130 likes | 319 Views
Beth yw deialog?. Deialog yw sgwrs rhwng dau berson neu fwy. Rydyn ni’n clywed deialog o’n cwmpas bob dydd, e.e. yn yr ysgol, yn y siop ac ar y radio.
E N D
Beth yw deialog? Deialog yw sgwrs rhwng dau berson neu fwy. Rydyn ni’n clywed deialog o’n cwmpas bob dydd, e.e. yn yr ysgol, yn y siop ac ar y radio.
Rydyn ni’n gweld deialog yn ei ffurf ysgrifenedig mewn storïau ac mewn sgript.Maent yn edrych yn wahanol iawn i’w gilydd.Darllenwch yr enghreifftiau a’u trafod.
“Ti’n mynd i fod mor dost heno, Jac,” chwarddodd Glyn, “fel roeddet ti pan ddest ti draw i aros ‘da fi dros y Pasg.” “O! Paid a’n atgoffa i!” atebodd Jac gyda’i wyneb yn gam. “Beth ddigwyddodd, Glyn?” gofynnodd Deian yn eiddgar. “Wel,” dechreuodd Glyn, “wnes i fetio Jac na alle fe roi wy Pasg cyffredin – chi’n gw’bod y Cadbury’s Crème Eggs ‘na – i gyd i mewn i’w geg a’i fwyta o fewn pymtheg eiliad.” “Pymtheg eiliad? Rhwydd!” ebychodd Rhodri. “Dyna beth o’n i’n ei feddwl!” atebodd Jac dan wenu. “Ond synnet ti pa mor anodd yw e!” “Shwt fuest ti mor sâl ‘de?” gofynnodd Rhodri yn feddylgar. “Wnest ti dagu ar yr wy neu rywbeth?” “Ha! Na, na! Dyna lle ddechreuodd yr hwyl, chi’n gweld!” aeth Glyn yn ei flaen, gyda’r wên ar ei wyneb yn lledu wrth yr eiliad. “Ar ôl methu’r tro cynta, ro’dd yn rhaid i Jac drio eto, ac eto, ac eto! Erbyn y diwedd, wel, ro’dd e wedi trio – a methu – bwyta deunaw wy Pasg!” “DEUNAW CRÈME EGG!” gwaeddodd Deian a Rhodri gyda’i gilydd. “Ry’n ni mewn am treat bach heno, bois, dwi’n dweud wrthoch chi!” meddai Glyn, gyda’i wên erbyn hyn yn fwy drygionus nag arfer.” (Tudalennau 32 – 33)
Addasiad o’r sgwrs allan o’r uned Ffrindiau o’r gyfrol ‘Haws Dweud’ Gareth: Beth sy’n bod, Wyn? Rwyt ti’n dawel iawn. Wyn: Dim. Gareth: Dim? Mae rhwbeth yn bod, rwy’n gwbod. Wyn: Alla i ddim dod i’r ymarfer rygbi nos fory. Gareth: Pam? Ti yw’r cyntaf i gyrradd fel arfer? Wyn: Alla i ddim dod, dos gen i ddim ‘sgidie rygbi. Gareth: Beth? Roedd gen ti rai newydd yr wthnos diwetha’. Wyn: Do’s gen i ddim ‘sgidie nawr, iawn? Gareth: Ble maen nhw? Wyn: Wyt ti’n addo peidio dweud wrth neb? Gareth: Ydw, siwr iawn. Wyn: Rydw i wedi colli un ohonyn nhw. Gareth: Beth? Sut? Wyn: Wn i ddim. Ar ôl yr ymarfer yr wthnos diwethaf roeddwn wedi eu rhoi yn fy mag yn barod i fynd. Pan gyrhaeddais gartref dim ond un esgid odd yn y bag. Gareth: Wyt ti wedi dweud wrth dy fam? Wyn: Beth wyt ti’n feddwl? Mae’r ‘sgidie rygbi ‘na ‘di costio llawer i Mam. All hi ddim fforddio prynu rhai eraill i mi. Bydd rhaid i mi ddweud wrthi bod gen i boen yn fy mola heno er mwyn cael peidio mynd i’r ymarfer. Gareth: Bydd rhaid i ti ddweud wrth dy fam. Dwyt ti ddim i fod i ddweud celwydd. Wyn: Dwi’n gwbod. Ond beth wna’ i? Gareth: Rwy’n gwbod. Fe gei di fenthyg fy hen rai i am fory, ac os na ddown ni o hyd i’r esgid goll fe ddof i gyda thi I ddweud wrth dy fam, oreit? Wyn: Olreit, Gar. Diolch i ti.
Beth sy’n wahanol rhwng y sgyrsiau rydych newydd eu darllen?
Wel, mewn nofel mae’r ddeialog yn rhan o’r stori. Rwyt ti’n iawn, Siôn. Ond mewn sgript mae’r stori yn digwydd drwy’r ddeialog.
Mae hynny’n ddigon gwir, Catrin, ond mae sgript ychydig yn wahanol. Dydy hi ddim yn bosibl gwneud hynny mewn sgript oni bai pan mae yna gyfarwyddiadau yn cael eu gosod mewn cromfachau. Pan mae’r ddeialog yn digwydd yn y stori mae modd dweud mwy am y cymeriad, e.e. y ffordd mae e’n siarad neu’n sefyll.
Pan mae cymeriad yn siarad mewn stori mae berf yn dilyn y ddeialog. Mae’r ferf yn dweud sut mae rhywbeth wedi cael ei ddweud a phwy sydd wedi siarad, e.e. “Tawelwch!” taranodd Miss Tomos. Mae’r sgript yn hollol wahanol achos mae enw’r cymeriad sy’n siarad yn dod ar ochr chwith y dudalen cyn yr hyn mae e neu hi’n ei ddweud ac nid ar ôl fel sy’n digwydd mewn stori.
Hei, ferched! Rydw i wedi sylwi ar rywbeth arall sy’n wahanol. Mewn stori mae’r ddeialog wedi ei ysgrifennu rhwng dyfynodau a does dim dyfynodau o gwbl mewn sgript. Yn y sgript mae enwau’r cymeriad sy’n siarad yn dod o flaen yr hyn mae e’n ei ddweud, sy’n golygu nad oes angen dyfynodau.
Ydych chi wedi sylwi ar rywbeth sy’n debyg rhyngddyn nhw? Rydw i wedi! Yn y stori a’r sgript pan mae siaradwr newydd yn siarad mae’n rhaid dechrau llinell newydd bob tro. Clyfar iawn, Rhian!
Da iawn chi blant! Mae’n amlwg eich bod chi wedi deall beth yw’r gwahaniaethau. Beth am i chi fynd ati i ysgrifennu eich deialog eich hun nawr? Edrychwch ar y ddau gymeriad yma. Beth yw eu henwau? Beth rydych chi’n ei feddwl fbddan nhw’n ei ddweud wrth ei gilydd? Sut byddan nhw’n siarad? Pa symudiadau byddan nhw’n eu gwneud gyda’u cyrff? http://www.flickr.com/photos/elaine_macc/with/258434606/