiad gwylio, proffiliau, data rhanbarthol, rhuglder ayb - BARB
Be mae ymchwil diweddar yn dangos? • Noson Gwylwyr 25/10/2010– mae yna gynulleidfa graidd sy’n ein gwerthfawrogi’n fawr (ac yn gyfrifol am ganran mawr o’n gwylio), ac mae yna apel gref iawn i sawl elfen o’n hamserlen bresennol. Ond mae hefyd galw am S4C “newydd” gan eraill. Dysgwyr yn galw am fwy ar eu cyfer. Cefnogaeth gref iawn i Cyw a gwasanaethau Plant. • Y wybodaeth yn ategu canlyniadau ein holl waith ymchwil ar hyd y blynyddoedd, er enghraifft Tracio Delwedd a phrosiect Gwylwyr Ysgafn Mai 2010. Roedd hwnnw yn nodi ein llwyddiannau pendant o ran bod yn lleol a bod yn unigryw o ran cynnwys, ond yn nodi bod angen rywbeth mwy – gwasanaethu’r oedran “canol” rhwng 25-45, cael mwy o adloniant, comedi, hwyl a rhaglenni gafaelgar - “engaging” a “talked about”. • Ofcom – gwylio teledu yn yr oriau brig dal yn bwysig iawn.
Be arall mae ymchwil yn dangos? • O ran siaradwyr Cymraeg, mae 74% o’n gwylio yn dod o 20% o’r gynulleidfa* – felly dyma’r gynulleidfa graidd. Nodweddion y gynulleidfa graidd: • 92% o lefel ruglder 1 (mwyaf rhugl) • 91% dros 35 oed, 62% dros 65 oed • 45% o’r Gogledd, 44%o’rGorllewin/Canolbarth, 11% o’r De • Ar y llaw arall, mae 45% o’n cyrhaeddiad wythnosol** yn dod o gyrhaeddiad unigryw – h.y. y gwylwyr achlysurol sy’n gwylio un rhaglen yn unig yr wythnos. • Felly mae yna gydbwysedd rhwng gwylwyr craidd a gwylwyr achlysurol. * Wythnosau 14-46, 2010 BARB **BARB, 2010
Be arall mae ymchwil yn dangos? • Y Di-Gymraeg – mae 25% o’r gynulleidfa yn yr oriau brig* yn dod o bobl Di-Gymraeg. • Mae’n cyrhaeddiad ni’n isel iawn ymysg y iau ond yn uchel ymysg y rhai hŷn: 2010: cyrhaeddiad wythnosol oriau Cymraeg*: Siaradwyr Cymraeg Oedolion 41% Plant (4-15) 16% 16-24 15% 65+ 72% * Data 2010 : BARB
Gwerthfawrogiad • Mae gwerthfawrogiad S4C uchlaw prif sianeli PSB eraill yng Nghymru. • Mae hyn yn wir ymysg Cymry Cymraeg a’r Di-Gymraeg * Kantar Media – Panel Ymateb ** BBC 1, BBC2 ac ITV1
Y We a Gwylio Ar-Lein • Bu 161,000 o ymweliadau i safle we S4C bob mis* ar gyfartaledd yn 2010 • Roedd 91,000 o ddefnyddwyr unigryw bob mis ar gyfartaledd. • Roedd 1.5 miliwn o argraffiadau tudalen y mis. • Mae Ionawr a Chwefror 2011 yn dangos cynnydd blwyddyn ar-flwyddyn o ran ymweliadau (+23%) a defnyddwyr unigryw (+23%). * Data Nielsen , 2010, cymhariaeth gydag 2009 ddim yn bosib ( dull mesur gwahanol).
