110 likes | 297 Views
O ddrylliog ddinas Bethlehem. ‘Mae gen i fwy o fywyd i’w fyw’. Bethlehem heddiw. Prin yw’r gobaith heddiw yn Ninas Ddrylliog Bethlehem Ar draws Israel a thir meddiant Palestina mae llawer o blant yn byw mewn ofn a dychryn oherwydd y trais a’r rhyfela. Bethlehem heddiw.
E N D
Bethlehem heddiw Prin yw’r gobaith heddiw yn Ninas Ddrylliog Bethlehem Ar draws Israel a thir meddiant Palestina mae llawer o blant yn byw mewn ofn a dychryn oherwydd y trais a’r rhyfela.
Bethlehem heddiw Lleolir tref hynafol Bethlehem ar y Lan Orllewinol, tua phum milltir o Jerwsalem (Meddianwyd y Lan Orllewinol, gan gynnwys Dwyrain Jerwsalem a Llain Gasa gan Israel ers 1967)
Mudiad y YMCA Mae’r YMCA, partner Cymorth Cristnogol yn cynnal rhaglenni datblygu ar y Lan Orllewinol, yn ardal Beit Sahour. Mae’n cynnig gwasanaeth cynghori, ac adferiad corfforol a hyfforddiant swyddi ar gyfer y rhai ag anafwyd yn feddyliol ac yn gorfforol gan y gwrthdaro.
Mae Noor Rabia yn 17 oed. Collodd ei law dde mewn ffrwydrad tair blynedd yn ôl Collodd ei hunan hyder yn llwyr a gadawodd yr ysgol.
Diolch i’r YMCA, anfonwyd Fatin al Shoppi i gynghori Noor. Yn ystod y dair blynedd ddiwethaf cafodd gymorth i fedru delio â’i golled, dychmygu dyfodol gwahanol, a derbyn arian i brynu llaw brosthetig.
Gobaith am ddyfodol newydd ‘Gwnaeth Fatin i mi weld fod gen i fwy o fywyd i’w fyw – mwy o obaith.’ Bellach, dychwelodd Noor i’r ysgol ac mae’n gallu paratoi yn well ar gyfer ei ddyfodol.
Beth am estyn cymorth i blant tebyg i Noor y Nadolig hwn? Gall £8.50 dalu am sesiwn grŵp therapi celf i blentyn sy’n dioddef trawma. Gall £25 ariannu diwrnod o hyfforddiant galwedigaethol yn y grefft o gerfio pren olewydd, i berson anabl. Gall £55 gynnig sesiwn deuddydd o gynghori i blentyn a brofodd trawma seicolegol.
Arwain ni i Fethlehem Arglwydd. Dangos eto’r baban Iesu – Brenin y Brenhinoedd mewn preseb. Atgoffa ni dy fod wedi dod atom, heb rwysg, ond mewn cariad tawel, afrad yn sibrwd chwyldro: ‘rhyddid rhag gormes a newydd da i’r tlawd’. Arwain ni i fannau drylliedig – defnyddia ni i adeiladu gobaith a gweithio i’w trawsnewid. Amen. ‘