Y We a Gwylio Ar-Lein • Roedd cynnydd o 44% blwyddyn ar flwyddyn i sesiynau gwylio rhaglenni (gan gynnwys ffrydio byw) 2010 o gymharu â 2009. • 1,606,162 yn 2010 • 1,113,843 yn 2009 • Mae Panel Ymateb Kantar Media yn rhoi amcanion fod gwylio rhaglenni S4C ar-lein yn 0.8% o'r holl wylio (2010). Mae hwn yn debyg iawn i data BARB (arolwg omnibus) ble mae 1% o gwylio oedolion yn cael ei wneud ar-lein. • Gwyddom fod y gynulleidfa sy’n gwylio ar-lein yn iau ar gyfartaledd na chynulleidfa teledu.
Beth yw ein cryfderau? • Mae’r holl ymchwil, ynghŷd â gwybodaeth o’r Noson Gwylwyr yn dangos mai’n cryfderau pendant yw: • Bod yn “lleol” a thrwy hynny yn berthnasol ac yn unigryw drwy ystod eang o’n rhaglenni. • Adlewyrchu Cymru gyfan, a Chymru wledig a chyfoes. • Safon i raglenni penodol fel rhai dramau ac eraill. • Digwyddiadau, chwaraeon o Gymru, rhaglenni plant (yn enwedig Cyw), dogfennau perthnasol i Gymru, a cherddoriaeth o Gymru yn gryfderau amlwg, ymhell uwchlaw sianeli eraill. • I nifer o’r gwylwyr craidd, S4C yw “teledu” – gwylio pobeth. (Rhain sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan ail-ddarllediadau).
Beth sydd angen? • Cadw’r gynulleidfa graidd yn hapusOND: • Bod yn “ysgafnach” o ran arddull mwy o’n cynnwys. • Cael cynnwys gafaelgar, iau, adloniadol a chomedi. • Safon yn parhau i fod yn bwysig. • Mae’r gynulleidfa yn adnabod rhaglenni rhad o bell – rhaid bod yn ddyfeisgar. • Wrth fod yn ysgafnach – bydd rhaid hyrwyddo hynny yn benodol. Mae’n “annisgwyl” i’r rhan fwyaf o’n gynulleidfa potensial – y rhai nad ydynt yn gwylio ar y funud. • Iaith symlach: clir, a naturiol. Hyrwyddo hyn hefyd.
Gwylio ac Argaeledd i wylio • Mae cyrhaeddiad wythnosol 18.30-21.30 (2010) yn 309,000. • Mae cyfartaledd miloedd 18.30-21.30 rhwng 27,000 a 32,000 dros y 9 mlynedd diwethaf (28,000 yn 2010). Mae hyn yn arwydd o sefydlogrwydd yn ystod yr oriau brig mewn cyfnod o newid i deledu digidol. • Cyrhaeddiad wythnosol holl oriau Cymraeg, 2010 = 467,000 (18,000 yn fwy nac yn 2009). • Sleids nesaf yn dangos argaeledd i wylio 2010
Brigo am 21:00 - 1,421 (Ll-G) - 1,462 (Sad-Sul) Dros miliwn yn gwylio ar ol 18:00 - 997 (Ll-G) - 1,082 (Sad-Sul) • Cwymp sylweddol rhwng 22:00 i 24:00 • 918k yn diffodd y teledu (Ll-G) • 887 yn diffodd y teledu (Sad-Sul) Cynnydd sylweddol ar ôl 15:30 - 509 (Ll-G) - 733 (Sad-Sul)
Cyrhaeddiad Rhaglenni dros 100,000 2010
Rhaglenni dros 100,000 o gyrhaeddiad • 32 rhaglen gwahanol • 14 yn ymwneud â Chwaraeon yn uniongyrchol • 2 yn gysylltiedig â Chwaraeon • 5 Pobol y Cwm • 11 yn ymwneud â Cherddoriaeth neu Digwyddiad • Mae 84 rhaglen unigol wedi denu dros 100,000 • 53 yn ymwneud â Chwaraeon yn uniongyrchol • 4 yn gysylltiedig â Chwaraeon • 14 Pobol y Cwm • 13 yn ymwneud â Cherddoriaeth neu Digwyddiad